Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 219/2024
Cais:
Os nad yw’n bosibl ateb y cais hwn yn ei gyfanrwydd am fod un neu ragor o’r cwestiynau yn peri i’r gost fynd uwchlaw’r terfyn ar gyfer y costau cydymffurfio a nodir yn adran 12, atebwch y rhai nad ydynt yn mynd y tu hwnt i’r terfynau a diystyrwch y rhai sy’n gwneud hynny.
Os nad yw’n bosibl darparu unrhyw ran o’r wybodaeth y gofynnir amdani oherwydd bod y cais yn peri i’r gost fod yn uwch na’r costau cydymffurfio a nodir yn adran 12, rhowch gyngor a chymorth, o dan eich rhwymedigaethau adran 16, ar sut y gallaf fireinio fy nghais er mwyn gallu ei gynnwys o fewn cwmpas y Ddeddf.
Cwestiwn i geisio eglurhad:
Am ba gyfnod o amser ydych chi’n gofyn am wybodaeth?
Ateb i egluro:
Hoffwn gael yr wybodaeth ar gyfer y blynyddoedd calendr 2019, 2020, 2021, 2022 a 2023.
Hoffwn gael yr wybodaeth wedi’i dadansoddi fesul blwyddyn.
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
2019 |
0 |
2020 |
1 |
2021 |
1 |
2022 |
1 |
2023 |
1 |
Ymateb 2-5:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani; fodd bynnag, rydym yn esemptio rhan o’r wybodaeth gan ein bod o’r farn bod yr esemptiad canlynol yn gymwys:
Adran 40(2) Gwybodaeth bersonol
Mae adran 40(2) yn esemptiad absoliwt ar sail dosbarth. Mae hyn yn golygu bod y deddfwyr, wrth ysgrifennu’r ddeddfwriaeth, o’r farn y byddai rhyddhau gwybodaeth o’r fath o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn achosi niwed i’r awdurdod cyhoeddus neu’r unigolyn dan sylw. Nid oes felly unrhyw ofyniad i gynnal prawf niwed mewn perthynas â gwybodaeth o’r fath. Nid oes gofyniad ychwaith i gynnal prawf budd y cyhoedd.
Adran 40(2) Gwybodaeth bersonol:
Mae adran 40(2) yn berthnasol i ddata personol trydydd parti ac y mae’n esempt rhag cael ei datgelu o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 pe bai datgelu, mewn perthynas â data sy’n destun prosesu gorfodi’r gyfraith, yn torri unrhyw un o’r egwyddorion diogelu data a gynhwysir yn Rhan 3, Pennod 2 o Ddeddf Diogelu Data 2018. O dan adran 34 ym Mhennod 2, “Mae’r Rheolydd mewn perthynas â data personol yn gyfrifol am, a rhaid iddo allu dangos, cydymffurfiad â” Phennod 2. Ni fyddai gwybodaeth o’r fath yn cael ei rhyddhau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 oni bai bod elfen gref o ran budd y cyhoedd. Un o’r prif wahaniaethau rhwng Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 2018 yw bod unrhyw wybodaeth sy’n cael ei rhyddhau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cael ei rhyddhau i’r parth cyhoeddus, nid dim ond i’r unigolyn sy’n gwneud cais am yr wybodaeth, ac mae’n rhaid ei datgelu o dan y Ddeddf gan ddwyn hynny mewn cof. O’r herwydd, mae unrhyw wybodaeth a ryddheir sy’n dynodi unigolyn trwy ryddhau ei ddata personol, hyd yn oed data personol trydydd parti, yn esempt.
Diffinnir data personol o dan adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018 fel a ganlyn:
“(2) Ystyr ‘data personol’ yw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn byw adnabyddedig neu adnabyddadwy (yn ddarostyngedig i is-adran (14)(c)).
(3) Ystyr ‘unigolyn byw adnabyddadwy’ yw unigolyn byw y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn benodol wrth gyfeirio at—
(a) Dynodwr fel enw, rhif adnabod, data lleoliad neu ddynodwr ar-lein, neu
(b) Un neu ragor o ffactorau sy’n benodol i hunaniaeth gorfforol, ffisiolegol, genetig, meddyliol, economaidd, diwylliannol neu gymdeithasol yr unigolyn.”
Mae gan bob aelod o’r cyhoedd, gan gynnwys y rhai a gyflogir gan yr heddlu, hawl gynhenid i breifatrwydd, ac mae’r hawliau hyn wedi’u diogelu yn rhinwedd y Ddeddf Hawliau Dynol, Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) ac ni ddylai awdurdod cyhoeddus ymyrryd â’r hawl honno. Mae rhyddhau unrhyw wybodaeth sy’n destun yr esemptiad yn debygol o beryglu’r hawliau hynny.
Deddf Diogelu Data 2018
Rhan 3 – Gorfodi’r Gyfraith, Pennod 2 – Egwyddorion, adran 35
Yr egwyddor diogelu data gyntaf:
“(1) Yr egwyddor diogelu data gyntaf yw bod yn rhaid i brosesu data personol at unrhyw un o’r dibenion gorfodi’r gyfraith fod yn gyfreithlon ac yn deg.”
Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data
Mae Erthygl 5 o’r GDPR – ‘Egwyddorion sy’n ymwneud â phrosesu data personol’ yn darparu fel a ganlyn:
“1. Caiff ‘data personol’:
(a) eu prosesu’n gyfreithlon, yn deg ac mewn modd tryloyw mewn perthynas â gwrthrych y data (‘cyfreithlondeb, tegwch a thryloywder’);
(b) eu casglu at ddibenion penodol, eglur a chyfreithlon a heb eu prosesu ymhellach mewn modd sy’n anghydnaws â’r dibenion hynny; ni fydd prosesu pellach at ddibenion archifo er budd y cyhoedd;”
2. Bydd y rheolydd yn gyfrifol am baragraff 1 (‘atebolrwydd’) ac yn gallu dangos ei fod yn cydymffurfio ag ef.”
Ni fyddai Heddlu Dyfed-Powys am ddatgelu unrhyw wybodaeth a allai, o bosibl, adnabod unigolyn. Yn yr achos penodol hwn, gallai rhyddhau’r manylion o ran lleoliadau, oedran, diben neu statws mewn fformat cydberthynol ac ochr yn ochr â blynyddoedd cofnodedig y drosedd, yn enwedig o ystyried y nifer isel iawn o droseddau, arwain at adnabod yr unigolion dan sylw a byddai rhyddhau gwybodaeth o’r fath yn torri deddfwriaeth diogelu data yn uniongyrchol. Felly, o ganlyniad, rwyf yn fodlon bod adran 40(2) – Gwybodaeth bersonol, yn gymwys i ryddhau’r wybodaeth.
Mae esemptiad adran 40 yn esemptiad ar sail dosbarth. Mae hyn yn golygu bod y deddfwyr, wrth ysgrifennu’r ddeddfwriaeth, o’r farn y byddai rhyddhau gwybodaeth o’r fath o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn achosi niwed i’r awdurdod cyhoeddus neu’r unigolyn dan sylw. Nid oes felly unrhyw ofyniad i gynnal prawf niwed mewn perthynas â gwybodaeth o’r fath.
Mae esemptiad adran 40 yn rhannol amodol ac yn rhannol absoliwt. Yn yr achos presennol byddai’n absoliwt gan y byddai rhyddhau’r wybodaeth yn torri deddfwriaeth diogelu data ac felly nid oes unrhyw ofyniad i gynnal prawf budd y cyhoedd.
Yn ogystal, ni all Heddlu Dyfed-Powys gadarnhau na gwadu ei fod yn cadw unrhyw wybodaeth arall sy’n berthnasol i’r cais hwn, gan nad yw’r ddyletswydd yn adran 1(1)(a) o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gymwys yn rhinwedd:
Adran 23(5) Gwybodaeth a gyflenwir gan, neu sy’n ymwneud â chyrff diogelwch penodol.
Mae adran 23(5) yn esemptiad absoliwt ac nid oes gofyniad i ystyried budd y cyhoedd yn yr achos hwn.
Adran 23(5) - Gwybodaeth a gyflenwir gan, neu sy’n ymwneud â chyrff diogelwch penodol sy’n ymdrin â materion diogelwch. Mae adran 1(1)(a) o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus gadarnhau a ydyw’n cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani. Mae adran 23(5) yn darparu esemptiad rhag y ddyletswydd hon. Mae adran 23(5) o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn nodi:
“Nid yw’r ddyletswydd cadarnhau neu wadu yn codi os, neu i’r graddau y byddai cydymffurfio ag adran 1(1)(a) yn golygu datgelu unrhyw wybodaeth (p’un a ydyw wedi’i chofnodi eisoes ai peidio) a ddarparwyd yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol i’r awdurdod cyhoeddus gan, neu yn ymwneud ag unrhyw un o’r cyrff a bennir yn isadran (3).”
Gall y gwasanaeth heddlu, yn ei frwydr yn erbyn trosedd a therfysgaeth, ymgysylltu ar adegau â’r cyrff a restrir yn adran 23 o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ac ar adegau efallai y bydd gwybodaeth yn cael ei darparu i’r heddlu gan un o’r cyrff hyn. Fel y cynghorir uchod, nid yw’r penderfyniad i roi ymateb lle na fydd yr heddlu yn cadarnhau nac yn gwadu (NCND) yn cael ei effeithio gan y ffaith a ydym yn cadw’r wybodaeth ai peidio, ond mae’n ymwneud â chanlyniadau cadarnhau neu wadu bod yr wybodaeth yn cael ei chadw. Defnyddir yr ymateb NCND i osgoi risgiau a achosir trwy ddarparu ymatebion anghyson i gyfres o geisiadau tebyg lle gallai’r wybodaeth ddod o nifer o ffynonellau ac nid, o reidrwydd, oddi wrth gorff diogelwch.
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae hyn yn cynrychioli hysbysiad gwrthod ar gyfer y cais penodol hwn.
Ni ellir dod i unrhyw gasgliad o’r gwrthodiad hwn fod yr wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani yn bodoli neu ddim yn bodoli.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 1 Mai 2024)