Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 36/2024
Cais:
Ysgrifennaf i ofyn am fanylion swyddi staff heddlu yn eich sefydliad (nid unigolion).
Mae'r cais hwn yn canolbwyntio ar swyddi uwch-arweinwyr, sef swyddi staff heddlu (nid swyddog) sydd ar bum gradd uchaf eich strwythur cyflog presennol ar gyfer staff heddlu. Cofiwch gynnwys swyddi wedi'u llenwi a swyddi gwag.
Y manylion gofynnol yw:
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Nifer y staff: 705/ cyfwerth ag amser llawn: 657.42
Ymateb 2 a, b, d:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
|
Swydd |
FTE |
Adran |
|
Pennaeth Cyllid Corfforaethol |
1 |
Cyllid |
|
Pennaeth Caffael a Chontractau |
1 |
Caffael |
|
Pennaeth Darparu Gwasanaethau AD |
1 |
Gwasanaethau Pobl |
|
Pennaeth Cyswllt a Rheoli Digwyddiadau (Dros Dro) |
1 |
Plismona Tiriogaethol |
|
Uwch Swyddog Cyfrifol - Tîm Adolygiad yr Heddlu (Dros Dro) |
1 |
Adolygiadau’r Heddlu |
|
Pennaeth Gwasanaethau Fforensig |
1 |
Adran Ymchwilio i Droseddau |
|
Pennaeth Ystadau |
1 |
Ystadau |
|
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol |
1 |
Gwasanaethau Cyfreithiol |
|
Pennaeth TGCh |
1 |
TGCh |
|
Cyfarwyddwr Datblygu Pobl a Sefydliad |
1 |
Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu (ACPO) |
|
Cyfarwyddwr Cyllid - ACPO |
1 |
Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu (ACPO) |
Ymateb 2 c:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
|
Gradd: |
Nifer y swyddi y rhoddir manylion ar eu cyfer yn ymateb 2a ynghyd â gradd y swydd honno |
|
Graddfa K £63,288 i £67,428 |
6 |
|
Graddfa L £70,347 i £74,940 |
2 |
|
Graddfa M £78,198 i £83,332 |
1 |
|
Graddfa N £86,934 i £92,652 |
1 |
|
Graddfa O £96,675 i £103,134 |
1 |
Ymateb 2 e:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani; fodd bynnag, rydym yn esemptio rhan o’r wybodaeth gan ein bod yn credu bod yr esemptiad a ganlyn yn gymwys:
Adran 40(2) Gwybodaeth Bersonol
Mae adran 40(2) yn esemptiad absoliwt ar sail dosbarth. Mae hyn yn golygu bod y deddfwyr wrth ysgrifennu’r ddeddfwriaeth o’r farn y byddai rhyddhau gwybodaeth o’r fath o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn achosi niwed i’r awdurdod cyhoeddus neu’r unigolyn dan sylw. Nid oes felly unrhyw ofyniad i gynnal prawf niwed mewn perthynas â gwybodaeth o'r fath. Nid oes gofyniad ychwaith i gynnal prawf budd y cyhoedd.
Adran 40(2) Gwybodaeth Bersonol:
Mae adran 40(2) yn berthnasol i ddata personol trydydd parti ac mae wedi’i heithrio rhag cael ei datgelu o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 pe bai datgelu, mewn perthynas â data sy’n destun prosesu gorfodi’r gyfraith, yn torri unrhyw un o’r egwyddorion diogelu data a gynhwysir yn rhan 3 - pennod 2 o Ddeddf Diogelu Data 2018. O dan adran 34 ym mhennod 2 “Mae’r rheolydd mewn perthynas â data personol yn gyfrifol am gydymffurfio a rhaid iddo allu dangos ei fod yn cydymffurfio â” phennod 2. Ni fyddai gwybodaeth o’r fath yn cael ei rhyddhau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 oni bai bod o gryn fudd i’r cyhoedd. Un o’r prif wahaniaethau rhwng Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 2018 yw bod unrhyw wybodaeth sy’n cael ei rhyddhau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cael ei rhyddhau i’r parth cyhoeddus, ac nid i’r unigolyn sy’n gwneud cais am y wybodaeth yn unig, a rhaid gwneud y datgeliad o dan y ddeddf gan gadw hyn mewn cof. O'r herwydd, mae unrhyw achos o ryddhau gwybodaeth sy'n dynodi unigolyn trwy ryddhau ei ddata personol, hyd yn oed data personol trydydd parti, wedi'i esemptio.
