Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 303/2024
Cais 1 - 2:
1.
Nifer yr ymosodiadau rhywiol yr adroddwyd amdanynt a ddigwyddodd lle rhestrwyd y lleoliad fel ‘barics’; ‘garsiwn’ neu Farics Cawdor, cod post SA62 6BL, rhwng 1 Ionawr 2018 a 31 Rhagfyr 2023. A wnewch chi gynnwys yn eich ymateb a arweiniodd yr adroddiad at gyhuddiad neu wŷs?
2.
Nifer yr achosion o dreisio yr adroddwyd amdanynt a ddigwyddodd lle rhestrwyd y lleoliad fel ‘barics’; ‘garsiwn’ neu Farics Cawdor, cod post SA62 6BL, rhwng 1 Ionawr 2018 a 31 Rhagfyr 2023. A wnewch chi gynnwys yn eich ymateb a arweiniodd yr adroddiad at gyhuddiad neu wŷs?
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Adroddwyd bod cyfanswm o saith ymosodiad rhywiol o fewn yr amserlen a nodwyd ar gyfer y lleoliad a nodwyd, a arweiniodd at sero (0) cyhuddiad/gwŷs.
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Adroddwyd bod cyfanswm o un achos o dreisio o fewn yr amserlen a nodwyd ar gyfer y lleoliad a nodwyd, a arweiniodd at sero (0) cyhuddiad/gwŷs.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol i heddluoedd y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd a phennir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw'r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi'r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith yw’r gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu data troseddau. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylai ymateb yr heddlu hwn i'ch cwestiynau gael ei ddefnyddio at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall y gallech ei gael.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 20 Mai 2024)