Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 123/2024
Cais:
- y cyflenwr Behavioral Measures UK (BMUK);
- y cyflenwr VAST Screening Technologies Ltd
Cofiwch gynnwys y manylion sydd ar gael am y gwariant – ai ar offer, hyfforddiant, ac ati.
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau nad oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw gan Heddlu Dyfed-Powys.
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau nad oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw gan Heddlu Dyfed-Powys.
Ymateb 3:
Gallaf gadarnhau nad oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw gan Heddlu Dyfed-Powys gan nad yw’r heddlu’n cynnal profion polygraff mewn perthynas â throseddwyr cam-drin domestig a throseddwyr rhyw cofrestredig.
Yn ogystal â’r uchod, ni all Heddlu Dyfed-Powys gadarnhau na gwadu a yw’n cadw unrhyw wybodaeth arall y gwnaethoch ofyn amdani gan nad yw’r ddyletswydd yn adran 1(1)(a) o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf) yn gymwys yn rhinwedd yr esemptiadau a ganlyn:
Adran 23(5) – Gwybodaeth a gyflenwir gan gyrff sy’n ymdrin â materion diogelwch, neu sy’n ymwneud â hwy
Adran 24(2) – Diogelwch Cenedlaethol
Adran 30(3) – Ymchwiliadau Troseddol
Adran 31(3) – Gorfodi'r Gyfraith
NIWED
Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ‘ymgeisydd-ddall’. Mae hyn yn golygu na allwn, ac nad ydym, yn gofyn am gymhellion unrhyw un sy'n gofyn am wybodaeth. Wrth ddarparu ymateb i un person, rydym yn mynegi parodrwydd i roi’r un ymateb i unrhyw un, gan gynnwys y rhai a allai fod yn fygythiad i’r DU.
Mae'n hysbys i'r cyhoedd nad yw pob heddlu'n cynnal profion polygraff. Mae hefyd yn hysbys i’r cyhoedd fod safiad Plismona Cenedlaethol 2014 yn nodi goblygiadau tystiolaethol defnyddio polygraff mewn ymchwiliad:
Fodd bynnag, mae plismona modern yn cael ei arwain gan gudd-wybodaeth ac mae'r cyhoedd yn disgwyl i heddluoedd ddefnyddio'r holl bwerau a thactegau sydd ar gael iddynt i atal a chanfod trosedd neu anhrefn a chynnal diogelwch y cyhoedd. O'r herwydd, dim ond pan na fyddai hynny'n datgelu rhai tactegau a thechnegau y gellir eu cadarnhau neu eu gwadu, i ba raddau y gellir eu defnyddio, ac a yw gwybodaeth yn cael ei chadw sy'n berthnasol i faterion diogelwch gwladol.
Ni ellir anwybyddu bygythiad terfysgaeth. Cydnabyddir yn gyffredinol bod y dirwedd diogelwch rhyngwladol yn gynyddol gymhleth ac anrhagweladwy. Ers 2006, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi lefel y bygythiad yn seiliedig ar wybodaeth gyfredol, ac mae’r bygythiad hwnnw’n cael ei farnu ar hyn o bryd yn “SYLWEDDOL”, sy’n golygu bod ymosodiad ar y DU yn debygol.
Mae wedi’i hen sefydlu bod heddluoedd yn defnyddio tactegau a thechnoleg i gael cudd-wybodaeth er mwyn gwrthsefyll ymddygiad troseddol, ac mae wedi cael ei ddogfennu’n flaenorol yn y cyfryngau bod llawer o ddigwyddiadau terfysgol wedi’u rhwystro oherwydd cudd-wybodaeth a gafwyd drwy’r dulliau hyn.
Byddai cadarnhau neu wadu bod unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw mewn perthynas â phrofi polygraff ar lefel heddlu, yn datgelu a oes gan y dechneg ddefnyddioldeb o fewn maes gorfodi'r gyfraith ehangach.
Byddai cadarnhad neu wadu ar draws y gwasanaeth heddlu yn awgrymu bod bylchau yn y darlun cudd-wybodaeth yn genedlaethol a allai, ar gyfer rhai elfennau troseddol ac eithafwyr, eu hysgogi i ganolbwyntio ymdrechion o fewn ardaloedd y maent yn eu hystyried yn dargedau “meddal”. Byddai unrhyw ddigwyddiad sy'n deillio o ddatgeliad o'r fath yn ddiofyn yn effeithio ar ddiogelwch gwladol.
