Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 196/2024
Cais:
Hoffwn ofyn am yr wybodaeth ganlynol o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth:
1) Cyfanswm nifer y diwrnodau salwch a gymerwyd gan swyddogion yr heddlu yn y cyfnod rhwng 1 Ionawr 2022 a 31 Rhagfyr 2022.
2) Cyfanswm nifer y diwrnodau salwch a gymerwyd gan swyddogion yr heddlu yn y cyfnod rhwng 1 Ionawr 2022 a 31 Rhagfyr 2022 pan oedd iechyd meddwl yn ffactor a gyfrannodd at yr absenoldeb hwnnw.
3) Rhestr o’r cyflyrau iechyd meddwl / seicolegol a nodwyd fel rhesymau dros absenoldeb, os ydyw’n bosibl.
4) Dadansoddiad o gwestiynau 1 a 2 yn ôl rhyw, oedran a rheng.
5) Rhestr o’r gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sydd ar gael i swyddogion yr heddlu.
6) Dadansoddiad o swyddogion yr heddlu yn ôl rhyw, oedran a rheng y swyddogion heddlu a ddefnyddiodd y gwasanaethau cymorth hyn.
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau yn gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Lle dibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth wedi’i hesemptio), roi i chi, y ceisydd, hysbysiad sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad o dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam bod yr esemptiad yn gymwys.
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani. Fodd bynnag, rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod adran 12(1) ‘Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol’ yn gymwys iddi.
Adran 12(1) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(1) yn datgan: “Nid yw adran 1(1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â chais am wybodaeth os ydyw’r awdurdod yn amcangyfrif y byddai’r gost o gydymffurfio â’r cais yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o ddarparu’r wybodaeth y gofynnir amdani mewn perthynas â’ch cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, h.y. mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn uwch na’r ‘lefel briodol’ fel y nodir yn Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfyn a Ffioedd Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd yn hwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 1,235.5 awr) i gydymffurfio â’r rhan hon o’ch cais. Gellir dod o hyd i’r rheoliadau yn https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae’r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw’r wybodaeth sy’n ymwneud â chwestiwn 3 eich cais yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw. Y ffordd y cafodd yr absenoldebau eu categoreiddio pan gofnodwyd hwy ar y system sy’n pennu’r ffigurau hyn. Fe’n hysbyswyd y gallai absenoldebau fod wedi’u categoreiddio’n wahanol i ddechrau; er enghraifft, o dan yr adran Amrywiol, ond y gwyddys yn ddiweddarach eu bod yn datblygu i fod yn gysylltiedig â straen. Felly, er mwyn ymateb i’r cwestiynau penodol a godwyd, byddai angen adolygu ac asesu pob cofnod seicolegol yn erbyn y meini prawf y gofynnwyd amdanynt.Felly, byddai angen archwilio pob cofnod, a chanfuwyd bod cyfanswm o 7,413 o gofnodion perthnasol y byddai angen eu hadolygu yn unigol.Manylir ar yr amcangyfrif amser perthnasol isod:
2022 – 7,413 o ddiwrnodau salwch wedi’u categoreiddio fel anhwylderau seicolegol x 10 munud y cofnod = 1,235.5 awr.
Amcangyfrif amser ar gyfer cwestiwn 3 – 1,235.5 awr
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn o dan adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn gymwys, roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1). Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr. Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â mi.
Sylwer hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nid yw’n dileu hawl yr heddlu i ddyfynnu esemptiadau os ydynt yn berthnasol.
Er bod costau ychwanegol wedi dileu rhwymedigaethau’r heddlu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, fel arwydd o ewyllys da rwyf wedi darparu gwybodaeth sy’n berthnasol i’ch cais, a adalwyd neu a oedd ar gael cyn y sylweddolwyd y byddai’r terfyn ffioedd yn cael ei dorri. Hyderaf fod hyn yn ddefnyddiol, ond nid yw’n effeithio ar ein hawl gyfreithiol i ddibynnu ar y rheoliadau ffioedd ar gyfer gweddill eich cais.
Cwestiwn 1:
Yn 2022, cofnodwyd cyfanswm o 19,779 o ddiwrnodau salwch ymhlith swyddogion yr heddlu.
Cwestiwn 2:
Yn 2022, nodwyd cyfanswm o 7,413 o ddiwrnodau salwch fel rhai yn ymwneud ag anhwylderau seicolegol.
Cwestiwn 4:
Ni adalwyd ateb i gwestiwn 4 cyn sylweddoli y byddai cwestiwn 3 yn peri i’r ymateb gymryd mwy na’r amser gofynnol. Fodd bynnag, dylid nodi nad yw’n hawdd adalw’r wybodaeth hon, a phe bai’n cael ei hailgyflwyno byddai’n debygol o arwain at ymateb yn dyfynnu’r esemptiad o dan adran 12(1), gan y byddai’n debygol o gymryd yn hwy na 18 awr i adalw’r wybodaeth hon hefyd, oherwydd byddai angen adolygu pob ffeil yn unigol i gael y data y gofynnwyd amdanynt.
Cwestiwn 5:
Rhestr o wasanaethau cymorth iechyd meddwl sydd ar gael i swyddogion yr heddlu:
Gwasanaeth cwnsela mewnol
Gwasanaeth 24 awr gan y rhaglen cymorth i weithwyr, Vivup
Gwasanaethau seicolegol Tŷ’r Fflint
Meddyg teulu – gofal sylfaenol
Tîm Argyfwng y GIG.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 13 Mawrth 2024)