Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 1077/2023
Cais:
Rwy'n ymchwilio i achos llofruddiaeth Pantygwenith ger Castellnewydd Emlyn ar ddechrau'r nawdegau pan gafodd Michael John Fry, 32 oed, ei garcharu am ddynladdiad yn Llys y Goron Caerdydd.
A fyddai gennych unrhyw ffeiliau neu wybodaeth y byddwn yn gallu eu gweld?
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai fod esemptiadau’n berthnasol, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw. Pan ddibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i ni roi hysbysiad i’r ymgeisydd sydd: a) yn datgan y ffaith honno, b) yn pennu’r esemptiad(au) dan sylw, ac c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys.
Ni all Heddlu Dyfed–Powys gadarnhau na gwadu ei fod yn cadw gwybodaeth sy’n berthnasol i’r cais hwn gan nad yw’r ddyletswydd yn adran 1(1)(a) o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn berthnasol, yn rhinwedd yr esemptiadau a ganlyn:
Adran 40(5) – Gwybodaeth bersonol
Adran 30(3) – Ymchwiliadau ac achosion a gynhelir gan awdurdodau cyhoeddus
Mae adran 40 yn esemptiad absoliwt ar sail dosbarth ac felly nid oes gofyniad i gynnal prawf niwed neu brawf budd y cyhoedd.
Mae adran 30 yn esemptiad amodol ar sail dosbarth a rhaid rhoi ystyriaeth i fudd y cyhoedd o ran ai cadarnhau neu wadu bod yr wybodaeth yn bodoli yw’r ymateb priodol.
Adran 40(5) – Gwybodaeth bersonol:
Mae’r ddyletswydd i beidio â chadarnhau na gwadu o dan yr adran hon o’r Ddeddf yn codi os byddai cadarnhad ynghylch a yw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yn cael ei chadw neu beidio yn torri unrhyw un o’r egwyddorion diogelu data a gynhwysir yn Rhan 3, Pennod 2 o Ddeddf Diogelu Data 2018. O dan adran 34 ym Mhennod 2, “Mae’r rheolydd mewn perthynas â data personol yn gyfrifol am gydymffurfio â Phennod 2 a rhaid iddo allu dangos cydymffurfedd â hi.”Ni fyddai gwybodaeth o'r fath yn cael ei chadarnhau fel gwybodaeth a gedwir o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 oni bai fod budd y cyhoedd yn gryf. Un o’r prif wahaniaethau rhwng Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 2018 yw bod unrhyw wybodaeth sy’n cael ei rhyddhau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cael ei rhyddhau i’r parth cyhoeddus, nid dim ond i’r unigolyn sy’n gwneud cais am yr wybodaeth, ac mae’n rhaid ystyried hynny wrth ddatgelu o dan y Ddeddf. O'r herwydd, mae unrhyw ryddhau sy'n nodi unigolyn trwy ryddhau ei ddata personol, hyd yn oed data personol trydydd parti, wedi'i esemptio.
Diffinnir data personol o dan adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018 fel a ganlyn:
“(2) Ystyr ‘data personol’ yw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn byw adnabyddedig neu adnabyddadwy (yn ddarostyngedig i is-adran (14)(c)).
(3) Ystyr ‘unigolyn byw adnabyddadwy’ yw unigolyn byw y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn benodol wrth gyfeirio at—
(a) Dynodwr fel enw, rhif adnabod, data lleoliad neu ddynodwr ar-lein, neu
(b) Un neu ragor o ffactorau sy’n benodol i hunaniaeth gorfforol, ffisiolegol, enetig, feddyliol, economaidd, ddiwylliannol neu gymdeithasol yr unigolyn.”
Mae gan bob aelod o’r cyhoedd, gan gynnwys y rhai a gyflogir gan yr heddlu, hawl gynhenid i breifatrwydd ac mae’r hawliau hyn wedi’u diogelu yn rhinwedd y Ddeddf Hawliau Dynol, Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu ac ni ddylai awdurdod cyhoeddus ymyrryd â'r hawl honno. Mae rhyddhau unrhyw wybodaeth sy’n destun yr esemptiad yn debygol o beryglu’r hawliau hynny.
Deddf Diogelu Data 2018
Rhan 3 – Gorfodi’r Gyfraith – Pennod 2 Egwyddorion Adran 35
Yr egwyddor diogelu data gyntaf:This section has no associated Explanatory Notes
“(1) Yr egwyddor diogelu data gyntaf yw bod yn rhaid i brosesu data personol at unrhyw un o’r dibenion gorfodi’r gyfraith fod yn gyfreithlon ac yn deg.”
Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)
Mae Erthygl 5 o’r GDPR – ‘Egwyddorion sy’n ymwneud â phrosesu data personol’ – yn darparu ar gyfer y canlynol:
“1. Bydd ‘data personol’
(a) yn cael ei brosesu’n gyfreithlon ac yn deg ac mewn modd tryloyw mewn perthynas â thestun y data (cyfreithlondeb, tegwch a thryloywder);
(b) wedi’i gasglu at ddibenion penodol, eglur a chyfreithlon a heb ei brosesu ymhellach mewn modd sy’n anghydnaws â’r dibenion hynny; bydd prosesu pellach at ddibenion archifo er budd y cyhoedd…
2. Bydd y rheolydd yn gyfrifol am baragraff 1 (‘atebolrwydd’) ac yn gallu dangos ei fod yn cydymffurfio ag ef.”
Ni fyddai Heddlu Dyfed-Powys am gadarnhau na gwadu a oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw sy’n berthnasol i’r cais os gallai cadarnhad/gwadiad o bosibl adnabod unigolyn. Yn yr achos hwn, gallai unrhyw wybodaeth a allai fod yn berthnasol i’r cais neu beidio gynnwys data personol unigolion adnabyddadwy a byddai unrhyw ddatgeliad, drwy nodi esemptiad neu ddatgan nad oes unrhyw wybodaeth a gedwir, yn amlwg yn torri’r Ddeddf Diogelu Data. O ganlyniad, rwyf yn fodlon bod esemptiad adran 40(5), Gwybodaeth bersonol, yn berthnasol.
Adran 30(3) - Ymchwiliadau ac achosion a gynhelir gan awdurdodau cyhoeddus:
Prawf budd y cyhoedd
Ffactorau o blaid cadarnhau neu wadu ar gyfer adran 30:
Gallai cadarnhau neu wadu bod unrhyw wybodaeth yn bodoli roi boddhad i’r cyhoedd bod ymchwiliadau o’r fath yn cael eu cynnal yn briodol.
Ffactorau yn erbyn cadarnhau neu wadu ar gyfer adran 30:
Er bod budd y cyhoedd o ran tryloywder gweithrediadau plismona a darparu sicrwydd bod Heddlu Dyfed–Powys yn ymdrin yn briodol ac yn effeithiol â digwyddiadau o’r fath, mae budd y cyhoedd cryf mewn diogelu uniondeb ymchwiliadau a gweithrediadau’r heddlu ac mewn cynnal hyder yng ngwasanaeth yr heddlu. Byddai cadarnhau neu wadu bod unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw sy’n berthnasol i’r cais yn tanseilio ac yn peryglu uniondeb unrhyw broses ymchwilio.
Mae unrhyw ddatgeliad o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhyddhau gwybodaeth i'r byd yn gyffredinol ac nid i ymgeisydd unigol. Felly, byddai defnyddio esemptiadau yn unig neu ddatgan nad oes gwybodaeth yn cael ei chadw yn cadarnhau a oes gan heddlu wybodaeth sy'n ymwneud â'r cais ai peidio.
Prawf cydbwysedd
Ni fydd gwasanaeth yr heddlu yn datgelu a yw gwybodaeth yn cael ei chadw ai peidio pe bai gwneud hynny yn tanseilio gorfodi'r gyfraith neu'n effeithio ar iechyd a diogelwch neu lesiant unigolion. Er y dylai’r ffordd y mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliadau fod yn dryloyw a chael ei rhannu â’r cyhoedd, mae ganddynt fwy o ddyletswydd i ddiogelu’r cyhoedd rhag niwed neu drallod i ddiogelu uniondeb ymchwiliadau’r heddlu, felly ym marn Heddlu Dyfed-Powys, ar gyfer y materion hyn, nid yw’r prawf cydbwysedd am gadarnhau neu beidio bod gwybodaeth yn cael ei chadw yn cael ei gefnogi.
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae hyn yn cynrychioli hysbysiad gwrthod ar gyfer y cais penodol hwn.
Ni ellir dod i unrhyw gasgliad o'r gwrthodiad hwn fod yr wybodaeth y gofynnoch amdani yn bodoli neu ddim yn bodoli.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 7 Mai 2024)