Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 333/2024
Cais:
Ymateb 1 a 3:
Ni all Heddlu Dyfed–Powys gadarnhau na gwadu ei fod yn cadw unrhyw wybodaeth arall am gorff esempt gan nad yw’r ddyletswydd yn adran 1(1)(a) o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn berthnasol yn rhinwedd yr esemptiadau a ganlyn:
Adran 24(2) Diogelwch gwladol
Adran 31(3) Gorfodi’r gyfraith
Niwed wrth gadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw
Byddai cadarnhau neu wadu a oes unrhyw wybodaeth bellach yn cael ei chadw mewn perthynas ag ymosodiadau seiber llwyddiannus neu ymgais i wneud hynny sy’n arwain at doriadau data yn rhoi gwybodaeth wirioneddol o ble y gwnaed ymgais ac os yw wedi bod yn llwyddiannus neu beidio. Gall cadarnhau nad yw gwybodaeth o’r fath yn cael ei chadw fod o gymorth i ymosodwyr posibl trwy nodi bod ymosodiad wedi mynd heb ei ganfod. Yn yr un modd, byddai cadarnhau bod gwybodaeth yn cael ei chadw yn galluogi dealltwriaeth o ble mae ymosodiadau wedi bod yn llwyddiannus, a lle mae gwendidau posibl. Efallai y bydd ymosodwyr wedyn yn gallu teilwra eu dulliau i gynyddu eu siawns o lwyddo.
Byddai cadarnhau neu wadu a yw gwybodaeth yn cael ei chadw mewn perthynas ag unrhyw ddata a ddatgelwyd o ganlyniad i ymosodiad, i bob pwrpas, yn cadarnhau y bu ymosodiadau seiber llwyddiannus yn erbyn yr heddlu, a fyddai’n achosi niwed fel y manylir uchod.
Ymhellach, er mwyn atal ymddygiad troseddol a therfysgol, mae’n hanfodol bod yr heddlu ac asiantaethau eraill yn gallu gweithio gyda’i gilydd, yn gudd lle bo angen, er mwyn cael gwybodaeth o fewn fframweithiau deddfwriaethol presennol i sicrhau arestio ac erlyn troseddwyr sy’n cyflawni neu gynllunio i gyflawni gweithredoedd terfysgol, lle gall eu modus operandi gynnwys ymosodiadau seiber ar gronfeydd data diogel. Er mwyn cyflawni’r nod hwn, mae’n hanfodol bwysig bod gwybodaeth yn cael ei rhannu â heddluoedd a chyrff diogelwch eraill yn y Deyrnas Unedig er mwyn cefnogi mesurau gwrthderfysgaeth yn y frwydr i amddifadu rhwydweithiau terfysgol o’u gallu i gyflawni trosedd. Byddai cadarnhau neu wadu manylion penodol am unrhyw doriadau o dechnoleg gwybodaeth a diogelwch yn hynod ddefnyddiol i’r rhai sy’n ymwneud â gweithgareddau terfysgol gan y byddai’n eu galluogi i fapio cronfeydd data diogelwch gwybodaeth bregus.
Ystyriaethau budd y cyhoedd
Adran 24(2) Diogelwch gwladol
Ffactorau o blaid cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw:
Mae gan y cyhoedd hawl i wybod sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario a sut mae adnoddau’n cael eu dosbarthu o fewn maes plismona. Byddai cadarnhau bod gwybodaeth yn cael ei chadw ynghylch ymosodiadau seiber llwyddiannus sy’n achosi toriadau data yn galluogi’r cyhoedd yn gyffredinol i ddwyn yr heddlu i gyfrif, gan sicrhau bod pob toriad o’r fath yn cael ei gofnodi a’i ymchwilio’n briodol. Gyda’r alwad am dryloywder gwariant cyhoeddus, byddai hyn yn galluogi gwell trafodaeth gyhoeddus.
Ffactorau yn erbyn cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw:
Rhoddir mesurau diogelwch ar waith i amddiffyn y gymuned rydym yn ei gwasanaethu. Fel y gwelwyd yn y niwed, byddai cadarnhau a fu unrhyw ymosodiadau seiber yn llwyddiannus yn amlygu gwendidau o fewn yr heddlu i derfysgwyr ac unigolion sy’n bwriadu cyflawni gweithgarwch troseddol y gellid eu hecsbloetio ymhellach.
Gan gymryd i ystyriaeth yr hinsawdd ddiogelwch bresennol yn y Deyrnas Unedig, ni ddylid datgelu unrhyw wybodaeth (megis nodi esemptiad sy’n cadarnhau gwybodaeth sy’n berthnasol i’r cais hwn neu, i’r gwrthwyneb, sy’n nodi ‘nid oes gwybodaeth yn cael ei chadw’) a allai fod o gymorth i derfysgwr pe bai’n cael ei datgelu. Ni wyddys i ba raddau y gallai’r wybodaeth hon fod o gymorth i derfysgwr, ond mae’n amlwg y bydd yn cael effaith ar allu heddlu i fonitro gweithgarwch terfysgol.