Diffinnir data personol o dan adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018:
“(2) Ystyr ‘data personol’ yw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn byw adnabyddedig neu adnabyddadwy (yn ddarostyngedig i isadran (14)(c)).
(3) ‘‘Person adnabyddadwy’ yw un y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn arbennig drwy gyfeirio at ddyfais adnabod—
(a) Dyfais adnabod fel enw, rhif adnabod, data lleoliad neu ddyfais adnabod ar-lein, neu
(b) Un neu fwy o ffactorau penodol i hunaniaeth gorfforol, ffisiolegol, genetig, meddyliol, economaidd, diwylliannol neu gymdeithasol y person hwnnw.”
Mae gan bob aelod o’r cyhoedd gan gynnwys y rhai a gyflogir gan yr heddlu hawl gynhenid i breifatrwydd ac mae’r hawliau hyn wedi’u diogelu yn rhinwedd y Ddeddf Hawliau Dynol, Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) ac ni ddylai awdurdod cyhoeddus ymyrryd â'r hawl honno. Mae rhyddhau unrhyw wybodaeth sy’n destun yr esemptiad yn debygol o beryglu’r hawliau hynny.
Deddf Diogelu Data 2018
Rhan 3 – Gorfodi’r Gyfraith – Pennod 2 Egwyddorion Adran 35
Yr egwyddor diogelu data gyntaf:
“(1) Yr egwyddor diogelu data gyntaf yw bod yn rhaid i brosesu data personol at unrhyw un o’r dibenion gorfodi’r gyfraith fod yn gyfreithlon ac yn deg.”
Y DU - Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol
Mae erthygl 5 o’ Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU - ‘Egwyddorion sy’n ymwneud â phrosesu data personol’ yn datgan:
“1. Rhaid i ‘ddata personol’ fod:
(a) Wedi’u prosesu’n gyfreithlon, yn deg ac mewn modd tryloyw mewn perthynas â gwrthrych y data (‘cyfreithlondeb, tegwch a thryloywder’);
(b) Wedi’u casglu at ddibenion penodol, eglur a chyfreithlon a heb eu prosesu ymhellach mewn modd sy’n anghydnaws â’r dibenion hynny; prosesu pellach at ddibenion archifo er budd y cyhoedd…
2. Bydd y rheolydd yn gyfrifol am baragraff 1 (‘atebolrwydd’) ac yn gallu dangos ei fod yn cydymffurfio ag ef.”
Ni fyddai Heddlu Dyfed-Powys am ddatgelu unrhyw wybodaeth a allai o bosibl fod yn ddyfais i adnabod unigolyn. Yn yr achos penodol hwn, byddai rhyddhau’r cyflog gros presennol, yn enwedig o ystyried mai dim ond un gweithiwr fesul swydd sydd, a choladu gwybodaeth sydd eisoes yn gyhoeddus yn gallu arwain at adnabod yr unigolion dan sylw a byddai rhyddhau gwybodaeth o’r fath yn torri deddfwriaeth Diogelu Data’n uniongyrchol. Felly, o ganlyniad, rwyf yn fodlon bod esemptiad Gwybodaeth Bersonol Adran 40(2) yn berthnasol i ryddhau’r wybodaeth.
Mae esemptiad adran 40 yn esemptiad ar sail dosbarth. Mae hyn yn golygu bod y deddfwyr wrth ysgrifennu’r ddeddfwriaeth o’r farn y byddai rhyddhau gwybodaeth o’r fath o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn achosi niwed i’r awdurdod cyhoeddus neu’r unigolyn dan sylw. Nid oes felly unrhyw ofyniad i gynnal prawf niwed mewn perthynas â gwybodaeth o'r fath.
Mae esemptiad adran 40 yn rhannol amodol ac yn rhannol absoliwt. Yn yr achos presennol byddai'n absoliwt gan y byddai rhyddhau'r wybodaeth yn torri deddfwriaeth diogelu data ac felly nid oes unrhyw ofyniad i gynnal prawf budd y cyhoedd.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 28 Mai 2024)