Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 1174/2023
Cais:
A fyddech cystal â rhoi i mi nifer y troseddau yr adroddwyd amdanynt sy’n cynnwys y gair "Grindr" (gan gyfeirio at yr ap chwilio am gariad yn unig) A phan fo dioddefwr y drosedd honedig o dan 18 oed?
Rhowch yr wybodaeth hon wedi’i rhannu’n gategorïau – e.e. trais rhywiol, gweithgaredd rhywiol gyda phlentyn dan oed, blacmel ac ati – ac ar gyfer y blynyddoedd canlynol yn unig:
2022 (1 Mawrth 2022 ymlaen)
2023
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai fod esemptiadau’n berthnasol, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Gallaf gadarnhau bod y gost o benderfynu a yw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r cais hwn yn cael ei chadw neu beidio yn uwch na’r swm lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb, felly rydym yn cadw’r holl wybodaeth y gofynnwyd amdani yn ôl gan ein bod yn ystyried bod esemptiad adran 12(2), sef bod y gost cydymffurfio yn fwy na’r terfyn priodol, yn berthnasol iddo.
Lle dibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth wedi’i hesemptio), roi i chi, y ceisydd, hysbysiad sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad o dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam bod yr esemptiad yn gymwys. Mae’r esemptiad a ganlyn wedi’i gymhwyso i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 12(2) – Mae cost cydymffurfio yn fwy na’r terfyn priodol
Mae adran 12(2) yn datgan: “Nid yw isadran (1) yn esemptio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) o adran 1(1) oni bai y byddai cost amcangyfrifedig cydymffurfio â’r paragraff hwnnw yn unig yn fwy na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o benderfynu pa wybodaeth a gedwir, os o gwbl, sy’n berthnasol i’ch cais yn uwch na’r swm lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb, h.y. mae’r gost o ddod o hyd i’r wybodaeth a’i hadalw yn fwy na’r “lefel briodol” fel y nodir yn Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfyn a Ffioedd Addas) 2004.Amcangyfrifir y byddai’n cymryd mwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 1,078 awr) i gydymffurfio â’ch cais. Gellir gweld y rheoliadau yn https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae’r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw’r wybodaeth mewn perthynas â’r cais cyfan yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw. Mae hyn oherwydd y ffaith, gyda’n system cofnodi troseddau bresennol, y byddai’n rhaid i ni adolygu pob trosedd berthnasol â llaw i ganfod a oedd yn ymwneud â’r gair Grindr mewn unrhyw ffordd, gan nad oes gennym hidlydd cymwys y gallwn ei ddefnyddio ar y data.
Felly, er mwyn canfod a oes unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i’ch cais, byddai angen archwilio’n fanwl bob cofnod trosedd yn erbyn pobl dan 18 oed a grëwyd yn ystod yr amserlen a nodir.
Mae wedi’i sefydlu bod cyfanswm o 9,241 o gofnodion trosedd lle mae’r dioddefwr o dan 18 oed wedi’u cofnodi gan Heddlu Dyfed–Powys o fewn yr amserlen benodedig y byddai angen eu harchwilio’n unigol, ac amcangyfrifwyd y byddai’n cymryd saith munud ar gyfartaledd i archwilio pob cofnod unigol. Manylir ar yr amcangyfrif amser perthnasol isod:
2022 (1 Mawrth ymlaen) = 4,525 o droseddau perthnasol a gofnodwyd x 7 munud y cofnod = 527.9 awr
2023 = 4,716 o droseddau perthnasol a gofnodwyd x 7 munud y cofnod = 550.2 awr
Daw hyn i gyfanswm o 9,241 o gofnodion. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd saith munud i adolygu pob cofnod, sef cyfanswm o 1,078 awr o waith.
Amser a amcangyfrifir ar gyfer y cais cyfan = 1,078.1 awr
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn o dan adran 17(5), sef bod rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad y mae adran 12 neu adran 14 yn gymwys iddo roi hysbysiad i’r ymgeisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1). Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel bod yr amser a ddangosir uchod yn llai na 18 awr. Os bydd angen rhagor o gyngor arnoch mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â mi.
Nodwch hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nad yw’n dileu hawl yr heddlu i ddyfynnu esemptiadau os yn berthnasol.
Dylid nodi, o ganlyniad i'r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed–Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddhawyd fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol i heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd, a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw'r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi'r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu data troseddau. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 22 Mawrth 2024)