Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 397/2024
Cais:
1) Nifer yr unigolion y cofnodwyd eu bod nhw ar goll gan yr heddlu ym mhob un o'r blynyddoedd 2021/22, 2022/23 a 2023/24.
2) Am bob blwyddyn, a fyddech cystal â darparu dadansoddiad o oed, rhyw ac ethnigrwydd yr unigolion coll.
3) Am bob blwyddyn, a fyddech cystal â darparu dadansoddiad o faint o unigolion coll oedd wedi'u cofnodi'n flaenorol fel unigolion oll/a oedd yn ailadrodd fel unigolion coll.
4) Am bob blwyddyn, faint o ymchwiliadau o unigolion coll a gynhaliwyd a faint a gaewyd.
5) Am bob blwyddyn, a fyddech cystal â darparu amcangyfrif o'r gost i'r heddlu o ymchwiliadau i unigolion coll.
6) Am bob blwyddyn, faint o oriau o amser yr heddlu a dreuliwyd ar ymchwiliadau i unigolion coll.
7) Beth yw'r mwyaf y mae'r heddlu wedi'i wario mewn costau amcangyfrifedig ar ymchwiliad unigolyn coll unigol.
8) Beth yw'r ymchwiliad unigol hiraf a gynhaliwyd gan yr heddlu am unigolyn coll.
9) Beth yw hyd cyfartalog ymchwiliad unigolion coll.
10) Faint o ymchwiliadau unigolion coll sydd heb eu penderfynu y mae'r heddlu'n delio â nhw.
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau yn gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1) (a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei dal. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1) (b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei dal.
Lle dibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi, y ceisydd, sydd:
(a) yn datgan y ffaith honno,
(b) yn pennu’r esemptiad o dan sylw, ac
(c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys.
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani. Fodd bynnag, rydym yn atal rhywfaint o'r wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod o'r farn bod esemptiad adran 12(1) sef bod y gost cydymffurfio yn uwch na'r terfyn priodol yn gymwys iddo.
Adran 12 (1) – Cost cydymffurfio yn uwch na'r terfyn priodol
Mae adran 12(1) yn datgan: “Nid yw adran 1(1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â chais am wybodaeth os ydyw’r awdurdod yn amcangyfrif y byddai’r gost o gydymffurfio â’r cais yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o ddarparu’r wybodaeth y gofynnir amdani mewn perthynas â’ch cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, h.y. mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn uwch na’r “lefel briodol” fel y nodir yn Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfyn a Ffioedd Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd yn hwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 119 awr i gydymffurfio â’r rhan hon o’ch cais.Gellir dod o hyd i’r rheoliadau yn https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae’r Uned Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani mewn perthynas â chwestiwn 3, 6 a 9 yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei hadalw ac y byddai’n mynd y tu hwnt i’r terfyn amser priodol, h.y. 18 awr, i’w hadalw. Mae hyn oherwydd y ffaith y byddai angen edrych i mewn i bob cofnod ar wahân gan nad yw'r system yn caniatáu yn awtomatig i chwiliadau adalw'r manylion y gofynnwyd amdanynt.
Amcangyfrifwyd y byddai'n cymryd tua un munud i archwilio pob adroddiad yn unigol. Mae wedi'i sefydlu bod cyfanswm o 7,143 o gofnodion o unigolion coll y byddai angen eu harchwilio. Manylir ar yr amcangyfrif amser perthnasol isod:
7,143 o gofnodion unigolion coll x 1 munud = 119 awr
Felly, amcangyfrif o gyfanswm yr amser i gwblhau'r cais = 119 awr
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r CYFAN o’r cais hwn o dan Adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad y mae adran 12 neu adran 14 yn gymwys iddo, roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1).
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr. Os bydd angen rhagor o gyngor arnoch mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â mi.
Nodwch hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nid yw’n dileu hawl yr heddlu i ddyfynnu esemptiadau os yn berthnasol.
Er bod costau ychwanegol wedi dileu rhwymedigaethau’r heddlu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, fel arwydd o ewyllys da rwyf wedi darparu gwybodaeth, sy’n berthnasol i’ch cais, a adalwyd neu a oedd ar gael cyn y sylweddolwyd y byddai’r terfyn ffioedd yn cael ei dorri. Gobeithiaf fod hyn yn ddefnyddiol, ond nid yw’n effeithio ar ein hawl gyfreithiol i ddibynnu ar y rheoliadau ffioedd am weddill eich cais.
Cwestiwn Ymateb 1:
|
Nifer yr unigolion coll ym mhob blwyddyn |
|
|
2021-2022 |
2248 |
|
2022-2023 |
2381 |
|
2023-2024 |
2514 |
Cwestiwn Ymateb 2:
|
Oed |
||||||||
|
|
0-17 |
18-29 |
30-39 |
40-49 |
50-59 |
60-69 |
70-79 |
80+ |
|
2021 - 2022 |
1097 |
484 |
248 |
156 |
117 |
61 |
52 |
33 |
|
2022 - 2023 |
1281 |
385 |
268 |
189 |
109 |
56 |
53 |
40 |
|
2023 - 2024 |
1599 |
351 |
219 |
116 |
100 |
48 |
42 |
39 |
|
Rhywedd |
||||
|
|
Gwryw |
Benyw |
Trawsryweddol |
Anhysbys / Heb ei gofnodi |
|
2021-2022 |
1293 |
931 |
13 |
11 |
|
2022-2023 |
1372 |
990 |
11 |
8 |
|
2023-2024 |
1241 |
1258 |
9 |
6 |
|
Ethnigrwydd |
|||||||
|
|
Gwyn – Gogledd Ewrop |
Gwyn – De Ewrop |
Du |
Asiaidd |
Tsieineaidd, Japaneaidd neu Dde-ddwyrain Asia |
Dwyrain Canol |
Anhysbys / heb ei gofnodi |
|
2021 - 2022 |
1087 |
10 |
31 |
5 |
2 |
0 |
1113 |
|
2022 - 2023 |
1220 |
25 |
18 |
2 |
1 |
0 |
1115 |
|
2023 - 2024 |
1142 |
6 |
22 |
5 |
1 |
6 |
1032 |
Cwestiwn Ymateb 4:
|
Ymchwiliadau unigolion coll wedi cau |
|
|
2021-2022 |
2198 |
|
2022-2023 |
2360 |
|
2023-2024 |
2487 |
Cwestiwn Ymateb 5, 7 ac 8:
Gallaf gadarnhau nad oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw gan Heddlu Dyfed-Powys.
Cwestiwn Ymateb 10:
2 Ymchwiliad unigolyn coll agored (ar 19 Ebrill 2024).
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a ddatgelwyd ar 10 Mai 2024)