Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 305/2024
Cais:
Yn benodol, hoffwn ofyn:
1) Sawl digwyddiad o ddympio sbwriel yn anghyfreithlon (a elwir hefyd yn ddympio anghyfreithlon neu dipio anghyfreithlon) a fu o fewn awdurdodaeth awdurdod eich heddlu y llynedd (h.y. 2023)?
2) Sawl digwyddiad o ddympio sbwriel yn anghyfreithlon (a elwir hefyd yn ddympio anghyfreithlon neu dipio anghyfreithlon) sydd wedi digwydd o fewn awdurdodaeth awdurdod eich heddlu ers dechrau 2024?
3) Sawl arestiad a wnaed gan eich heddlu am ddympio sbwriel yn anghyfreithlon (a elwir hefyd yn ddympio anghyfreithlon neu dipio anghyfreithlon) y llynedd (h.y. 2023)?
4) Sawl arestiad a wnaed gan eich heddlu am ddympio sbwriel yn anghyfreithlon (a elwir hefyd yn ddympio anghyfreithlon neu dipio anghyfreithlon) ers dechrau 2024?
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Gallaf gadarnhau bod y gost o benderfynu a ydyw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r cais hwn yn cael ei chadw ai peidio yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, felly rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod adran 12(2) ‘Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol’, yn gymwys iddi.
Lle dibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi, y ceisydd, sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys. Mae’r esemptiad canlynol wedi’i gymhwyso i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 12(2) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(2) yn datgan: “Nid yw is-adran (1) yn esemptio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) o adran 1(1) oni bai y byddai’r gost amcangyfrifedig o gydymffurfio â’r paragraff hwnnw yn unig yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o benderfynu pa wybodaeth a gedwir, os o gwbl, sy’n berthnasol i’ch cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo; h.y. mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn fwy na’r ‘lefel briodol’ fel y nodir yn Rheoliadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth (Ffioedd a Therfyn Priodol) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd yn hwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 44 awr) i gydymffurfio â’ch cais. Gellir gweld y rheoliadau yn https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244.
Cwestiwn 1
Mae’r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw’r wybodaeth mewn perthynas â’r cais cyfan yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw. Mae hyn oherwydd y ffaith y byddai’n rhaid i ni adolygu â llaw bob digwyddiad yn 2023 sy’n cyfeirio at ‘ddympio/tipio’ yng nghofnod galwadau’r heddlu gan nad ydyw wedi’i gofnodi fel trosedd. Felly, byddai angen archwilio’n unigol i bob un o’r digwyddiadau a throseddau a gofnodwyd o fewn y categorïau mwyaf perthnasol er mwyn canfod a oes unrhyw gofnodion perthnasol yn cael eu cadw. Manylir ar yr amcangyfrifon amser perthnasol isod:
2023 = 220 o ddigwyddiadau wedi’u cofnodi x 6 munud fesul cofnod = 22 awr
Cwestiwn 3
Mae’r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw’r wybodaeth mewn perthynas â’r cais cyfan yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw. Mae hyn oherwydd y ffaith y byddai’n rhaid i ni adolygu â llaw bob digwyddiad yn 2023 sy’n cyfeirio at ‘ddympio/tipio’ i nodi unrhyw gyfeiriadau trosedd cysylltiedig a beth oedd eu canlyniad. Felly, byddai angen archwilio’n unigol i bob un o’r digwyddiadau a throseddau a gofnodwyd o fewn y categorïau mwyaf perthnasol er mwyn canfod a oes unrhyw gofnodion perthnasol yn cael eu cadw. Manylir ar yr amcangyfrifon amser perthnasol isod:
2023 = 220 o ddigwyddiadau wedi’u cofnodi x 6 munud fesul cofnod = 22 awr
Amcangyfrif amser ar gyfer y cais cyfan = 44 awr
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn o dan Adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad y mae adran 12 neu adran 14 yn gymwys iddo, roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1). Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr. Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â mi.
Sylwch hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nid yw’n dileu hawl yr heddlu i ddyfynnu esemptiadau os yw’n berthnasol.
Er bod costau ychwanegol wedi dileu rhwymedigaethau’r heddlu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, fel arwydd o ewyllys da rwyf wedi darparu gwybodaeth sy’n berthnasol i’ch cais, a adalwyd neu a oedd ar gael cyn y sylweddolwyd y byddai’r terfyn ffioedd yn cael ei dorri. Hyderaf fod hyn yn ddefnyddiol, ond nid yw’n effeithio ar ein hawl gyfreithiol i ddibynnu ar y rheoliadau ffioedd ar gyfer gweddill eich cais.
Cwestiwn 2
23 digwyddiad (hyd at 20 Mawrth 2024)
Cwestiwn 4
Dim (0) arestiadau (hyd at 20 Mawrth 2024)
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol i heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd, a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu’r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 21 Mawrth 2024)