Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 494/2024
Cais:
1) Cyfanswm yr hysbysiadau o fwriad i erlyn am droseddau goryrru a gyhoeddwyd yn y flwyddyn galendr 2023, wedi’u dadansoddi yn ôl terfyn cyflymder. Cofiwch gynnwys pob hysbysiad, ni waeth sut y’i cynhyrchir.
2) O gyfanswm nifer yr hysbysiadau o fwriad i erlyn uchod, faint a gynhyrchwyd o gamerâu sefydlog, hefyd wedi’u dadansoddi yn ôl terfyn cyflymder.
Cwestiwn i geisio eglurhad:
O ran cwestiwn 1, nid yw Heddlu Dyfed-Powys yn rhoi hysbysiadau cosb benodedig. A ydych yn dymuno gwybod nifer y bobl a stopiwyd gan swyddog ac y rhoddwyd adroddiad trosedd draffig iddynt? Fel arall, a hoffech wybod nifer y bobl a stopiwyd gan swyddog ac y rhoddwyd cynnig amodol iddynt gyda dirwy benodedig a phwyntiau os yn berthnasol?
O ran cwestiwn 2, nid yw’r wybodaeth hon yn cael ei chadw gan Heddlu Dyfed-Powys. Cysylltwch â’r
Uned Camera Diogelwch
Blwch SP 95
Trefforest
Pontypridd
CF37 9DH
Ffôn:01443 660402
(llinell ffôn ar agor rhwng 8am a 12pm o ddydd Llun i ddydd Gwener yn unig).
Ateb i egluro:
Ydw. Rhowch nifer y bobl a stopiwyd gan swyddog ac y rhoddwyd adroddiad trosedd draffig iddynt. A wnewch chi gynnwys y terfyn cyflymder, os gallwch?
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai fod esemptiadau’n berthnasol, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Lle dibynnir ar esemptiadau mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth wedi’i hesemptio), roi i chi, y ceisydd, hysbysiad sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad o dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam bod yr esemptiad yn gymwys.
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani. Fodd bynnag, rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod adran 12(1) ‘Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol’, yn gymwys iddi.
Adran 12(1) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(1) yn datgan: “Nid yw adran 1(1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â chais am wybodaeth os ydyw’r awdurdod yn amcangyfrif y byddai’r gost o gydymffurfio â’r cais yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o ddarparu’r wybodaeth y gofynnir amdani mewn perthynas â’ch cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, h.y. mae’r gost o ddod o hyd i’r wybodaeth a’i hadalw yn uwch na’r “lefel briodol” fel y nodir yn Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfyn a Ffioedd Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd yn hwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 109.7 awr) i gydymffurfio â’ch cais. Gellir dod o hyd i’r rheoliadau yn https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244.
Mae’r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw’r wybodaeth mewn perthynas â’ch cais yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw. Yng ngoleuni hyn ac er mwyn cael yr wybodaeth gywir sy’n berthnasol i’ch cais am ran o’r amserlen a bennwyd, byddai’n rhaid i Heddlu Dyfed-Powys gyrchu’r holl adroddiadau troseddau traffig rhwng 13 Mai 2023 a 31 Rhagfyr 2023 a’u hadolygu. Byddai’n rhaid adolygu pob cofnod â llaw i ganfod a ydyw’r drosedd yn ymwneud â chyflymder.
Canfuwyd bod cyfanswm o 2,193 o achosion yn ymwneud â throseddau traffig rhwng 13 Mai 2023 a 31 Rhagfyr 2023. Canfuwyd hefyd y byddai’n cymryd o leiaf dair munud i adolygu a chael yr wybodaeth ar gyfer un achos mewn perthynas â’ch cais (fel yr amlinellwyd uchod). Byddai’r broses a amlinellir yn arwain at yr amcangyfrif amser a geir isod.
2,193 o achosion x 3 munud = 109.7 awr
Amcangyfrif amser i gwblhau’r dasg = 109.7 awr
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn o dan adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn gymwys, roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1).
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr. Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth. Sylwer hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nid yw’n dileu hawl yr awdurdodau cyhoeddus i ddyfynnu esemptiadau os ydynt yn berthnasol.
Er bod costau ychwanegol yn dileu rhwymedigaethau’r heddlu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i roi unrhyw wybodaeth bellach, fel arwydd o ewyllys da, rwyf wedi darparu gwybodaeth mewn perthynas â’ch cais, sy’n cwmpasu’r cyfnod rhwng 1 Ionawr 2023 a 12 Mai 2023, y bu’n hawdd ei hadalw, a’i hamlinellu isod. Hyderaf fod hyn yn ddefnyddiol, ond nid yw’n effeithio ar ein hawl gyfreithiol i ddibynnu ar y rheoliadau ffioedd am weddill eich cais.