Waeth pa wybodaeth a gedwir ai peidio, mae’r cyhoedd yn ymddiried yn y gwasanaeth heddlu i wneud penderfyniadau priodol o ran eu diogelwch a’u hamddiffyniad a’r unig ffordd o leihau risg yw bod yn ofalus gyda’r hyn sy’n cael ei roi i’r cyhoedd.
Byddai effaith gronnus terfysgwyr yn casglu gwybodaeth o wahanol ffynonellau hyd yn oed yn fwy effeithiol o’i chysylltu â gwybodaeth arall a gasglwyd o wahanol ffynonellau am derfysgaeth. Bydd yr wybodaeth a ddatgelir dros amser yn rhoi disgrifiad manylach o seilwaith tactegol nid yn unig ardal heddlu ond hefyd y wlad gyfan.
Byddai unrhyw ddigwyddiad sy’n deillio o ddatgeliad o’r fath, yn ddiofyn, yn effeithio ar ddiogelwch gwladol.
Adran 31 (3) – Gorfodi’r gyfraith
Ffactorau o blaid cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw:
Byddai cadarnhau bod gwybodaeth yn bodoli sy’n berthnasol i’r cais hwn yn arwain at gyhoedd mwy gwybodus a allai annog unigolion i ddarparu cudd-wybodaeth er mwyn lleihau achosion o doriadau diogelwch o’r fath.
Ffactorau yn erbyn cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw:
Byddai cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw yn yr achos hwn yn awgrymu bod yr heddlu yn cymryd ei gyfrifoldeb i ddiogelu gwybodaeth a systemau gwybodaeth rhag mynediad heb awdurdod, dinistrio ac ati yn ddiystyriol ac yn amhriodol.
Prawf cydbwysedd
Mae’r pwyntiau uchod yn amlygu rhinweddau cadarnhau neu wadu bod yr wybodaeth y gofynnwyd amdani yn bodoli. Mae’r gwasanaeth heddlu yn gyfrifol am orfodi’r gyfraith, atal a chanfod trosedd, ac amddiffyn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Fel rhan o’r diben plismona hwnnw, cesglir gwybodaeth a all fod yn sensitif iawn yn ymwneud â gweithgarwch ymchwilio proffil uchel. Byddai gwanhau’r mecanweithiau a ddefnyddir i fonitro unrhyw fath o weithgarwch troseddol, ac yn benodol gweithgarwch terfysgol, yn rhoi diogelwch y wlad mewn mwy o berygl.
Yn ogystal, byddai unrhyw beth sy’n rhoi’r hyder hwnnw mewn perygl, ni waeth pa mor gyffredinol, yn tanseilio unrhyw ymddiriedaeth neu hyder sydd gan unigolion yng ngwasanaeth yr heddlu. Felly, ar hyn o bryd, ein barn ni ar gyfer y materion hyn yw nad yw’r prawf cydbwysedd yn ffafrio naill ai cadarnhau na gwadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw.
Ymateb 2:
Ni all Heddlu Dyfed–Powys gadarnhau na gwadu ei fod yn cadw unrhyw wybodaeth arall ynglŷn â chorff esempt gan nad yw’r ddyletswydd yn adran 1(1)(a) o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn berthnasol yn rhinwedd yr esemptiadau a ganlyn:
Adran 23(5) Gwybodaeth a ddarperir gan gyrff diogelwch penodol neu sy’n ymwneud â hwy
Adran 24(2) Diogelwch gwladol
Adran 31(3) Gorfodi’r gyfraith
Yn ogystal â’r esemptiadau a’r esboniad a ddarparwyd eisoes ar gyfer cwestiynau 1 a 3, mae adran 23(5), sef gwybodaeth a ddarparwyd gan gyrff diogelwch penodol neu sy’n ymwneud â hwy, wedi’i chymhwyso i’r ymateb i Gwestiwn 2.
Mae adran 23 yn esemptiad absoliwt ar sail dosbarth ac nid oes gofyniad i ystyried budd y cyhoedd yn yr achos hwn. Mae adrannau 24 a 31 ill dau yn esemptiadau amodol sy’n seiliedig ar niwed ac felly mae’n ofynnol i Heddlu Dyfed–Powys sefydlu’r niwed wrth ddatgelu, a budd y cyhoedd o blaid ac yn erbyn datgelu, a ddarparwyd ar gyfer yr ymateb i gwestiynau 1 a 3.
