Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 770/2023
Cais:
Cwestiwn i geisio eglurhad:
Rydych yn sôn am HDC, a ddeallwyd gennym fel ‘Heddlu De Cymru’. A ydych yn dymuno i Heddlu Dyfed-Powys ymateb i’r cais hwn?
Os felly, a wnewch chi gadarnhau a ydych yn cyfeirio at ddigwyddiadau neu droseddau? Sylwch fod digwyddiad yn wahanol i drosedd. Digwyddiad yw cofnod o gyswllt a wnaed â’r heddlu gan unigolyn / aelod o’r cyhoedd (fel arfer trwy alwad 999 neu 101), a throsedd yw pan fo’r trothwy wedi’i gyrraedd er mwyn i’r heddlu dybio bod trosedd wedi digwydd, fel y’i diffinnir gan y gyfraith.
Ateb i egluro:
Gallaf egluro fy mod yn ceisio’r wybodaeth mewn perthynas â Heddlu Dyfed-Powys yn benodol yn yr achos hwn.
Sylwaf eich bod yn ceisio eglurhad ynghylch digwyddiadau neu droseddau. Rwyf wedi nodi yn fy nghais fy mod yn ceisio pob adroddiad (pob digwyddiad a adroddwyd o ran rhai o’r cwestiynau). Rwyf hefyd wedi gofyn sawl un o’r rhain a gofnodwyd yn ffurfiol fel troseddau.
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau yn gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Lle dibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi, y ceisydd, sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys.
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod. Fodd bynnag, rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod adran 12(1) ‘Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol’ yn gymwys iddi.
Adran 12(1) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(1) yn datgan: “Nid yw adran 1(1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â chais am wybodaeth os ydyw’r awdurdod yn amcangyfrif y byddai’r gost o gydymffurfio â’r cais yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o ddarparu’r wybodaeth y gofynnir amdani mewn perthynas â’ch cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, h.y. mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn uwch na’r ‘lefel briodol’ fel y nodir yn Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfyn a Ffioedd Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd yn hwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 981 awr) i gydymffurfio â’r rhan hon o’ch cais. Gellir dod o hyd i’r rheoliadau yn https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244.
Mae’r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw’r wybodaeth mewn perthynas â chwestiynau 1 a 3 eich cais yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw. Yng ngoleuni hyn ac er mwyn cael yr wybodaeth sy’n berthnasol i’ch cais o fewn yr amserlen a nodwyd yn gywir, byddai angen i Heddlu Dyfed-Powys gyrchu pob adroddiad sy’n ymwneud ag achosion o droseddau rhywiol a’u hadolygu â llaw i ganfod a ddigwyddon nhw mewn ysbyty.
Canfuwyd bod cyfanswm o 5,887 o gofnodion yn cwmpasu cyfnod eich cais. Canfuwyd hefyd y byddai’n cymryd o leiaf 10 munud i adolygu a chael yr wybodaeth ar gyfer un cofnod mewn perthynas â’ch cais (fel yr amlinellwyd uchod). Mae’r broses a amlinellir yn arwain at yr amcangyfrif amser isod.
1 Ionawr 2019 – 31 Awst 2023 = 5,887 adroddiad x 10 munud = 981 awr
Amcangyfrif amser i gwblhau’r dasg = 981 awr
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn o dan adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn gymwys, roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1).
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr. Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth. Sylwer hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nid yw’n dileu hawl yr awdurdodau cyhoeddus i ddyfynnu esemptiadau os ydynt yn berthnasol.
Er bod costau ychwanegol yn dileu rhwymedigaethau’r heddlu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach, fel arwydd o ewyllys da, rwyf wedi darparu gwybodaeth mewn perthynas â chwestiynau 2, 4, 5, 6, 7, 8 a 9 o’ch cais, y bu’n hawdd ei hadalw, a'i hamlinellu isod. Hyderaf fod hyn yn ddefnyddiol, ond nid yw’n effeithio ar ein hawl gyfreithiol i ddibynnu ar y rheoliadau ffioedd ar gyfer gweddill eich cais.
|
Cwestiynau 2 a 4 |
|
|
Treisio |
10 |
|
Ymosodiad rhywiol |
53 |
|
Cyfanswm terfynol |
63 |
|
Cwestiwn 5 – Wedi digwydd ar ward |
|||
|
Do |
Naddo |
Cyfanswm terfynol |
|
|
Treisio |
1 |
9 |
10 |
|
Ymosodiad rhywiol |
12 |
41 |
53 |
|
Cyfanswm terfynol |
13 |
50 |
63 |
|
Cwestiwn 6 – Cyhuddiad / Gwŷs |
|
|
Gwŷs 1c |
|
|
Treisio |
0 |
|
Ymosodiad rhywiol |
3 |
|
Cyfanswm terfynol |
3 |
|
Cwestiwn 7 – Rhyw dioddefwr |
|||
|
Benyw |
Gwryw |
Cyfanswm terfynol |
|
|
Treisio |
4 |
6 |
10 |
|
Ymosodiad rhywiol |
45 |
8 |
53 |
|
Cyfanswm terfynol |
49 |
14 |
63 |
|
Cwestiwn 8 – Rhyw y drwgdybiedig / troseddwr |
||||
|
Benyw |
Gwryw |
Anhysbys |
Cyfanswm terfynol |
|
|
Treisio |
5 |
5 |
10 |
|
|
Ymosodiad rhywiol |
8 |
32 |
13 |
53 |
|
Cyfanswm terfynol |
8 |
37 |
18 |
63 |
Cwestiwn 9 – Rhywedd y mae’r unigolyn yn uniaethu ag ef.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol i heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd, a phennir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith yw’r gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu’r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall y gallech ei gael.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 28 Mawrth 2024)