Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 1071/2023
Cais:
Mae fy nghais yn ymwneud â throseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu, sydd wedi’u dosbarthu fel rhai gwrth-Semitaidd neu Islamoffobaidd.
A fyddech cystal ag anfon y wybodaeth ganlynol ataf?
1) Nifer y troseddau gwrth-Semitaidd a gofnodwyd gan eich heddlu fel a ganlyn:
a) Rhwng 7 Hydref 2023 a 7 Tachwedd 2023 yn gynwysedig.
b) Rhwng 7 Hydref 2022 a 7 Tachwedd 2022 yn gynwysedig.
c) Rhwng 7 Hydref 2021 a 7 Tachwedd 2021 yn gynwysedig.
2) Nifer y troseddau Islamoffobaidd a gofnodwyd gan eich heddlu fel a ganlyn:
a) Rhwng 7 Hydref 2023 a 7 Tachwedd 2023 yn gynwysedig.
b) Rhwng 7 Hydref 2022 a 7 Tachwedd 2022 yn gynwysedig.
c) Rhwng 7 Hydref 2021 a 7 Tachwedd 2021 yn gynwysedig.
Ymateb:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Cwestiwn 1
a) 2
b) 0
c) 0
Cwestiwn 2
a) 2
b) 1
c) 1
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol yn rheolaidd i heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth ac y gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai cyffredinol, ac ni ddefnyddir y gweithdrefnau’n lleol ychwaith i gasglu data troseddau. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 19 Mawrth 2024)