Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 110/2024
Cais:
1) Os gwelwch yn dda, ar gyfer troseddau dwyn a gofnodwyd gan eich heddlu, a allwch chi nodi sawl gwaith y mae testun yr adroddiad trosedd (a ddisgrifir fel adroddiadau mynegai disgrifiadol gan lawer o heddluoedd) yn cynnwys cyfeiriad at ‘bag llaw’ ym mhob un o’r blynyddoedd calendr canlynol:
2) A allwch chi ddarparu copi wedi’i olygu o’r adroddiadau troseddau testun rhydd ar gyfer y troseddau hyn a gofnodwyd gan eich heddlu rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2023?
Eglurhad:
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw
Gallaf gadarnhau bod y gost o benderfynu a ydyw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r cais hwn yn cael ei chadw ai peidio yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, felly rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod adran 12(2) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol, yn gymwys iddi.
Lle dibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi, y ceisydd, sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys. Mae’r esemptiad canlynol wedi’i gymhwyso i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 12(2) – Y gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(2) yn datgan: “Nid yw is-adran (1) yn esemptio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) o adran 1(1) oni bai y byddai’r gost amcangyfrifedig o gydymffurfio â’r paragraff hwnnw yn unig yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o benderfynu pa wybodaeth a ddelir, os o gwbl, sy’n berthnasol i’ch cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, h.y. mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn uwch na’r “lefel briodol” fel y nodir yn Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfyn a Ffioedd Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd yn hwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 236 awr) i gydymffurfio â’ch cais. Gellir dod o hyd i’r rheoliadau yn https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae’r adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu, oherwydd newid mewn systemau cofnodi, nad yw’r holl wybodaeth sy’n ymwneud â’ch cais yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw. Yng ngoleuni hyn, ac er mwyn cael yr wybodaeth sy’n berthnasol i’ch cais o fewn yr amserlen a nodwyd yn gywir, byddai’n rhaid i Heddlu Dyfed-Powys gyrchu pob cofnod o droseddau dwyn ar ôl 12 Mai 2023 a’u hadolygu â llaw.
Canfuwyd bod cyfanswm o 2,826 o gofnodion ar gyfer troseddau lladrad ar ôl 12 Mai 2023 y byddai angen eu hadolygu â llaw i ganfod y geiriau ‘bag llaw’. Canfuwyd hefyd y byddai’n cymryd o leiaf pum munud i adolygu a chael yr wybodaeth ar gyfer un cofnod trosedd mewn perthynas â’ch cais (fel yr amlinellir uchod). Mae’r broses a amlinellir yn arwain at yr amcangyfrif amser isod.
2,826 o droseddau x 5 munud = 236 awr
Amcangyfrif amser i gwblhau’r dasg = 236 awr
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn o dan adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn gymwys, o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1), roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno.
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr. Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor mewn perthynas â’r mater hwn mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth. Sylwer hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nid yw’n dileu hawl yr awdurdodau cyhoeddus i ddyfynnu esemptiadau os ydynt yn berthnasol.
Er bod costau ychwanegol yn dileu rhwymedigaethau’r heddlu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach, fel arwydd o ewyllys da rwyf wedi darparu gwybodaeth, mewn perthynas â chwestiwn 1 eich cais, y mae’n hawdd ei hadalw ac sy’n cael ei hamlinellu isod. Hyderaf fod hyn yn ddefnyddiol, ond nid yw'n effeithio ar ein hawl gyfreithiol i ddibynnu ar y rheoliadau ffioedd ar gyfer gweddill eich cais.
|
2019 |
2020 |
2021 |
2022 |
2023 (hyd at 12/05/23) |
|
6 |
0 |
1 |
0 |
0 |
Dylid nodi, oherwydd y systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi materion o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ddarparwyd fod yn gywir neu beidio.
Mae’n ofynnol i heddluoedd y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd, a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu’r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 27 Mawrth 24)