Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 10/2024
Cais:
Ysgrifennaf atoch oherwydd hoffwn ofyn am gopi o'r holl anfonebau rhwng eich heddlu chi a Sancus Solutions a chwmnïau cysylltiedig.
Dyma ddolen i wefan Sancus Solutions, fel y gallwch chi adnabod y cwmni cywir yn hawdd:
Er mwyn gwneud y cais hwn yn glir iawn, hoffwn gopi o’r holl anfonebau, contractau ac archebion prynu sydd wedi’u cyflwyno i’r heddlu gan y cwmnïau canlynol, a chwmnïau neu endidau eraill sy’n gysylltiedig ag unigolyn o’r enw Anthony Stephen John Hester a/neu sy’n cael eu rheoli ganddo.
Dyma enghreifftiau o rai endidau yr wyf wedi’u nodi sydd wedi'u cofrestru yn y DU ac sy'n gysylltiedig â Sancus Solutions Ltd ond sy'n gweithredu o dan wahanol enwau cwmnïau a rhifau cofrestru:
SANCUS SOLUTIONS LIMITED (06993496)
THE SANCUS PARTNERSHIP LTD (08267418)
HESTER MARKETING LTD (07480053)
SANCUS OPERATIONS LTD (13733859)
DDRS NORTH WEST LTD (09978985)
Hoffwn ofyn am yr holl anfonebau perthnasol o 1 Ionawr 2015 tan heddiw.
Ymateb:
Ysgrifennaf atoch i’ch hysbysu fy mod, yn unol â darpariaeth adran 14(1) o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf) wedi penderfynu gwrthod eich cais gan iddo gael ei ystyried yn ‘gais blinderus’.
Mae adran 14(1) – Ceisiadau blinderus o’r Ddeddf yn nodi’r canlynol:
Nid yw adran 1(1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â chais am wybodaeth os yw’r cais yn flinderus.
Rwyf wedi cymryd sylw o ganllawiau’r Comisiynydd Gwybodaeth ar geisiadau blinderus, sydd i’w gweld yma:
https://ico.org.uk/media/for-organisations/documents/1198/dealing-with-vexatious-requests.pdf
Yn gyntaf ac yn bennaf, wrth benderfynu a yw cais am wybodaeth yn 'flinderus', rydym yn dilyn canllawiau'r Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar geisiadau blinderus (adran 14). Mae’r canllawiau hyn yn esbonio’r hyn y mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn ei ddisgwyl gan awdurdod cyhoeddus wrth ystyried adran 14(1). Mae casglu tystiolaeth er mwyn nodi patrwm o ymddygiad sy’n datblygu yn ffactor pwysig. Mae cyd-destun a’r hanes y tu ôl i’r cais hefyd yn ffactor o bwys wrth benderfynu a yw’r cais yn flinderus. Bydd angen i’r awdurdod cyhoeddus ystyried yr amgylchiadau ehangach ynghylch y cais cyn gwneud penderfyniad ynghylch a yw adran 14(1) yn gymwys.
Mae canllawiau Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar y pwnc yn nodi’r canlynol:
‘Gellir defnyddio adran 14(1) mewn amrywiaeth o amgylchiadau lle na ellir cyfiawnhau cais neu ei effaith ar awdurdod cyhoeddus. Er y dylai awdurdodau cyhoeddus feddwl yn ofalus cyn gwrthod cais ar sail bod yn gais blinderus, ni ddylent ystyried adran 14(1) fel rhywbeth sydd ond i’w gymhwyso o dan yr amgylchiadau mwyaf eithafol.
Mewn achosion lle nad yw’r mater yn gwbl glir, y cwestiwn hollbwysig i’w ofyn yw a yw’r cais yn debygol o achosi lefel anghymesur neu anghyfiawnadwy o darfu, llid neu boendod. Fel arfer, bydd hyn yn fater o farnu'n wrthrychol y dystiolaeth o'r effaith ar yr awdurdod a phwyso hyn yn erbyn unrhyw dystiolaeth am ddiben a gwerth y cais. Gall yr awdurdod cyhoeddus hefyd ystyried cyd-destun a’r hanes y tu ôl i’r cais, pan fo hynny’n berthnasol.’
