Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 173/2024
Cais:
Hoffwn gael yr wybodaeth ar ffurf tabl, wedi’i dadansoddi yn ôl nifer y bygythiadau i ladd a wnaed yn erbyn pob Aelod Seneddol (AS). (Gellir anonymeiddio’r enwau, wrth gwrs.)
Er enghraifft:
|
Bygythiadau i fywyd a wnaed |
|
|
AS 1 |
1 |
|
AS 2 |
3 |
|
AS 3 |
2 |
Eglurhad:
Yr wyf yn cyfeirio at fygythiadau i ladd. A allwch chi ddarparu data ar gyfer rhybuddion Osman hefyd?
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Gallaf gadarnhau bod y gost o benderfynu a ydyw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r cais hwn yn cael ei chadw ai peidio yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, felly rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod adran 12(2) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol, yn gymwys iddi.
Lle dibynnir ar esemptiadau mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi, y ceisydd, sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys. Mae’r esemptiad canlynol wedi’i gymhwyso i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 12(2) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(2) yn datgan: “Nid yw isadran (1) yn esemptio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) o adran 1(1) oni bai y byddai’r gost amcangyfrifedig o gydymffurfio â’r paragraff hwnnw yn unig yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o benderfynu pa wybodaeth a gedwir, os o gwbl, sy’n berthnasol i’ch cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, h.y. mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn fwy na’r ‘lefel briodol’ fel y nodir yn Rheoliadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth (Ffioedd a Therfyn Priodol) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd yn hwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 114 awr) i gydymffurfio â’ch cais. Gellir gweld y rheoliadau yn: https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae’r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu, er mwyn canfod a oes unrhyw wybodaeth berthnasol yn cael ei chadw, y byddai angen adolygiad llaw o’r holl droseddau bygythiadau i ladd er mwyn canfod a oeddent yn gysylltiedig â’ch cais.
Canfuwyd bod cyfanswm o 686 o droseddau bygythiadau i ladd wedi’u cofnodi y byddai angen eu harchwilio yn unigol ac amcangyfrifwyd y byddai’n cymryd 10 munud ar gyfartaledd i ymchwilio i bob cofnod unigol. Manylir ar yr amcangyfrif amser perthnasol isod:
2023 – 686 cofnod o drosedd bygythiad i ladd x 10 munud fesul cofnod = 114.3 awr
Amser a amcangyfrifir ar gyfer cais cyfan = 114.3 awr
Ymateb mewn perthynas â rhybuddion Osman:
Ni all Heddlu Dyfed-Powys gadarnhau a oes modd adalw ymateb o fewn y terfyn amser priodol, h.y. 18 awr, gan fod y cais wedi mynd y tu hwnt i’r terfyn amser priodol cyn canfod yr wybodaeth hon.
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn o dan adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn gymwys, roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1). Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr. Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â mi.
Sylwch hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nid yw’n dileu hawl yr heddlu i ddyfynnu esemptiadau os yw’n berthnasol.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol i heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd, a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu’r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 22 Mawrth 2024)