Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 171/2024
Cais:
Dywedwch wrthyf beth yw deilliant yr achosion Ymgyrch Snap canlynol.
Er enghraifft:
– Cwrs ymwybyddiaeth cyflymder
– Pwyntiau a dirwy (faint o bwyntiau a faint oedd y ddirwy)
– Deilliant arall
– Dim gweithredu pellach
Achos 305855
Achos 680389
Achos 161358
Achos 057035
Achos 710661
Achos 018812
Achos 879874
Achos 538450
Achos 814030
Achos 246005
Achos 435523
Achos 099328
Achos 306838
Achos 014115
Achos 387943
Achos 294817
Achos 480421
Achos 248772
Ymateb:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, ond rydym yn esemptio rhan o’r wybodaeth gan ein bod o’r farn bod yr esemptiad canlynol yn gymwys:
Adran 40(2) Gwybodaeth bersonol
Mae adran 40(2) yn esemptiad absoliwt ar sail dosbarth. Mae hyn yn golygu bod y deddfwyr, wrth ysgrifennu’r ddeddfwriaeth, o’r farn y byddai rhyddhau gwybodaeth o’r fath o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn achosi niwed i’r awdurdod cyhoeddus neu’r unigolyn dan sylw. Nid oes felly unrhyw ofyniad i gynnal prawf niwed mewn perthynas â gwybodaeth o’r fath. Nid oes unrhyw ofyniad ychwaith i gynnal prawf budd y cyhoedd.
Adran 40(2) Gwybodaeth bersonol:
Mae adran 40(2) yn gymwys i ddata personol trydydd parti ac y mae’n esempt rhag cael ei datgelu o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 pe bai datgelu, mewn perthynas â data sy’n destun prosesu gorfodi’r gyfraith, yn torri unrhyw un o’r egwyddorion diogelu data a gynhwysir yn Rhan 3, Pennod 2 o Ddeddf Diogelu Data 2018. O dan adran 34 ym Mhennod 2, “Mewn perthynas â data personol, mae’r Rheolydd yn gyfrifol am, a rhaid iddo allu dangos cydymffurfedd â” Phennod 2. Ni fyddai gwybodaeth o’r fath yn cael ei rhyddhau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 oni bai bod elfen gref o ran budd y cyhoedd. Un o’r prif wahaniaethau rhwng Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 2018 yw bod unrhyw wybodaeth sy’n cael ei rhyddhau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cael ei rhyddhau i’r parth cyhoeddus, nid dim ond i’r unigolyn sy’n gwneud cais am yr wybodaeth, ac mae’n rhaid ei datgelu o dan y Ddeddf gan ddwyn hynny mewn cof. O’r herwydd, mae unrhyw wybodaeth a ryddheir sy’n dynodi unigolyn trwy ryddhau ei ddata personol, hyd yn oed data personol trydydd parti, yn esempt.
Diffinnir data personol o dan adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018 fel a ganlyn:
“(2) Ystyr ‘data personol’ yw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn byw adnabyddedig neu adnabyddadwy (yn ddarostyngedig i is-adran (14)(c)).
(3) Ystyr ‘unigolyn byw adnabyddadwy’ yw unigolyn byw y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn benodol wrth gyfeirio at—
(a) Dynodwr fel enw, rhif adnabod, data lleoliad neu ddynodwr ar-lein, neu
(b) Un neu ragor o ffactorau sy’n benodol i hunaniaeth gorfforol, ffisiolegol, genetig, meddyliol, economaidd, diwylliannol neu gymdeithasol yr unigolyn.”
Mae gan bob aelod o’r cyhoedd, gan gynnwys y rhai a gyflogir gan yr heddlu, hawl gynhenid i breifatrwydd, ac mae’r hawliau hyn wedi’u diogelu yn rhinwedd y Ddeddf Hawliau Dynol, Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) ac ni ddylai awdurdod cyhoeddus ymyrryd â’r hawl honno. Mae rhyddhau unrhyw wybodaeth sy’n destun yr esemptiad yn debygol o beryglu’r hawliau hynny.
Deddf Diogelu Data 2018
Rhan 3 – ‘Prosesu Gorfodi’r Gyfraith’, Pennod 2 – ‘Egwyddorion’, adran 35 –
‘Yr egwyddor diogelu data gyntaf’:
“(1) Yr egwyddor diogelu data gyntaf yw bod yn rhaid i brosesu data personol at unrhyw un o’r dibenion gorfodi’r gyfraith fod yn gyfreithlon ac yn deg.”
Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data
Mae erthygl 5 o’r GDPR – ‘Egwyddorion sy’n ymwneud â phrosesu data personol’ yn darparu fel a ganlyn:
“1. Caiff ‘data personol’’
(a) Eu prosesu’n gyfreithlon, yn deg ac mewn modd tryloyw mewn perthynas â gwrthrych y data (‘cyfreithlondeb, tegwch a thryloywder’);
(b) Eu casglu at ddibenion penodol, eglur a chyfreithlon a heb eu prosesu ymhellach mewn modd sy’n anghydnaws â’r dibenion hynny; prosesu pellach at ddibenion archifo er budd y cyhoedd…
2. Bydd y rheolydd yn gyfrifol am baragraff 1 (‘atebolrwydd’) ac yn gallu dangos ei fod yn cydymffurfio ag ef.”
Ni fyddai Heddlu Dyfed-Powys am ddatgelu unrhyw wybodaeth a allai o bosibl adnabod unigolyn. Yn yr achos penodol hwn, byddai rhyddhau deilliannau’r troseddau, yn enwedig o ystyried bod rhifau cyfeirnod yr achos yn unigryw i’r unigolyn a gyflwynodd ddata i Ymgyrch Snap ac y gallai’r unigolyn hwnnw gadw data pellach a allai, o’u cyfuno, arwain at adnabod yr unigolion dan sylw, a rhyddhau gwybodaeth o’r fath yn torri deddfwriaeth diogelu data yn uniongyrchol. Felly, o ganlyniad, rwyf yn fodlon bod esemptiad adran 40(2) ‘Gwybodaeth bersonol’ yn gymwys ar gyfer rhyddhau’r wybodaeth.
Mae esemptiad adran 40 yn esemptiad ar sail dosbarth. Mae hyn yn golygu bod y deddfwyr, wrth ysgrifennu’r ddeddfwriaeth, o’r farn y byddai rhyddhau gwybodaeth o’r fath o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn achosi niwed i’r awdurdod cyhoeddus neu’r unigolyn dan sylw. Nid oes felly unrhyw ofyniad i gynnal prawf niwed mewn perthynas â gwybodaeth o’r fath.
Mae esemptiad adran 40 yn rhannol amodol ac yn rhannol absoliwt. Yn yr achos presennol byddai’n absoliwt gan y byddai rhyddhau’r wybodaeth yn torri deddfwriaeth diogelu data ac felly nid oes unrhyw ofyniad i gynnal prawf budd y cyhoedd.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 23 Mai 2024)