Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 267/2024
Cais:
Rwyf yn ceisio data ar y mathau o arfau a ddefnyddiwyd yn ystod lladradau mewn siopau cyfleustra. Rwy’n credu bod cryn fudd i’r cyhoedd o gyhoeddi’r wybodaeth hon oherwydd y risg i ddiogelwch busnesau ac aelodau’r cyhoedd.
A allwch chi ddarparu’r wybodaeth ganlynol?
1) Nifer y busnesau a ddioddefodd lladradau a gofnodwyd yn y cyfnodau rhwng 1 Ionawr 2022 a 31 Rhagfyr 2022, a rhwng 1 Ionawr 2023 a 31 Rhagfyr 2023.
2) Y termau chwilio allweddol yr wyf yn eu ceisio mewn perthynas â’r math o fusnes yw siop gyfleustra, siop gornel, siop groser, archfarchnad, siop bapurau newydd, grŵp symbol, gwerthwr tybaco, siop drwyddedig a manwerthwr annibynnol.
Y termau chwilio allweddol yr wyf yn eu ceisio mewn perthynas â’r arf a ddefnyddiwyd yw gynnau, cyllyll, nodwyddau, arfau anarfog a di-fin (batiau pêl fas, pastynau, ac ati).
3) A allech chi hefyd gynnwys yr enw y mae’r busnesau’n masnachu oddi tano a’u cyfeiriad?
4) A gafodd y lleidr ei arestio a beth oedd ei gollfarn/ddedfryd?
Yn ddelfrydol, hoffwn weld y ffigurau hyn yn cael eu dadansoddi fesul mis.
Ymateb 1 a 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
|
1 Ionawr 2022 – 31 Rhagfyr 2022:
1 Ionawr 2023 – 31 Rhagfyr 2023:
|
Ymateb 3:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
|
Hydref 2022 |
Potel wydr wedi’i thorri |
Siop gyfleustra |
PREMIER STORES, 169, HEOL CWMAMAN, GLANAMAN, RHYDAMAN, SIR GAERFYRDDIN, SA18 1EJ |
|
Tachwedd 2022 |
Cyllell |
Siop gyfleustra |
PREMIER STORES 29, HEOL Y BRENIN, CAERFYRDDIN, SIR GAERFYRDDIN, SA31 1BS |
|
Hydref 2023 |
Morthwyl |
Siop fetio |
DONE BOOKMAKERS, STRYD FAWR, HWLFFORDD, SA61 2DA |
Ymateb 4:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
|
Arestiwyd yr un a ddrwgdybiwyd ym mhob un o’r 3 achos: - Cwblhawyd 1 drosedd fel ‘deilliant 15’ (dim collfarn/dedfryd) - 1 wedi’i gyhuddo a’i euogfarnu – dedfryd o 16 mis - 1 ymchwiliad yn parhau (dim euogfarn/dedfryd eto) |
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol i heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd, a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu’r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 10 Mai 2024)