Prawf budd y cyhoedd
Mae rhai o’r esemptiadau yn y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, y cyfeirir atynt fel ‘esemptiadau amodol’, yn destun prawf budd y cyhoedd. Defnyddir y prawf hwn i gydbwyso budd y cyhoedd o ddatgelu yn erbyn budd y cyhoedd o blaid cadw’r wybodaeth yn ôl, neu’r ystyriaethau o blaid ac yn erbyn y gofyniad i ddweud a yw’r wybodaeth y gofynnir amdani yn cael ei chadw ai peidio. Mae'n rhaid i ni gynnal prawf budd y cyhoedd pan fyddwn yn ystyried defnyddio unrhyw un o'r esemptiadau amodol mewn ymateb i gais am wybodaeth.
Nid yw ‘budd y cyhoedd’ gyfystyr â’r hyn sydd o ddiddordeb i’r cyhoedd. Wrth gynnal prawf budd y cyhoedd rydym yn ystyried y budd neu'r budd pennaf i'r gymuned gyfan os caiff yr wybodaeth ei rhyddhau ai peidio. Rhaid cydbwyso’r ‘hawl i wybod’ yn erbyn yr angen i alluogi gorfodi’r gyfraith yn effeithiol ac i wasanaethu buddiannau pennaf y cyhoedd.
S24(2) - Ystyriaethau o blaid cadarnhau neu wadu a gedwir yr wybodaeth:
Mae gan y cyhoedd hawl i wybod sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario a byddai cadarnhau neu wadu bod yr wybodaeth y gofynnwyd amdani yn cael ei chadw yn galluogi’r cyhoedd i weld ble mae arian yn cael ei wario a gwybod bod heddluoedd yn gwneud cymaint â phosibl i frwydro yn erbyn terfysgaeth.
S24(2) - Mae ystyriaethau o blaid peidio â chadarnhau neu wadu a gedwir yr wybodaeth:
Byddai cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw yn gwneud mesurau diogelwch yn llai effeithiol. Mae gan unrhyw wybodaeth a rennir rhwng partneriaid gorfodi’r gyfraith (h.y. cudd-wybodaeth) y potensial i gwmpasu pob agwedd ar weithgarwch troseddol, boed yn fygythiadau i fywyd neu’n gudd-wybodaeth. Gallai cadarnhad neu wadiad amlygu i'r rhai sy'n bwriadu troseddu a yw gwybodaeth wedi'i rhannu ai peidio. Byddai cadarnhau hyn yn gwanhau’n sylweddol effeithiolrwydd plismona a arweinir gan gudd-wybodaeth. Mae'r cyhoedd yn ymddiried yng ngwasanaeth yr heddlu i wneud penderfyniadau priodol o ran eu diogelwch a'u hamddiffyniad, a'r unig ffordd o leihau risg yw bod yn ofalus gydag unrhyw wybodaeth, ni waeth pa mor gyffredinol yw hynny.
S30(3) - Ystyriaethau o blaid cadarnhau neu wadu a gedwir yr wybodaeth:
Mae budd y cyhoedd mewn tryloywder gweithrediadau plismona a rhoi sicrwydd bod Heddlu Dyfed-Powys yn delio ag ymchwiliadau’n briodol ac yn effeithiol. Byddai cadarnhau neu wadu a oes unrhyw wybodaeth arall yn cael ei chadw yn caniatáu i’r cyhoedd wneud penderfyniadau gwybodus am y materion hyn.
S30(3) - Mae ystyriaethau o blaid peidio â chadarnhau neu wadu a gedwir yr wybodaeth:
Er bod budd y cyhoedd o ran tryloywder gweithrediadau plismona a rhoi sicrwydd bod Heddlu Dyfed-Powys yn ymdrin ag ymchwiliadau’n briodol ac yn effeithiol, mae budd cyhoeddus cryf mewn diogelu uniondeb ymchwiliadau a gweithrediadau’r heddlu ac mewn cynnal hyder yng ngwasanaeth yr heddlu. Gallai unrhyw ymchwiliadau, neu weithrediadau parhaus neu yn y dyfodol gael eu peryglu pe bai unigolion sydd am amharu ar waith gorfodi’r gyfraith yn cael yr wybodaeth y gofynnwyd amdani, gan y byddai’n rhoi gwybodaeth iddynt am allu heddluoedd unigol yn ogystal â gwybodaeth werthfawr ynghylch pa mor fregus yw ardaloedd heddluoedd unigol.
