Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 863/2024
Cais:
Ers 1 Ebrill 2011, faint o laddiadau heb gorff (h.y. ar yr amser y gwnaethoch ddatgan mai lladdiad ydoedd, nad oedd corff y dioddefydd wedi ei ganfod) mae eich heddlu wedi eu cofnodi?
Ar gyfer pob lladdiad, nodwch
(1) y flwyddyn ariannol y cofnodwyd y lladdiad,
(2) beth oedd y canlyniad i’r unigolyn/unigolion dan amheuaeth neu os nad oes unrhyw un dan amheuaeth wedi ei gyhuddo,
(3) y flwyddyn ariannol y cafwyd canlyniad unrhyw unigolyn/unigolion dan amheuaeth, ac
(4) a gafodd corff ei ganfod yn dilyn hynny, ac ym mha flwyddyn ariannol y digwyddodd hynny.
Ymateb:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed Powys yn dal y wybodaeth a geisiwyd, fel yr amlinellir isod.
|
Llofruddiaethau heb gorff |
Y flwyddyn ariannol y cofnodwyd y lladdiad |
Canlyniad yr unigolyn dan amheuaeth |
Y flwyddyn ariannol y cafwyd canlyniad yr unigolyn dan amheuaeth |
Canfod corff yn ddiweddarach
|
|
1 |
2011-12 |
Cyhuddwyd |
Anhysbys |
Na |
|
1 |
2019-20 |
Cyhuddwyd |
2019-20 |
Na |
Dylid nodi, oherwydd y systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi materion o'r fath, y gallai'r wybodaeth a ddarperir fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol fel mater o drefn i Heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau troseddu i gyrff llywodraethol a bod y meini prawf cofnodi wedi'u pennu'n genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw'r systemau a ddefnyddir i gofnodi'r ffigurau hyn yn rhai generig, ac nid yw'r gweithdrefnau'n cael eu defnyddio'n lleol i gipio'r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr Heddlu hwn i'ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall y gallech ei dderbyn.
(Dyma ymateb o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a ddatgelwyd ar 24/09/2024)