Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 489/2024
Cais:
Sawl achos o'r drosedd isod a gofnodwyd bob blwyddyn, rhwng 2020 a 2023?
"Troseddau moduro diannod o dan adran 170, Troseddau trwyddedau yn ymwneud â chofrestru cerbydau a threth car (MOT) 81001 81001 – Trwydded cerbyd modur wedi'i chuddio neu heb ei gosod"
Sawl achos o'r drosedd isod a gofnodwyd bob blwyddyn, rhwng 2020 a 2023?
"Troseddau moduro diannod o dan adran 170, Troseddau trwyddedau yn ymwneud â chofrestru cerbydau a threth car (MOT) 81090 81090 – Troseddau eraill yn ymwneud â thrwyddedau cerbyd modur, trwyddedau masnachu, marciau cofrestru cerbyd, platiau masnachu a llyfrau cofrestru (ac eithrio troseddau ffugio a thwyll)"
Cwestiwn eglurhaol:
O ran C1,
A oes angen data arnoch ar gyfer pob blwyddyn galendr neu bob blwyddyn ariannol?
Dim ond pan fydd swyddog wedi stopio unigolyn ac wedi cyhoeddi Adroddiad Trosedd Traffig y mae'r Adran Traffig yn cadw gwybodaeth. Dim ond pan fydd swyddog wedi cwblhau Adroddiad Trosedd Traffig y byddem yn gallu darparu ffigurau.
A oes angen ffigurau arnoch am gerbydau ynghylch troseddau rhifau cerbydau neu droseddau MOT neu'r ddau?
Nid ydym yn adnabod y rhifau yr ydych wedi eu dyfynnu.
O ran C2,
A oes angen data arnoch ynghylch cerbydau masnachu?
A oes angen data arnoch ar gyfer pob blwyddyn galendr neu bob blwyddyn ariannol?
Dim ond pan fydd swyddog wedi stopio unigolyn ac wedi cyhoeddi Adroddiad Trosedd Traffig y mae'r Adran Traffig yn cadw gwybodaeth. Dim ond pan fydd swyddog wedi cwblhau Adroddiad Trosedd Traffig y byddem yn gallu darparu ffigurau.
A oes angen ffigurau arnoch am gerbydau ynghylch troseddau rhifau cerbydau neu droseddau MOT neu'r ddau?
Nid ydym yn cydnabod y rhifau y mae'r ymgeisydd wedi'u dyfynnu.
Ateb eglurhaol:
Mae angen y dyddiad ar gyfer pob blwyddyn galendr arnom, os gwelwch yn dda.
Mae angen y ffigurau ar gyfer troseddau rhifau cerbydau yn unig arnom.
Nid oes angen y data arnom ynghylch cerbydau masnachu.
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai fod esemptiadau’n berthnasol, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Pan ddibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), ddarparu hysbysiad i chi, y ceisydd, sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam bod yr esemptiad yn gymwys.
Gallaf gadarnhau bod gan Heddlu Dyfed-Powys yr wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani. Fodd bynnag, rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod esemptiad adran 12(1), Cost cydymffurfio sy’n fwy na'r terfyn priodol, yn berthnasol iddi.
Adran 12 (1) – Mae cost cydymffurfio yn fwy na'r terfyn priodol
Mae adran 12(1) yn datgan fel a ganlyn: “Nid yw adran 1(1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â chais am wybodaeth os yw’r awdurdod yn amcangyfrif y byddai’r gost o gydymffurfio â’r cais yn fwy na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o ddarparu’r wybodaeth y gofynnir amdani mewn perthynas â’ch cais yn uwch na’r swm lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb, h.y. mae cost dod o hyd i’r wybodaeth a’i hadalw yn fwy na’r “lefel briodol” a nodir yn Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfyn a Ffioedd Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd mwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 109.7 awr) i gydymffurfio â’r rhan hon o’ch cais. Gellir dod o hyd i’r rheoliadau yn https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae'r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw'r wybodaeth mewn perthynas â data rhwng 12 Mai 2023 a 31 Rhagfyr 2023 ar gyfer eich cais yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adfer. Oherwydd hyn, ac er mwyn cael yr wybodaeth gywir mewn perthynas â'ch cais ar gyfer y cyfnod a nodwyd, byddai rhaid i Heddlu Dyfed-Powys gael mynediad at yr holl adroddiadau troseddau traffig ac yn eu hadolygu, a byddai'n rhaid adolygu pob adroddiad â llaw i ganfod a oedd adroddiad trosedd traffig yn berthnasol ar gyfer troseddau sy'n ymwneud â rhifau cerbydau.
Mae wedi'i sefydlu bod cyfanswm o 2,193 o adroddiadau troseddau traffig ar gyfer y cyfnod rhwng 12 Mai 2023 a 31 Rhagfyr 2023 ar gyfer eich cais. Mae hefyd wedi'i sefydlu y byddai'n cymryd o leiaf tair munud i adolygu a chael yr wybodaeth ar gyfer un adroddiad mewn perthynas â'ch cais (fel yr amlinellwyd uchod). Mae'r broses a amlinellir yn arwain at yr amcangyfrif amser isod.
2,193 o adroddiadau x 3 munud = 109.7 awr
Amcangyfrif amser i gwblhau'r dasg = 109.7 awr
Yn unol felly â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn o dan adran 17(5), sef rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn gymwys, o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1), roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno.
Efallai yr hoffech chi fireinio ac ailgyflwyno eich cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod i fod o fewn y 18 awr. Os oes angen unrhyw gyngor pellach arnoch mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth. Sylwer hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nad yw'n dileu hawl yr awdurdod cyhoeddus i ddyfynnu esemptiadau os ydynt yn berthnasol.
Er bod costau ychwanegol yn dileu rhwymedigaethau'r heddlu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach, fel arwydd o ewyllys da, rwyf wedi darparu gwybodaeth mewn perthynas â Chwestiwn 1 eich cais yr oedd modd ei hadalw’n hawdd ac mae honno wedi'i hamlinellu isod. Gobeithiaf fod hon yn ddefnyddiol, ond nid yw'n effeithio ar ein hawl gyfreithiol i ddibynnu ar y rheoliadau ffioedd am weddill eich cais.
|
2020 |
2021 |
2022 |
Hyd at 12 Mai 2023 |
|
315 |
334 |
259 |
47 |
Dylid nodi, o ganlyniad i'r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o'r fath, y gallai'r wybodaeth a ryddhawyd fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol i heddluoedd y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd a pennir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw'r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi'r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith yw’r gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu data troseddau. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylai ymateb yr heddlu hwn i'ch cwestiynau gael ei ddefnyddio at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall y gallech ei gael.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 28 Mai 2024)