Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 198/2024
Cais:
Ar dudalen 145 o’r 'Arolygiad o fetio, camymddwyn a chasineb at fenywod yng ngwasanaeth yr heddlu’, a gyhoeddwyd gan HMICFRS, nodir fel a ganlyn:
“Mae’r Ymarfer Proffesiynol Awdurdodedig ar Wrth-llygredigaeth (Cuddwybodaeth) yn rhestru 12 categori o guddwybodaeth yn ymwneud â llygredigaeth. Mae'n arfer da i heddluoedd ddefnyddio'r categorïau hyn wrth gofnodi cuddwybodaeth. Dylai pob heddlu wneud hyn yn gyson i'w helpu i ddeall y bygythiadau sy'n eu hwynebu."
Rhestrir y categorïau ar dudalen 146 fel a ganlyn:
"• ymdreiddio;
Ymateb:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, ond mae esemptiad adran 31(1)(a)(b), gorfodi’r gyfraith, wedi’i gymhwyso i’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, gan felly ei hesemptio rhag cael ei rhyddhau.
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai fod esemptiadau’n berthnasol, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Lle dibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i ni roi hysbysiad i’r ceisydd sy’n:
a) Datgan y ffaith honno
b) Nodi'r esemptiad(au) dan sylw
c) Nodi (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn berthnasol
Adran 31(1)(a)(b) Gorfodi’r gyfraith:
(1) Mae gwybodaeth nad yw’n wybodaeth esempt yn rhinwedd adran 30 yn wybodaeth esempt os byddai ei datgelu o dan y Ddeddf hon yn niweidio, neu’n debygol o niweidio –
(a) atal neu ganfod trosedd
(b) dal neu erlyn troseddwyr
Mae adran 31 yn esemptiad sy’n amodol ar niwed ac felly mae gofyniad i ddarparu manylion y niwed yn ogystal â phrawf budd y cyhoedd.
Niwed wrth ddatgelu
Mae proses y prawf niwed yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys ystyried unrhyw niwed posibl a allai godi o ganlyniad i wneud yr wybodaeth y gofynnwyd amdani ar gael i’r cyhoedd. Mae’r broses hon yn ystyried y niwed posibl i’r canlynol:
Mae datgeliadau a wneir o dan y Ddeddf yn cael eu cyhoeddi gan Heddlu Dyfed-Powys. Pe bai'r heddlu yn rhyddhau dadansoddiad o'r llygredigaeth yn ymwneud â chuddwybodaeth a gofnodwyd ym mlwyddyn ariannol 2022/23, byddai hyn yn rhoi manylion sefyllfa cuddwybodaeth Heddlu Dyfed-Powys yn y maes hwn i'r rhai sydd naill ai'n llwgr, yn ceisio llygru gweithwyr yr heddlu neu'n cyflawni ymddygiad troseddol neu amhriodol/anfoesegol. Byddai'r wybodaeth hon yn cynorthwyo pobl sy'n ceisio cyflawni troseddau neu ymddwyn yn amhriodol/anfoesegol i barhau i wneud hynny. Byddai hyn yn rhwystro gallu'r heddlu i atal a/neu ganfod trosedd neu ddal neu erlyn troseddwyr, yn groes i fudd y cyhoedd.
Dylid nodi hefyd y gall datgeliadau o dan y Ddeddf ymddangos yn ddiniwed ond, o’u cyfuno â datgeliadau eraill o dan y Ddeddf, gellir defnyddio deunydd cyhoeddedig a/neu wybodaeth a gasglwyd am waith gwrth-lygredigaeth yr heddlu fel ‘mosaig’ i greu darlun ar gyfer y rhai sy'n dymuno cyflawni troseddau.
Prawf budd y cyhoedd
Ystyriaethau o blaid datgelu:
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn awdurdod cyhoeddus ac yn y pen draw mae’n atebol i’r cyhoedd. Pan wneir unrhyw gais am wybodaeth i'r heddlu, mae'n bwysig bod yr heddlu yn dryloyw, lle bo modd, wrth ymateb i'r cais hwnnw am wybodaeth. Byddai datgelu dadansoddiad o guddwybodaeth yn ymwneud â llygredigaeth a gofnodwyd ym mlwyddyn ariannol 2022/23 yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i fod yn fwy agored a thryloyw gyda'r cyhoedd.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cael pwerau eithriadol i atal a chanfod trosedd. Mae budd cyhoeddus amlwg iawn mewn darparu cymaint o wybodaeth am y ffordd y mae'r heddlu yn sicrhau bod ei weithwyr yn cynnal y safonau uchaf o broffesiynoldeb ac uniondeb. Byddai rhyddhau'r wybodaeth y gofynnwyd amdani felly yn hwyluso trafodaeth gyhoeddus wybodus.
