Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 436/2024
Cais:
|
Nifer yr achosion yr ymchwiliwyd iddynt yn ymwneud â “Deddf Difrod Maleisus 1861” mewn eiddo |
2021 |
|
2022 |
|
2023 |
|
|
Nifer yr achosion yr ymchwiliwyd iddynt yn ymwneud â “Deddf Dwyn 1968: Adran 13 (ar gyfer tynnu trydan)” |
2021 |
|
2022 |
|
2023 |
|
|
Nifer yr achosion yr ymchwiliwyd iddynt yn ymwneud â “Deddf Dwyn 1968: Adran 13 (ar gyfer tynnu trydan)” yr amheuwyd eu bod yn ymwneud â thyfu neu weithgynhyrchu cyffuriau anghyfreithlon |
2021 |
|
2022 |
|
2023 |
|
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai fod esemptiadau’n berthnasol, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Pan ddibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed–Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth wedi’ hesemptio), roi hysbysiad i chi, yr ymgeisydd, sy’n: (a) datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam bod yr esemptiad yn gymwys.
Gallaf gadarnhau bod gan Heddlu Dyfed–Powys yr wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani. Fodd bynnag, rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod yr esemptiad adran 12(1), Cost cydymffurfio sy’n fwy na'r terfyn priodol, yn berthnasol iddi.
Adran 12(1) – Cost cydymffurfio sy’n fwy na'r terfyn priodol
Mae adran 12(1) yn datgan fel a ganlyn: “Nid yw adran 1(1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â chais am wybodaeth os yw’r awdurdod yn amcangyfrif y byddai cost cydymffurfio â’r cais yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae cost darparu’r wybodaeth y gofynnir amdani mewn perthynas â’ch cais yn uwch na’r swm lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb, h.y. mae cost lleoli ac adalw’r wybodaeth yn fwy na’r “lefel briodol” fel y nodir yn Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfyn a Ffioedd Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd mwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 888 awr) i gydymffurfio â’r rhan hon o’ch cais. Gellir dod o hyd i’r rheoliadau yn https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae'r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw'r wybodaeth mewn perthynas â Chwestiwn 1 eich cais yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adfer. Yng ngoleuni hyn ac er mwyn cael yr wybodaeth gywir sy’n berthnasol i’ch cais yn yr amserlen a nodwyd, byddai’n rhaid i Heddlu Dyfed-Powys weld yr holl gofnodion trosedd a’u hadolygu â llaw ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ionawr 2021 a 12 Mai 2023 i nodi'r union drosedd.
Mae wedi'i sefydlu bod cyfanswm o 10,657 o gofnodion sy'n cwmpasu'r cyfnod a nodir uchod. Mae hefyd wedi'i sefydlu y byddai'n cymryd o leiaf pum munud i adolygu a chael yr wybodaeth ar gyfer un cofnod mewn perthynas â'ch cais (fel yr amlinellwyd uchod). Mae'r broses a amlinellir yn arwain at yr amcangyfrif amser isod.
10,657 cofnod x 5 munud = 888 awr
Amcangyfrif amser i gwblhau'r dasg = 888 awr
Yn unol felly â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cais cyfan hwn o dan adran 17(5), sef rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn gymwys, o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1), roi hysbysiad i’r ymgeisydd yn datgan y ffaith honno.
Efallai yr hoffech chi fireinio ac ailgyflwyno eich cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod i fod yn llai na 18 awr. Os oes angen unrhyw gyngor pellach arnoch mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth. Sylwer hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nad yw'n dileu hawl yr awdurdod cyhoeddus i ddyfynnu esemptiadau os yw hynny'n berthnasol.
Er bod costau ychwanegol yn dileu rhwymedigaethau'r heddlu i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, fel arwydd o ewyllys da, rwyf wedi darparu gwybodaeth mewn perthynas â Chwestiwn 1 eich cais yr oedd modd ei hadalw’n hawdd ac mae honno wedi'i hamlinellu isod. Hyderaf fod hyn yn ddefnyddiol, ond nid yw'n effeithio ar ein hawl gyfreithiol i ddibynnu ar y rheoliadau ffioedd am weddill eich cais.
C2
Gallaf gadarnhau bod gan Heddlu Dyfed-Powys wybodaeth mewn perthynas â’r cais hwn, fel yr amlinellir isod:
2021 |
13 |
2022 |
24 |
2023 |
21 |
C3
Gallaf gadarnhau bod gan Heddlu Dyfed-Powys wybodaeth mewn perthynas â’r cais hwn, fel yr amlinellir isod:
2021 |
2 |
2022 |
5 |
2023 |
5 |
Dylid nodi, o ganlyniad i'r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o'r fath, y gallai'r wybodaeth a ryddhawyd fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol i heddluoedd y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd a pennir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw'r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi'r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith yw’r gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu data troseddau. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylai ymateb yr heddlu hwn i'ch cwestiynau gael ei ddefnyddio at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall y gallech ei gael.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 16 Mai 2024)