Ymateb 4 a 5:
Mae’r wybodaeth hon wedi’i hesemptio o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhinwedd yr esemptiadau canlynol:
Adran 24(1) – Diogelwch gwladol
Adran 31(1) – Gorfodi’r gyfraith
Mae adrannau 24 a 31 ill dau yn esemptiadau amodol sy’n seiliedig ar niwed ac felly mae’n ofynnol i Heddlu Dyfed–Powys sefydlu’r niwed wrth ddatgelu, a budd y cyhoedd o blaid ac yn erbyn datgelu.
Niwed cyffredinol
Mae unrhyw ddatgeliad o dan y Ddeddf Ryddid Gwybodaeth yn ddatgeliad i’r cyhoedd yn gyffredinol. Byddai datgelu gwybodaeth mewn perthynas â chyfanswm y gyllideb sy’n cael ei gwario ar gymorth seiber, diogelu a systemau cyfrifiadurol, a nifer y bobl a gyflogir i oruchwylio cymorth seiber a rhaglenni, yn tanseilio egwyddorion craidd plismona, ac un ohonynt yw diogelu diogelwch gwladol.
Ni ellir anwybyddu bygythiad terfysgaeth. Cydnabyddir yn gyffredinol bod y dirwedd diogelwch rhyngwladol yn gynyddol gymhleth ac anrhagweladwy. Ers 2006, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi lefel y bygythiad – Lefelau Bygythiad | MI5 – Y Gwasanaeth Diogelwch. Mae’r DU yn parhau i wynebu bygythiad parhaus gan eithafwyr treisgar a therfysgwyr. Yn seiliedig ar gudd-wybodaeth gyfredol, mae lefel y bygythiad cenedlaethol wedi’i gosod ar ‘sylweddol’ ar hyn o bryd.
Heddlu Dyfed–Powys sy’n gyfrifol am orfodi’r gyfraith, atal a chanfod troseddau, a diogelu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Byddai datgelu gwybodaeth a fyddai’n cynorthwyo troseddwyr yn fygythiad difrifol i orfodi’r gyfraith yn weithredol yn effeithiol, a byddai’n dangos cyfyngiadau ar alluoedd yr heddlu o fewn y maes penodol hwn. Pe bai’r wybodaeth hon yn cael ei chasglu’n genedlaethol, byddai’n caniatáu i’r rhai â bwriad troseddol fapio ble mae cyllid a chyflogaeth ar eu hisaf. Byddai hyn yn annog gweithgarwch troseddol ymhellach drwy amlygu gwendidau posibl yn genedlaethol.
Mae gan heddluoedd ddyletswydd i amddiffyn swyddogion, staff ac aelodau’r cyhoedd rhag niwed. Byddai darparu datgeliad a fyddai’n niweidiol i ddarparu gwasanaeth plismona effeithlon yn fethiant wrth ddarparu’r ddyletswydd gofal hon.
Prawf budd y cyhoedd
Adran 24(1) – Diogelwch gwladol
Ffactorau o blaid datgelu:
Ni fyddai datgelu cyfanswm y gyllideb y mae Heddlu Dyfed–Powys wedi’i dyrannu i’n systemau cymorth seiber, diogelu a chyfrifiadurol yn peri risg seiberddiogelwch ynddo’i hun. Felly, ni fyddai’n niweidio diogelwch gwladol mewn gwirionedd.
Byddai datgelu nifer y bobl y mae Heddlu Dyfed–Powys wedi’u cyflogi i oruchwylio ein cymorth seiber yn hysbysu’r cyhoedd ein bod yn cymryd y maes pryder hwn, a’r bygythiad a achosir gan droseddwyr (gan gynnwys grwpiau terfysgol), o ddifrif.
Ffactorau yn erbyn datgelu:
Byddai gwneud cyfanswm y gyllideb a ddyrannwyd ar gyfer ein systemau cymorth seiber, diogelu a chyfrifiadurol ar gael i’r cyhoedd yn caniatáu i droseddwyr (gan gynnwys grwpiau terfysgol) nodi a oes gan Heddlu Dyfed–Powys gyllid cyfyngedig yn y maes hwn, o gymharu â heddluoedd eraill yn genedlaethol. Gallai hyn roi arwydd o ddiffyg dealltwriaeth ein hadrannau o fygythiadau seiberddiogelwch, gan felly roi’r cyhoedd mewn mwy o berygl a gwneud y mesurau diogelwch sydd ar waith yn llai effeithiol.