S31(3) - Ystyriaethau o blaid cadarnhau neu wadu’ a gynhelir yr wybodaeth:
Mae gan Heddlu Dyfed-Powys gyfrifoldeb i gynnal ei fusnes mewn modd agored a thryloyw. Byddai cadarnhau neu wadu'r holl amgylchiadau sy'n ymwneud â defnyddio profion polygraff yn sicrhau'r cyhoedd bod yr heddlu wedi ymrwymo i frwydro yn erbyn trosedd a therfysgaeth. Byddai hefyd yn sicrhau’r cyhoedd bod sefydliadau gorfodi cyfreithiau yn monitro gweithgareddau rhai unigolion fel bod unigolion yn ymwybodol o’r technegau ymchwilio a ddefnyddir er mwyn amddiffyn y cyhoedd, gan arwain at well ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd.
S31(3) - Ystyriaethau o blaid peidio â chadarnhau neu wadu a gedwir yr wybodaeth:
Byddai datgelu’r wybodaeth, pe bai’n cael ei chadw, yn golygu rhyddhau gwybodaeth sensitif i’r parth cyhoeddus, a allai beryglu tactegau gorfodi’r gyfraith, a allai yn ei dro lesteirio atal a chanfod trosedd. Byddai datgelu a yw gwybodaeth yn cael ei chadw mewn perthynas â phrofi polygraff, boed gan yr heddlu ei hun neu drwy ddarparu gwybodaeth gan bartneriaid gorfodi’r gyfraith eraill, yn:
a) caniatáu i droseddwyr ac eithafwyr osgoi cael eu herlyn neu eu canfod os ydynt yn credu nad yw arferion o’r fath yn cael eu defnyddio, neu;
b) achosi i droseddwyr ac eithafwyr newid eu hymddygiad os ydynt yn dod yn ymwybodol o’r tactegau a’r technegau y gallai’r heddlu eu defnyddio, ac i ba raddau.
Felly, gallai cadarnhau neu wadu a gedwir unrhyw wybodaeth arall beryglu atal troseddu a chanfod troseddau, sy'n cynnwys terfysgaeth.
Prawf cydbwysedd
Fel y gwelir yn y niwed uchod, byddai cadarnhau neu wadu a gedwir unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol i'r cais hwn yn dechrau dangos lefelau gweithgarwch plismona penodol ar lefel heddlu, ac yn fwy cyffredinol o safbwynt cenedlaethol.
Ni fydd gwasanaeth yr heddlu yn datgelu gwybodaeth pe bai gwneud hynny’n peryglu diogelwch unigolyn neu’n tanseilio proses o orfodi cyfreithiau. Er ei bod o fudd i’r cyhoedd sicrhau tryloywder gweithrediadau plismona, ac yn yr achos hwn rhoi sicrwydd bod Heddlu Dyfed-Powys yn ymgysylltu’n briodol ac yn effeithiol â’r bygythiad a achosir gan weithgarwch troseddol a therfysgaeth (naill ai ar lefel yr heddlu neu drwy ddarparu cymorth i bartneriaid, neu gael gan bartneriaid) mae elfen gref o fudd i’r cyhoedd mewn diogelu prosesau gorfodi cyfreithiau, sydd drwy estyniad yn cynnwys diogelwch gwladol.
Er ei bod o fudd i’r cyhoedd wybod bod gweithgarwch plismona yn briodol ac yn gytbwys ynghylch materion o'r fath, dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd hyn yn cael ei ddiystyru. Mae materion yn ymwneud â throsedd a therfysgaeth yn faterion sensitif o werth cudd-wybodaeth i’r rhai a fyddai’n gwneud niwed, ac felly ar gyfer y materion hyn, yn ein barn ni, ni fyddai’r prawf cydbwysedd ar gyfer cadarnhau neu wadu a oes unrhyw wybodaeth arall yn cael ei chadw mewn perthynas â phrofion polygraff er budd y cyhoedd.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 14 Mai 2024)