Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 1073/2023
Cais:
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Gallaf gadarnhau bod y gost o benderfynu a ydyw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â chwestiwn 2 y cais hwn yn cael ei chadw ai peidio yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, felly rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod adran 12(2) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol, yn gymwys iddi.
Lle dibynnir ar esemptiadau mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi, y ceisydd, sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys. Mae’r esemptiad canlynol wedi’i gymhwyso i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 12(2) – Y gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(2) yn datgan: “Nid yw is-adran (1) yn esemptio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) o adran 1(1) oni bai y byddai’r gost amcangyfrifedig o gydymffurfio â’r paragraff hwnnw yn unig yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o benderfynu pa wybodaeth a ddelir, os o gwbl, sy’n berthnasol i gwestiwn 2 eich cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, hy mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn uwch na’r “lefel briodol” fel y nodir yn Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfyn a Ffioedd Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd mwy na 18 awr (hy lleiafswm o 2906.83 awr) i gydymffurfio â’ch cais. Gellir gweld y rheoliadau yn:
https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae’r adran rhyddid gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw’r wybodaeth mewn perthynas â’ch cais yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw. Felly, er mwyn penderfynu pa wybodaeth, os o gwbl, a gedwir mewn perthynas â chwestiwn 2 y cais, byddai angen archwilio’r holl droseddau perthnasol yn unigol dros yr amserlen a nodwyd i nodi a oedd y drosedd dan sylw yn ymwneud ag ymosodiadau ar beiriannau ATM. Ar gyfer y cyfnod a nodir yn y cais (h.y. 2019–2022) canfuwyd bod cyfanswm o 17,441 o droseddau perthnasol y byddai angen eu hymchwilio/adolygu. Amcangyfrifwyd y byddai’n cymryd o leiaf 10 munud i ymchwilio i un drosedd i weld a ydyw’n berthnasol i gwestiwn 2 eich cais fel yr amlinellwyd uchod, gan arwain at ddadansoddiad o’r amcangyfrif amser a ganlyn.
2019 = 4,864 trosedd ar 10 munud fesul trosedd = 810.67 awr
2020 = 3,710 trosedd ar 10 munud fesul trosedd = 618.33 awr
2021 = 3,957 trosedd ar 10 munud fesul trosedd = 659.50 awr
2022 = 4,910 trosedd ar 10 munud fesul trosedd = 818.33 awr
Cyfanswm o 2,906.83 awr i gwblhau’r dasg a’r cais cyfan
Noder: Ni allwn gadarnhau a ellir darparu ymateb i gwestiynau 1 a 3 o fewn y terfyn amser o 18 awr. Gan fod cwestiwn 2 eisoes wedi mynd y tu hwnt i’r terfyn amser o 18 awr, nid yw cwestiynau 1 a 3 wedi’u symud ymlaen. Sylwer hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nad yw’n dileu hawl yr Heddlu i ddyfynnu esemptiadau os ydynt yn berthnasol.
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn o dan adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn gymwys, o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1), roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno.
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod i ddisgyn o fewn y 18 awr. Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 07/05/24)