Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 277/2024
Cais:
Hoffwn wneud cais am rywfaint o wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. A fyddech cystal â gallu dweud wrthyf, ar gyfer pob un o'r tair blynedd diwethaf:
Eglurhad:
Mae digwyddiad yn gofnod o gyswllt a wneir â heddlu gan unigolyn / aelod o’r cyhoedd (fel arfer trwy alwad 999 neu 101) a throsedd yw pan fo’r trothwy wedi’i gyrraedd er mwyn i’r heddlu dybio bod trosedd wedi digwydd fel y'i diffinnir gan y gyfraith.
Ymateb:
C1
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai fod esemptiadau’n berthnasol, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Gallaf gadarnhau bod y gost o benderfynu a yw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r cais hwn yn cael ei chadw ai peidio yn uwch na’r swm lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb, felly rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod esemptiad adran 12(2), sef bod cost cydymffurfio yn fwy na'r terfyn priodol, yn gwmwys iddi.
Pan ddibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt) roi hysbysiad i chi, yr ymgeisydd, sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys. Mae’r esemptiad a ganlyn wedi’i gymhwyso i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 12(2) – Y gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(2) yn datgan: “Nid yw is-adran (1) yn esemptio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) o adran 1(1) oni bai y byddai’r gost amcangyfrifedig o gydymffurfio â’r paragraff hwnnw yn unig yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o benderfynu pa wybodaeth a gedwir, os o gwbl, sy’n berthnasol i’ch cais yn uwch na’r swm lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb, h.y. mae’r gost o ddod o hyd i’r wybodaeth a’i hadalw yn fwy na’r “lefel briodol” fel y nodir yn Rheoliadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth (Ffioedd a Therfyn Priodol) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd yn hwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 21 awr) i gydymffurfio â’ch cais. Gellir gweld y rheoliadau yn:
https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae'r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw'r wybodaeth mewn perthynas â'r cais cyfan yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw. Mae hyn oherwydd y ffaith, gyda’n system gofnodi bresennol, y byddai’n rhaid i ni adolygu pob digwyddiad casineb ar sail hil â llaw i ganfod a oedd yn ymwneud â’r defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol, gan nad ydym yn gallu defnyddio hidlydd cymwys gyda’r data.
Felly, er mwyn canfod a oes unrhyw wybodaeth sy'n berthnasol i'ch cais, byddai angen edrych ar bob cofnod digwyddiad casineb ar sail hil a grëwyd yn ystod yr amserlen a nodwyd.
Mae wedi’i nodi bod yna gyfanswm o 212 o ddigwyddiadau casineb ar sail hil wedi’u cofnodi y byddai angen edrych arnynt yn unigol ac amcangyfrifwyd y byddai’n cymryd deg munud ar gyfartaledd i ymchwilio i bob cofnod unigol. Manylir ar yr amcangyfrif amser perthnasol isod:
2021 – 104 o gofnodion digwyddiadau casineb ar sail hil x 6 munud fesul cofnod = 10.4 awr
2022 – 55 o gofnodion digwyddiadau casineb ar sail hil x 6 munud fesul cofnod = 5.5 awr
2023 – 53 o gofnodion digwyddiadau casineb ar sail hil x 6 munud fesul cofnod = 5.3 awr
Amser a amcangyfrifir ar gyfer y cais cyfan = 21.2 awr
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r CYFAN o’r cais hwn o dan adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad fod adran 12 neu adran 14 yn gymwys, o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1), roi hysbysiad i'r ymgeisydd yn datgan y ffaith honno. Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau'r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr. Os bydd angen rhagor o gyngor arnoch mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â mi.
Sylwer hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nad yw’n dileu hawl yr heddlu i ddyfynnu esemptiadau os ydynt yn berthnasol.
C2+3
Gan y gofynnwyd am nifer y digwyddiadau, ni fyddai unrhyw un yn arwain at arestiad na chyhuddiad, felly nid yw'r cwestiynau hyn yn berthnasol.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddhawyd fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol i heddluoedd y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd a phennir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw'r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi'r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith yw’r gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu data troseddau. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylai ymateb yr heddlu hwn i'ch cwestiynau gael ei ddefnyddio at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall y gallech ei gael.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 22 Mawrth 2024)