Yn unol â hynny, rwyf wedi dosbarthu’r cais hwn yn gais blinderus o dan adran 14(1) drwy gasglu tystiolaeth o dan y dangosyddion a ganlyn er mwyn nodi a yw’r cais yn feichus.
Baich ar yr awdurdod:
Cynlluniwyd deddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth i ddarparu cyfleoedd lle gall y cyhoedd daflu goleuni ar benderfyniadau a gweithrediadau awdurdod cyhoeddus.Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid datgelu gwybodaeth yn awtomatig. Byddai gwneud hynny heb rywfaint o ystyriaeth yn ddi-hid ac yn debygol o dorri deddfwriaeth berthnasol arall, megis y Ddeddf Diogelu Data / Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data.
Yn yr achos penodol hwn, nodwyd bod cyfanswm o 119 o dudalennau wedi'u cynnwys mewn dogfennau sy'n ymwneud â'ch cais. Cyn datgelu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani, byddai angen adolygu pob dogfen, fesul tudalen, er mwyn sefydlu a oes unrhyw bryderon ynghylch datgelu'r cynnwys a nodir ar bob tudalen ai peidio. Mae hyn oherwydd y ffaith y bydd rhywfaint o’r wybodaeth a gynhwysir yn y dogfennau hyn yn sensitif/niweidiol i’w datgelu i’r cyhoedd a byddai’n denu esemptiadau, megis, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt, adran 43 ‘Buddiannau masnachol’ ac adran 40 ‘Gwybodaeth bersonol’, a phan fyddai esemptiadau'n berthnasol, byddai angen hepgor wybodaeth.
Byddai adolygu pob un o'r 119 tudalen a hepgor wybodaeth lle bo angen yn dasg a fyddai'n cymryd llawer o amser a byddai'n faich ar yr heddlu i ymgymryd â'r dasg hon. Mae hyn oherwydd y ffaith y byddai'n ofynnol yn gyntaf i'r penderfynwr Rhyddid Gwybodaeth gysylltu â nifer o arweinwyr meysydd busnes i ystyried eu barn ar ddatgelu mewn perthynas ag unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â'u maes busnes eu hun. Wedyn, byddai angen i'r penderfynwr Rhyddid Gwybodaeth adolygu a deall cynnwys pob tudalen ac ystyried yr holl bryderon a godwyd gan arweinydd y maes busnes. Mae hyn i benderfynu a yw esemptiadau'n berthnasol, pa esemptiadau sy’n berthnasol, ac i ba rannau y mae’r esemptiadau’n berthnasol iddynt. Er enghraifft, ystyried adran 40 mewn perthynas ag unrhyw enwau neu lofnodion cyflogeion nad ydynt bellach yn gweithio i'r heddlu ac ati. Yn dilyn y broses hon, byddai'n ofynnol wedyn i'r penderfynwr Rhyddid Gwybodaeth hepgor unrhyw wybodaeth yr ystyrir ei bod yn sensitif o'r dogfennau a hefyd drafftio ei ymateb yn manylu ar unrhyw esemptiadau sy'n cael eu cymhwyso. Bydd rhaid iddo gynnal profion budd y cyhoedd a phrofion niwed pan fo angen.
