Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 669/2023
Cais 1 i 3:
1 – Nifer y troseddau a gofnodwyd sy’n cael eu crybwyll dan godau HO 088/05, 008/02 a 005/10 sy’n cynnwys y geiriau ‘spike/d’ a ‘lace/d’ yn y mynegai disgrifiadol gyda chyfuniad o unrhyw un o’r geiriau canlynol: ‘vape/s’, ‘e-cigarette/s’, ‘e-cig/s’, ‘elf bar/s’, ‘lost mary/s’, ‘crystal pro legend/s’, ‘inhale’, ‘breathe’ o’r blynyddoedd canlynol: 2018, 2019, 2020, 2021, 2022, 2023 (hyd at, a chan gynnwys y dyddiad diweddaraf sydd ar gael).
2 – Nodiadau llawn y mynegai disgrifiadol o’r troseddau a gofnodwyd o sbeicio fêps/e-sigaréts, neu nodiadau achos, ar gyfer yr achosion sydd yn 2023, gyda gwybodaeth adnabod bersonol wedi’i hepgor. A fyddech cystal â darparu canlyniadau’r achosion hefyd?
3 – Nifer y troseddau a gofnodwyd o dan godau HO 088/05, 008/02 a 005/10 sy’n cynnwys y geiriau ‘spike/d’ a ‘lace/d’ yn y mynegai disgrifiadol o’r blynyddoedd canlynol: 2018, 2019, 2020, 2021, 2022, 2023 (hyd at, a chan gynnwys y dyddiad diweddaraf sydd ar gael).
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Sero (0).
Ymateb 2:
Nid yw’r ymateb i gwestiwn 2 yn berthnasol, oherwydd mae’n dibynnu ar yr ymateb a roddwyd i gwestiwn 1.
Ymateb 3:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Blwyddyn |
Nifer y troseddau |
2018 |
8 |
2019 |
26 |
2020 |
17 |
2021 |
44 |
2022 |
85 |
2023 |
45 |
Cyfanswm |
225 |
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol i heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd, a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu’r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 25 Mawrth 2024)