Ystyriaethau o blaid peidio â datgelu:
Mae cuddwybodaeth yr heddlu yn arf hanfodol sy'n galluogi'r heddlu i atal a chanfod troseddau ac i ddal y rhai sy'n gyfrifol am gyflawni troseddau. Yn y cyd-destun hwn o cuddwybodaeth sy’n ymwneud â llygredigaeth, mae'r wybodaeth hon yn ganolog wrth nodi'r rhai sy'n llwgr, sy'n ceisio llygru gweithwyr yr heddlu, neu sy'n ymddwyn fel arall yn droseddol neu'n amhriodol/anfoesegol.
Prawf cydbwysedd
Wrth ystyried a yw rhyddhau gwybodaeth er budd y cyhoedd, mae’n rhaid i mi ystyried a yw budd y cyhoedd yn cefnogi rhyddhau gwybodaeth i’r parth cyhoeddus neu a oes rheswm digonol i gefnogi atal yr wybodaeth y gofynnwyd amdani. Ar ôl ystyried eich cais, rwy’n derbyn bod bod yn agored ac yn dryloyw er budd y cyhoedd pan wneir unrhyw gais am wybodaeth gan yr heddlu. Derbyniaf hefyd fod budd i’r cyhoedd mewn rhyddhau gwybodaeth am y guddwybodaeth a gofnodwyd gan Heddlu Dyfed-Powys ym maes llygredigaeth, o ystyried y pwerau eithriadol a roddwyd i’r heddlu mewn cymdeithas.
Rhaid cydbwyso budd y cyhoedd o blaid rhyddhau yn erbyn unrhyw risg a/neu niwed cysylltiedig a fyddai’n cael ei achosi wrth ddatgelu. Ar ôl ystyried hyn yn ofalus, rwyf wedi canfod bod cuddwybodaeth sy’n ymwneud â llygredigaeth yn arf pwysig sydd ar gael i'r heddlu wrth nodi'r rhai sy'n llwgr, sy'n ceisio llygru gweithwyr yr heddlu neu sy'n ymddwyn fel arall yn droseddol neu'n amhriodol/anfoesegol. Byddai darparu manylion y guddwybodaeth yn gyhoeddus, hyd yn oed ar ffurf categori, yn debygol o gynorthwyo pobl sy'n ceisio cyflawni troseddau neu sy'n ymddwyn yn amhriodol/anfoesegol i barhau i wneud hynny. Byddai hyn yn rhwystro gallu'r heddlu i atal a/neu ganfod trosedd neu ddal troseddwyr, yn groes i fudd y cyhoedd.
Ar ôl ystyried eich cais yn ofalus, rwyf wedi canfod bod budd y cyhoedd yn parhau i fod wrth sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn gallu dal gwybodaeth yn ôl a fyddai’n rhwystro ei allu i gael gwared ar y rhai llwgr a’r rhai sy’n ceisio llygru gweithwyr yr heddlu neu fel arall yn ymddwyn yn amhriodol/anfoesegol. Mae'r wybodaeth y gofynnwyd amdani felly yn cael ei gwrthod am y rheswm hwn.
Yn ogystal, ni all Heddlu Dyfed-Powys gadarnhau na gwadu bod ganddo unrhyw wybodaeth arall sy’n berthnasol i’r cais hwn, gan nad yw’r ddyletswydd yn adran 1(1)(a) o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn berthnasol oherwydd:
Adran 23(5) Gwybodaeth a ddarperir gan gyrff diogelwch penodol neu sy'n ymwneud â hwy.
Mae adran 23 yn esemptiad absoliwt ar sail dosbarth ac nid oes gofyniad i ystyried budd y cyhoedd yn yr achos hwn. Byddai cadarnhau neu wadu p’un a oes unrhyw wybodaeth arall yn cael ei chadw yn mynd yn groes i’r cyfyngiadau a nodir yn adran 23 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, am fod hon yn mynnu gwaharddiad cyffredinol ar ddatgelu unrhyw wybodaeth a ddefnyddir gan gyrff diogelwch penodol neu sy’n ymwneud â hwy.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 27 Mawrth 2024)