Amcangyfrifwyd y byddai'n cymryd o leiaf 20 munud y dudalen i adolygu ac ystyried yr ystyriaethau angenrheidiol (gan gynnwys cysylltu ag arweinwyr y meysydd busnes) o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, a fyddai'n cyfateb i 39.66 awr. Er mwyn cyflawni'r dasg hon, byddai angen rhyddhau penderfynwr o’r Uned Rhyddid Gwybodaeth o'i ddyletswyddau arferol am tua phum niwrnod gwaith er mwyn darparu ymateb sy'n cydymffurfio â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth mewn perthynas â'r mater hwn. Nid yw hyn yn ystyried faint o amser y byddai swyddogion yr heddlu neu staff eraill y tu allan i'r Uned Rhyddid Gwybodaeth yn ei dreulio, yn lle ymgymryd â’u dyletswyddau arferol, i gysylltu â’r uned honno ynghylch yr wybodaeth sy’n berthnasol i’w maes busnes.
Ar 19 Ebrill 2024, mae 513 o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth ar hyn o bryd wedi’u cofnodi yn yr Uned Ddatgelu. Mae 240 o’r ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth hynny ar hyn o bryd yn geisiadau agored sy’n aros i gael eu cwblhau, ac nid yw hyn yn cynnwys yr holl feysydd gwaith eraill y mae’r Uned Ddatgelu yn eu cwmpasu, h.y. gorchmynion llys, ceisiadau am fynediad at ddata gan y testun, ac ati. Ar hyn o bryd, mae 3.5 o benderfynwyr cyfwerth ag amser llawn yn ymdrin â cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Byddai ryddhau un o’r penderfynwyr hynny o’i ddyletswyddau arferol er mwyn cyflawni’r un dasg hon yn faich sylweddol ar yr Uned Ddatgelu. Byddai wneud hynny’n tanseilio’n sylweddol rwymedigaethau eraill yr uned wrth iddi brosesu’r 240 o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth agored ac wrth iddi wneud gwaith datgelu arall. Er nad oes amheuaeth ynghylch y cymhellion na chyfrifoldebau cyfreithiol dros ofyn am yr wybodaeth hon, mae Heddlu Dyfed–Powys yn credu y byddai’r ymdrech i gyflawni’r cais yn faich enfawr ar amser ac adnoddau, ac ni ellir disgwyl yn rhesymol i'r awdurdod gydymffurfio â hyn.
Yn ogystal â hyn, wrth ystyried yr uchod, cyfeiriaf hefyd at hysbysiad o benderfyniad blaenorol gan yr ICO, fel yr amlinellir yn y ddolen isod. Mewn amgylchiadau tebyg, daeth yr ICO i’r casgliad bod natur y faich yn golygu y gellir categoreiddio cais yn briodol fel un hynod ormesol, ac ni ellir cyfiawnhau ymdrin â’r cais o dan amgylchiadau o’r fath. Yn unol â hynny, er ei fod yn ystyried bod yr achos hwn yn gytbwys, mae’r Comisiynydd o’r farn bod adran 14(1) wedi’i chymhwyso’n briodol yn yr achos hwn.
https://ico.org.uk/media/action-weve-taken/decision-notices/2014/1025456/fs_50539606.pdf
Casgliad a phenderfyniad:
Wrth ystyried y ffeithiau uchod, rwy’n fodlon bod y cais hwn yn bodloni’r meini prawf (fel yr amlinellir isod) yn unol â darpariaeth adran 14(1) o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 lle bernir bod y cais yn ‘flinderus’ oherwydd y byddai’n faich sylweddol ar yr awdurdod.
Mae adran 14(1) o’r Ddeddf yn nodi’r canlynol:
Nid yw adran 1(1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â chais am wybodaeth os yw’r cais yn flinderus.
Yn unol â hynny, rwyf wedi dosbarthu eich cais yn gais blinderus o dan adran 14(1) am y rhesymau a amlinellwyd uchod.
Sylwer: Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cyhoeddi, ar ei wefan, fanylion gwariant dros £500 gan Heddlu Dyfed-Powys o fis Ebrill 2016. Mae hwn yn cynnwys manylion unrhyw daliadau a wnaed i Sancus Solutions. Mae’r wybodaeth ar gael drwy’r ddolen ganlynol: Contractau a Gwariant (https://dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/)
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 10 Mai 2024)