Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 228/2024
Cais:
Mae fy nghais yn ymwneud â throseddau a gofnodwyd gan yr heddlu yn ymwneud â sylwedd cyrydol.
A fyddech cystal ag anfon yr wybodaeth ganlynol ataf?
1) Nifer y troseddau trais yn erbyn y person yn ymwneud â sylwedd cyrydol a gofnodwyd ym mhob mis yn 2021, 2022 a 2023, ynghyd â mis Ionawr 2024, os ydyw ar gael.
2) Nifer y troseddau ysbeilio yn ymwneud â sylwedd cyrydol a gofnodwyd ym mhob mis yn 2021, 2022 a 2023, ynghyd â mis Ionawr 2024, os ydyw ar gael.
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Gallaf gadarnhau bod y gost o benderfynu a ydyw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r cais hwn yn cael ei chadw ai peidio yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, felly rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod adran 12(2) ‘Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol’, yn gymwys iddi.
Lle dibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi, y ceisydd, sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys. Mae’r esemptiad canlynol wedi’i gymhwyso i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 12(2) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(2) yn datgan: “Nid yw is-adran (1) yn esemptio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) o adran 1(1) oni bai y byddai’r gost amcangyfrifedig o gydymffurfio â’r paragraff hwnnw yn unig yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o benderfynu pa wybodaeth a gedwir, os o gwbl, sy’n berthnasol i’ch cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo; h.y. mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn fwy na’r ‘lefel briodol’ fel y nodir yn Rheoliadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth (Ffioedd a Therfyn Priodol) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd yn hwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 10,335 awr) i gydymffurfio â’ch cais. Gellir gweld y rheoliadau yn
https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae’r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw’r wybodaeth sy’n ymwneud â chwestiwn 1 eich cais yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw. Mae hyn oherwydd y ffaith, gyda’n system cofnodi troseddau bresennol, y byddai’n rhaid i ni adolygu â llaw pob trosedd trais yn erbyn y person i ganfod a oedd yn cynnwys sylwedd cyrydol. Yn yr un modd, mewn perthynas â chwestiwn 2 eich cais, nid yw’n cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw. Mae hyn oherwydd y ffaith, gyda’n system cofnodi troseddau bresennol, y byddai’n rhaid i ni adolygu â llaw pob trosedd ysbeilio i ganfod a oedd yn cynnwys sylwedd cyrydol.
Felly, er mwyn canfod a oes unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i’ch cais, byddai angen archwilio’n unigol pob cofnod o drosedd trais yn erbyn y person, a phob trosedd ysbeilio, a grëwyd yn ystod yr amserlen a bennir.
Cwestiwn 1
Canfuwyd bod cyfanswm o 61,800 o droseddau trais yn erbyn y person wedi’u cofnodi y byddai angen eu harchwilio’n unigol, ac amcangyfrifwyd y byddai’n cymryd 10 munud ar gyfartaledd i ymchwilio i bob cofnod unigol. Manylir ar yr amcangyfrif amser perthnasol isod:
2021 – 20,165 o gofnodion x 10 munud = 3,360.8 awr
2022 – 22,253 o gofnodion x 10 munud = 3,708.8 awr
2023 – 18,009 o gofnodion x 10 munud = 3,001.5 awr
Ionawr 2024 – 1,373 o gofnodion x 10 munud = 228.8 awr
Cyfanswm yr oriau = 10,299.9 awr
Cwestiwn 2
Canfuwyd bod cyfanswm o 212 o droseddau ysbeilio wedi’u cofnodi y byddai angen eu harchwilio’n unigol, ac amcangyfrifwyd y byddai’n cymryd 10 munud ar gyfartaledd i ymchwilio i bob cofnod unigol. Manylir ar yr amcangyfrif amser perthnasol isod:
2021 – 47 o gofnodion x 10 munud = 7.8 awr
2022 – 83 o gofnodion x 10 munud = 13.8 awr
2023 – 72 o gofnodion x 10 munud = 12 awr
Ionawr 2024 – 10 cofnod x 10 munud = 1.6 awr
Cyfanswm yr oriau = 35.2 awr
Amser a amcangyfrifir ar gyfer y cais cyfan = 10,335.1 awr
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn o dan Adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad y mae adran 12 neu adran 14 yn gymwys iddo, roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1). Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr. Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â mi.
Sylwer hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nad yw’n dileu hawl yr heddlu i ddyfynnu esemptiadau os ydynt yn berthnasol.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol i heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd, a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu’r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 7 Mawrth 2024)