Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 1178/2023
Cais:
Am y cyfnod rhwng 24 Chwefror 2022 a 23 Chwefror 2023 ac am y cyfnod rhwng 24 Chwefror 2023 a 19 Rhagfyr 2023:
1) Nifer y troseddau casineb sy’n gysylltiedig â hil a gofnodwyd lle’r oedd cenedligrwydd y dioddefwr yn Wcreinaidd
2) Disgrifiad byr o bob trosedd a restrir yn eich ateb i gwestiwn 1 (h.y. y manylion a ysgrifennwyd ym maes mynegai disgrifiadol yr adroddiad trosedd)
3) Nifer y troseddau y rhoddwyd gwybod amdanynt i’r heddlu a soniodd am ‘Wcráin’ neu ‘Wcreinaidd’ ym maes mynegai disgrifiadol yr adroddiad trosedd
4) Crynodeb byr o bob trosedd y rhoddwyd gwybod amdano i’r heddlu a restrir yn eich ateb i gwestiwn 3 (h.y. y manylion a ysgrifennwyd ym maes mynegai disgrifiadol yr adroddiad trosedd)
Yna, ar gyfer blynyddoedd calendr 2020 a 2021, a fyddech cystal â dweud wrthyf y canlynol:
5) Nifer y troseddau casineb sy’n gysylltiedig â hil a gofnodwyd lle’r oedd cenedligrwydd y dioddefwr yn Wcreinaidd
6) Disgrifiad byr o bob trosedd a restrir yn eich ateb i gwestiwn 5 (h.y. y manylion a ysgrifennwyd ym maes mynegai disgrifiadol yr adroddiad trosedd)
7) Nifer y troseddau y rhoddwyd gwybod amdanynt i’r heddlu a soniodd am ‘Wcráin’ neu ‘Wcreinaidd’ ym maes mynegai disgrifiadol yr adroddiad trosedd
8) Crynodeb byr o bob trosedd y rhoddwyd gwybod amdano i’r heddlu a restrir yn eich ateb i gwestiwn 7 (h.y. y manylion a ysgrifennwyd ym maes mynegai disgrifiadol yr adroddiad trosedd)
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Gallaf gadarnhau bod y gost o benderfynu a ydyw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r cais hwn yn cael ei chadw ai peidio yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, felly rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod adran 12(2) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol, yn gymwys iddi.
Lle dibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi, y ceisydd, sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys. Mae’r esemptiad canlynol wedi’i gymhwyso i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 12(2) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(2) yn datgan: “Nid yw is-adran (1) yn esemptio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) o adran 1(1) oni bai y byddai’r gost amcangyfrifedig o gydymffurfio â’r paragraff hwnnw yn unig yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o benderfynu pa wybodaeth a ddelir, os o gwbl, sy’n berthnasol i’ch cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, h.y. mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn uwch na’r “lefel briodol” fel y nodir yn Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfyn a Ffioedd Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd yn hwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 85 awr) i gydymffurfio â’ch cais. Gellir gweld y rheoliadau yn https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae’r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw’r wybodaeth mewn perthynas â’r cais cyfan yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw. Mae hyn oherwydd y ffaith y byddai’n rhaid i ni adolygu pob trosedd casineb sy’n gysylltiedig â hil â llaw i nodi a ydyw cenedligrwydd y dioddefwr yn Wcreinaidd gan nad yw’r cenedligrwydd yn cael ei gofnodi, dim ond yr ethnigrwydd tybiedig.
Felly, er mwyn canfod a oes unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i’ch cais, byddai angen archwilio pob cofnod trosedd casineb sy’n gysylltiedig â hil a grëir yn ystod yr amserlen a nodwyd.
Canfuwyd bod 730 o gofnodion trosedd perthnasol y byddai angen eu harchwilio’n unigol ac amcangyfrifir y byddai’n cymryd saith munud ar gyfartaledd i ymchwilio i bob cofnod unigol. Manylir ar yr amcangyfrif amser perthnasol isod:
24 Chwefror 2022 i 23 Chwefror 2023: 497 o gofnodion troseddau casineb yn gysylltiedig â hil x 7 munud y cofnod = 57.9 awr
24 Chwefror 2023 i 19 Rhagfyr 2023: 233 o gofnodion troseddau casineb yn gysylltiedig â hil x 7 munud y cofnod = 27.3 awr
Amser a amcangyfrifir ar gyfer y cais cyfan = 85.2 awr
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn o dan Adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad y mae adran 12 neu adran 14 yn gymwys iddo, roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1).
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr. Os bydd angen rhagor o gyngor arnoch mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â mi.
Nodwch hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nid yw’n dileu hawl yr heddlu i ddyfynnu esemptiadau os yn berthnasol.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddhawyd fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol i heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd, a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu’r data troseddau. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 22 Mawrth 2024)