Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 262/2024
Cais:
1) Sawl digwyddiad a adroddwyd i chi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf sy’n ymwneud â'r ap cyfryngau cymdeithasol Yubo?
2) Faint o’r digwyddiadau hynny oedd yn ymwneud â phobl dan 18 oed?
3) Sawl digwyddiad yr adroddwyd wrthych a oedd yn ymwneud â Yubo oedd yn ymwneud â throseddau rhyw a/neu feithrin perthynas amhriodol gan rywun dros 18 oed?
4) Sawl digwyddiad a adroddwyd wrthych a oedd yn ymwneud â Yubo oedd yn achosion o fwlio/aflonyddu rhwng pobl ifanc dan 18 oed?
Eglurhad:
A ydych yn cyfeirio at ddigwyddiadau neu droseddau? Sylwch fod digwyddiad yn wahanol i drosedd. Mae digwyddiad yn gofnod o gyswllt a wneir â heddlu gan unigolyn / aelod o’r cyhoedd (fel arfer trwy alwad 999 neu 101) a throsedd yw pan fo’r trothwy wedi’i gyrraedd er mwyn i’r heddlu dybio bod trosedd wedi digwydd fel y'i diffinnir gan y gyfraith.
Hoffwn wybod am ddigwyddiadau.
Ymateb:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
C1.
Adroddwyd am gyfanswm o bedwar (4) digwyddiad yn ymwneud ag ap Yubo.
C2.
Cyfanswm y digwyddiadau yr adroddwyd amdanynt sy’n ymwneud ag ap Yubo lle'r oedd y dioddefwr o dan 18 oed yw dau (2).
C3.
Cyfanswm y digwyddiadau yr adroddwyd amdanynt sy’n ymwneud â’r ap YUBO a oedd yn ymwneud â throseddau rhyw a/neu feithrin perthynas amhriodol gan rywun dros 18 oed oedd dau (2).
C4.
Cyfanswm y digwyddiadau yr adroddwyd amdanynt a oedd yn ymwneud â Yubo ac a oedd yn achosion o fwlio/aflonyddu rhwng pobl ifanc dan 18 oed oedd sero (0).
Sylwer, mae'r digwyddiadau hyn wedi'u hadolygu â llaw ac, felly, wedi'u categoreiddio â llaw.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed–Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddhawyd fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol i heddluoedd y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd a phennir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw'r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi'r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith yw’r gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu data troseddau. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylai ymateb yr heddlu hwn i'ch cwestiynau gael ei ddefnyddio at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall y gallech ei gael.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 19 Mawrth 2024)