Byddai hysbysu’r cyhoedd am nifer y bobl a gyflogir i oruchwylio cymorth seiber o fewn Heddlu Dyfed–Powys yn dangos ein dealltwriaeth o fygythiadau seiberddiogelwch, ein parodrwydd i dderbyn risg a’n gweithgarwch. Byddai hyn yn ein gadael yn agored i ymosodiad pan fo adnoddau’n brin. Pe bai’r wybodaeth hon yn cael ei chasglu ar raddfa genedlaethol, gellid creu ‘tabl cynghrair’ yn dangos yr heddluoedd sydd â chyllid cyfyngedig ar gyfer y maes hwn a/neu adnoddau cyfyngedig o ran gweithwyr yn y maes hwn. Byddai hyn yn cynyddu’r risg y byddai’r heddluoedd hynny’n cael eu targedu, gan arwain at berygl cynyddol i ddiogelwch gwladol.
Adran 31(1) – Gorfodi’r gyfraith
Ffactorau o blaid datgelu:
Byddai datgelu cyfanswm y gyllideb a ddyrannwyd ar gyfer ein systemau cymorth seiber, diogelu a chyfrifiadurol yn dangos i’r cyhoedd sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario yn y maes hwn er mwyn atal a chanfod trosedd. Byddai hyn yn dangos bod Heddlu Dyfed–Powys mor agored a thryloyw â phosibl gyda’r cyhoedd.
Byddai datgelu nifer y bobl a gyflogir gan Heddlu Dyfed–Powys i oruchwylio cymorth seiber yn dangos faint o bobl yr ydym wedi’u neilltuo i atal troseddau a chanfod troseddwyr ar gyfer y maes penodol hwn sy’n peri pryder. Byddai hyn yn dangos ein bod mor agored a thryloyw â’r cyhoedd â phosibl, a byddai’n caniatáu i’r cyhoedd gael mwy o wybodaeth am y maes penodol hwn.
Ffactorau yn erbyn datgelu:
Byddai gwneud cyfanswm y gyllideb a wariwyd ar gymorth seiber, diogelu a systemau cyfrifiadurol ar gael i’r cyhoedd yn galluogi unigolion i gasglu gwybodaeth sensitif ynghylch gwariant Heddlu Dyfed–Powys. Gallai hyn ddangos buddsoddiad cyfyngedig yn y maes penodol hwn, gan felly roi syniad o lefel y ddealltwriaeth o fewn yr adran honno.
Byddai hysbysu’r cyhoedd am nifer yr unigolion a gyflogir gan Heddlu Dyfed–Powys i oruchwylio cymorth seiber hefyd yn hysbysu’r rhai sydd â bwriad troseddol o’r wybodaeth hon. Byddai hyn yn caniatáu i droseddwyr gael gwybodaeth werthfawr mewn perthynas â’r maes penodol hwn, y byddent wedyn yn ei defnyddio i osgoi cael eu canfod. Pe bai gennym nifer is o weithwyr yn y maes hwn, byddai’r heddlu yn agored i ymosodiad gan y byddem yn cael ein hadnabod fel bod yn agored i niwed. Byddai hyn wedyn yn rhwystro ein gallu i atal a chanfod trosedd.
Prawf cydbwysedd
Heddlu Dyfed–Powys sy’n gyfrifol am orfodi’r gyfraith, atal a chanfod troseddau, a diogelu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Ni fydd yr heddlu yn datgelu unrhyw wybodaeth a fyddai’n rhoi diogelwch unigolyn (swyddog, staff neu aelod o’r cyhoedd) a/neu’r heddlu mewn perygl, neu a fyddai’n tanseilio diogelwch gwladol.
Er bod budd cyhoeddus mewn bod yn agored ac yn dryloyw gyda’r cyhoedd, yn ogystal â galluogi’r cyhoedd i weld sut mae’r heddlu’n mynd i’r afael â’r bygythiad gan droseddwyr, mae budd cyhoeddus cryfach mewn diogelu diogelwch gwladol ac uniondeb yr heddlu. Rhaid ailadrodd hefyd bod datgeliad o dan y Ddeddf Ryddid Gwybodaeth nid yn unig yn ddatgeliad i’r ymgeisydd ond i’r byd.
Am y rhesymau hyn, ein barn ni yw bod budd y cyhoedd o blaid peidio â datgelu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani.
Mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed–Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth (oherwydd bod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi, yr ymgeisydd, sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn nodi’r esemptiad dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn berthnasol.
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod ar gyfer yr agweddau hynny ar eich cais. Esemptiadau a ddefnyddiwyd:
Adran 23(5) – Gwybodaeth a ddarperir gan gyrff diogelwch penodol neu sy’n ymwneud â hwy
Adran 24(1) ac adran 24(2) – Diogelwch gwladol
Adran 31(1) ac adran 31(3) – Gorfodi’r gyfraith
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed–Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddhawyd fod yn gywir neu beidio.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 22 Mai 2024)