Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 1025/2023
Cais:
Caf ar ddeall fod Heddlu Dyfed-Powys yn defnyddio meddalwedd o’r enw EvoFIT i gynorthwyo rhai o’i ymchwiliadau troseddol. Mae EvoFIT wedi’i chynllunio i greu delweddau o wynebau pobl a ddrwgdybir o dystiolaeth llygad-dystion i drosedd. Cyfeirir weithiau at y delweddau a gynhyrchir fel E-FITs.
O dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, hoffwn ofyn am yr wybodaeth ganlynol:
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
2016
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
2
Ymatebion 3 a 4:
Mae esemptiad adran 43(2) yn gymwys.
Eglurhad o’r esemptiad a gymhwyswyd:
Adran 43(2) – Buddiannau masnachol
“(2) Mae gwybodaeth yn wybodaeth esempt os byddai ei datgelu o dan y Ddeddf hon yn niweidio buddiannau masnachol unrhyw unigolyn (gan gynnwys yr awdurdod cyhoeddus sy’n ei chadw), neu’n debygol o wneud hynny.”
Mae hwn yn esemptiad amodol ar sail dosbarth.Fel esemptiad ar sail dosbarth, mae deddfwyr eisoes wedi derbyn y niwed wrth ryddhau’r dosbarth hwn o wybodaeth. O ganlyniad, nid oes gofyniad i ddangos tystiolaeth o’r niwed wrth ddatgelu gwybodaeth o’r fath. Fodd bynnag, gan fod yr esemptiad yn esemptiad amodol, mae gofyniad i gymhwyso prawf lles y cyhoedd, fel y manylir isod.
Prawf lles y cyhoedd:
Ystyriaethau o blaid datgelu:
Mae gofyniad i roi gwell dealltwriaeth i’r cyhoedd o sut y caiff arian cyhoeddus ei wario. Un o egwyddorion sylfaenol y Ddeddf yw’r angen i fod yn ddidwyll ac yn dryloyw. Yn yr achos hwn, mae budd i’r cyhoedd o benderfynu a ydyw Heddlu Dyfed-Powys wedi negodi cyfradd gystadleuol mewn perthynas â meddalwedd EvoFIT.
Ystyriaethau sy’n ffafrio peidio â datgelu:
Yn yr achos hwn, byddai rhyddhau manylion yn ymwneud â meddalwedd EvoFITyn debygol o niweidio buddiannau masnachol y cyflenwr presennol trwy effeithio’n andwyol ar ei sefyllfa fargeinio yn ystod trafodaethau cytundebol a fyddai’n arwain at ddefnydd llai effeithiol o arian cyhoeddus. Byddai hyn nid yn unig yn niweidio buddiannau masnachol y cwmni/cyflenwr ond hefyd buddiannau masnachol Heddlu Dyfed-Powys, gan y gallai rhyddhau’r wybodaeth hon hefyd effeithio ar gystadleurwydd y contract a fyddai yn ei dro yn effeithio ar y berthynas sydd gan yr heddlu â’r cwmni/cyflenwr, a allai arwain at achos sifil gan drydydd parti.
Prawf cydbwysedd:
Wrth gydbwyso prawf lles y cyhoedd, mae’n rhaid i ni ystyried a ddylai’r wybodaeth gael ei rhyddhau i’r parth cyhoeddus. Mae angen pwyso a mesur manteision ac anfanteision datgelu yn erbyn ei gilydd. Yn yr achos hwn, defnyddir arian cyhoeddus o blaid datgelu y mae angen ei bwyso a’i fesur yn erbyn y difrod a fyddai’n digwydd i unrhyw broses dendro barhaus neu yn y dyfodol a buddiannau masnachol trydydd parti.
Drwy ryddhau’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, mae’n bosibl y bydd buddiannau masnachol busnes ac unigolion yn cael eu peryglu, gan gynnwys rhai Heddlu Dyfed-Powys, ynghyd â’r berthynas sydd gan Heddlu Dyfed-Powys â’r cwmni/cyflenwr neu’r unigolion hynny. Felly, mae’r ffactor sydd o blaid peidio â datgelu, sef difrod sy’n digwydd i unrhyw broses dendro yn y dyfodol a buddiannau masnachol trydydd partïon, yn drech na’r ffactor o blaid datgelu, sef gwell dealltwriaeth o sut y caiff arian cyhoeddus ei wario.
Fel y cyfryw, mae budd y cyhoedd o blaid peidio â datgelu’r wybodaeth ar hyn o bryd. Felly, yn holl amgylchiadau’r achos, mae budd y cyhoedd o gadw’r esemptiad yn drech na budd y cyhoedd o ddatgelu’r wybodaeth.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 7 Mai 2024)