Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 539/2023
Cais:
Rwyf ar hyn o bryd yn ymchwilio i ymateb yr heddlu i bibellau egsôst anghyfreithlon ar gerbydau; hynny yw, rhai sydd wedi’u haddasu i fod yn fwy swnllyd nag y’u gwnaed yn ystod y gwneuthuriad gwreiddiol ac felly’n torri adran 54(2) o Reoliadau Cerbydau Ffordd (Adeiladu a Defnyddio) 1986.
Ymateb:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Camau tebygol i’w cymryd gan Heddlu Dyfed-Powys:
Nid oes gan Heddlu Dyfed-Powys offer cofnodi sŵn penodol ar gyfer y mathau hyn o droseddau.
Os rhoddir rhif cofrestru’r cerbyd a’i fod yn dangos ceidwad blaenorol yna byddem yn dod o hyd i geidwad y cerbyd ac yna lleoli’r cerbyd.
Mae’n bosibl y bydd y cerbyd yn cael ei ychwanegu at ‘restr goch’ a byddai patrolau heddlu’n cael eu hanfon i leoliadau tebygol y cerbyd.
Mae’r troseddau’n eithaf syml i’w profi. Os caiff y bibell egsôst ei ‘newid’ o safon y gwneuthurwr, yna mae’n drosedd, a bydd y gyrrwr yn cael ei wneud yn hysbys i’r heddlu. Y ddirwy fel arfer yw £50 os caiff ei thalu drwy gosb benodedig.
Mae troseddau tebyg eraill megis ‘wedi’u haddasu er mwyn cynyddu sŵn’ neu ‘distewyddion/systemau diffygiol’ ymhlith eraill sy’n dod o dan yr un pennawd.
Bydd y llys yn penderfynu a ydyw’r bibell egsôst a osodwyd yn cyfateb i’r un a osodwyd yn y ffatri. Os ydyw’n fwy swnllyd, heb unrhyw offer distewi, neu os nad yw’n addas ar gyfer y car, bydd yn cyflawni’r drosedd.
Bydd rhai pibellau egsôst â stamp ‘Ddim at ddefnydd ffordd’ arnynt.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 21 Mawrth 2023)