|
Trosedd |
Nifer |
|
Terfyn cyflymder 20, cyflymder gwirioneddol 47 |
1 |
|
Terfyn cyflymder 30, cyflymder gwirioneddol 37 |
5 |
|
Terfyn cyflymder 30, cyflymder gwirioneddol 38 |
7 |
|
Terfyn cyflymder 30, cyflymder gwirioneddol 39 |
14 |
|
Terfyn cyflymder 30, cyflymder gwirioneddol 40 |
27 |
|
Terfyn cyflymder 30, cyflymder gwirioneddol 41 |
19 |
|
Terfyn cyflymder 30, cyflymder gwirioneddol 42 |
30 |
|
Terfyn cyflymder 30, cyflymder gwirioneddol 42, dim yswiriant |
1 |
|
Terfyn cyflymder 30, cyflymder gwirioneddol 43 |
18 |
|
Terfyn cyflymder 30, cyflymder gwirioneddol 43, dim yswiriant |
1 |
|
Terfyn cyflymder 30, cyflymder gwirioneddol 44 |
12 |
|
Terfyn cyflymder 30, cyflymder gwirioneddol 45 |
15 |
|
Terfyn cyflymder 30, cyflymder gwirioneddol 46 |
7 |
|
Terfyn cyflymder 30, cyflymder gwirioneddol 47 |
8 |
|
Terfyn cyflymder 30, cyflymder gwirioneddol 48 |
8 |
|
Terfyn cyflymder 30, cyflymder gwirioneddol 49 |
4 |
|
Terfyn cyflymder 30, cyflymder gwirioneddol 50 |
4 |
|
Terfyn cyflymder 30, cyflymder gwirioneddol 51 |
1 |
|
Terfyn cyflymder 30, cyflymder gwirioneddol 52 |
1 |
|
Terfyn cyflymder 30, cyflymder gwirioneddol 53 |
1 |
|
Terfyn cyflymder 30, cyflymder gwirioneddol 55 |
2 |
|
Terfyn cyflymder 30, cyflymder gwirioneddol 58 |
2 |
|
Terfyn cyflymder 30, cyflymder gwirioneddol 64 |
1 |
|
Terfyn cyflymder 40, cyflymder gwirioneddol 48 |
3 |
|
Terfyn cyflymder 40, cyflymder gwirioneddol 49 |
1 |
|
Terfyn cyflymder 40, cyflymder gwirioneddol 50 |
3 |
|
Terfyn cyflymder 40, cyflymder gwirioneddol 51 |
3 |
|
Terfyn cyflymder 40, cyflymder gwirioneddol 52 |
8 |
|
Terfyn cyflymder 40, cyflymder gwirioneddol 53 |
6 |
|
Terfyn cyflymder 40, cyflymder gwirioneddol 54 |
6 |
|
Terfyn cyflymder 40, cyflymder gwirioneddol 55 |
1 |
|
Terfyn cyflymder 40, cyflymder gwirioneddol 56 |
4 |
|
Terfyn cyflymder 40, cyflymder gwirioneddol 57 |
2 |
|
Terfyn cyflymder 40, cyflymder gwirioneddol 58 |
2 |
|
Terfyn cyflymder 40, cyflymder gwirioneddol 59 |
1 |
|
Terfyn cyflymder 40, cyflymder gwirioneddol 60 |
2 |
|
Terfyn cyflymder 40, cyflymder gwirioneddol 61 |
1 |
|
Terfyn cyflymder 40, cyflymder gwirioneddol 63 |
1 |
|
Terfyn cyflymder 50, cyflymder gwirioneddol 73 |
1 |
|
Terfyn cyflymder 50, cyflymder gwirioneddol 90, dosbarth y cerbyd |
1 |
|
Terfyn cyflymder 60, cyflymder gwirioneddol 75 |
1 |
|
Terfyn cyflymder 60, cyflymder gwirioneddol 76 |
1 |
|
Terfyn cyflymder 60, cyflymder gwirioneddol 77 |
3 |
|
Terfyn cyflymder 60, cyflymder gwirioneddol 80 |
4 |
|
Terfyn cyflymder 60, cyflymder gwirioneddol 82 |
2 |
|
Terfyn cyflymder 60, cyflymder gwirioneddol 83 |
1 |
|
Terfyn cyflymder 60, cyflymder gwirioneddol 85 |
2 |
|
Terfyn cyflymder 60, cyflymder gwirioneddol 86 |
1 |
|
Terfyn cyflymder 60, cyflymder gwirioneddol 89 |
1 |
|
Terfyn cyflymder 70, cyflymder gwirioneddol 85 |
1 |
|
Terfyn cyflymder 70, cyflymder gwirioneddol 90 |
1 |
|
Gyrru mewn ffordd nad yw’n cydymffurfio (dim platiau dysgwr / goruchwyliwr) |
1 |
|
Goryrru – mwy na 20 mya – Gorchymyn lleol – offer â chriw |
1 |
|
Goryrru mewn terfyn cyflymder 30 (offer â chriw) |
26 |
|
Goryrru mewn terfyn cyflymder 30 (offer â chriw), defnyddio ffôn symudol / dyfais llaw wrth yrru cerbyd modur |
1 |
|
Goryrru 30/36 (offer â chriw) |
1 |
|
Goryrru 30/43 (offer â chriw) |
1 |
|
Goryrru 30/55 (offer â chriw) |
1 |
|
Goryrru 38/30 (offer â chriw) |
1 |
|
Goryrru 39/30 (offer â chriw) |
3 |
|
Goryrru mewn terfyn cyflymder 40 (criw) |
6 |
|
Goryrru 40/30 (offer â chriw) |
6 |
|
Goryrru 41/30 (offer â chriw) |
2 |
|
Goryrru 42/30 (offer â chriw) |
2 |
|
Goryrru 44/30 (offer â chriw) |
1 |
|
Goryrru 45/30 (offer â chriw) |
2 |
|
Goryrru 48/30 (offer â chriw) |
1 |
|
Goryrru 49/40 (criw) |
1 |
|
Goryrru mewn terfyn cyflymder 50 |
1 |
|
Goryrru mewn terfyn cyflymder 60 ar ffordd unffrwd |
1 |
|
Dosbarth y cerbyd sy’n goryrru (criw) – fan/lori, gyrru cerbyd modur heb arddangos rhif cofrestru blaen |
1 |
|
Cyfanswm |
313 |
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol i heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd, a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu’r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 30 Mai 2024)