Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod rhyddid gwybodaeth: 896/2024
Cais:
A wnewch chi amlinellu’r amserlenni cadw ar gyfer ffeiliau personél cyn weithwyr (staff yr heddlu) os gwelwch chi’n dda?
A fyddai’r polisi cadw hwn yn wahanol ar gyfer aelod staff sydd wedi ymddiswyddo o gymharu ag aelod staff a gafodd ei ddiswyddo?
Ymateb:
Mae Adran 1 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod eithriadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf dan Adran 1(1) (a) yw cadarnhau neu wadu a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei dal. Yr ail ddyletswydd dan Adran 1(1) (b) yw datgelu’r wybodaeth sydd wedi’i chadarnhau fel gwybodaeth sy’n cael ei dal.
Lle y dibynnir ar eithriadau, yn ôl adran 17 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’n ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (oherwydd bod y wybodaeth yn eithriedig) i roi hysbysiad i’r ceisydd sy’n:
(a) nodi’r ffaith hwnnw,
(b) nodi’r eithriad dan sylw ac
(c) Yn nodi (pe na fyddai’n amlwg fel arall) pam fod yr eithriad yn gymwys.
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fodd bynnag, mae’r eithriad canlynol wedi’i weithredu i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 21 – Gwybodaeth sy’n weddol hygyrch drwy ddulliau eraill:
"(1) Mae gwybodaeth sy’n weddol hygyrch i’r ceisydd heblaw o dan adran 1 yn wybodaeth eithriedig.
(2) Ar gyfer dibenion is-adran (1)-
(a) gall gwybodaeth fod yn weddol hygyrch i’r ceisydd hyd yn oed os ydyw ond yn hygyrch ar ôl talu tâl, ac
(b) ystyrir bod gwybodaeth yn weddol hygyrch i’r ceisydd os yw’n wybodaeth y mae dyletswydd ar yr awdurdod cyhoeddus neu unrhyw unigolyn arall i’w chyfathrebu gan neu o dan unrhyw ddeddfiad (heblaw drwy ryddhau’r wybodaeth i’w harchwilio) wrth aelodau o’r cyhoedd ar gais, am ddim neu ar ôl talu tâl.
(3) Ar gyfer dibenion is-adran (1), ni ddylid ystyried bod gwybodaeth sy’n cael ei dal gan awdurdod cyhoeddus ac sydd ddim yn syrthio o fewn is-adran (2)(b) yn weddol hygyrch i’r ceisydd dim ond oherwydd bod y wybodaeth ar gael gan yr awdurdod cyhoeddus ei hun ar gais, heblaw bod y wybodaeth yn cael ei rhyddhau yn unol â chynllun cyhoeddi’r awdurdod ac mae unrhyw dâl gofynnol yn cael ei nodi, neu i bennu, yn unol â’r cynllun.”
Gellir cael mynediad i’r wybodaeth y gofynnwyd amdani drwy’r hyperddolen ganlynol, o dan yr adran â’r teitl Pobl (Tudalen 42). Mae’r cyfnod cadw ar gyfer cofnodion personél ar dudalen 46 –
Amserlen Adolygu, Cadw a Gwaredu 2020 Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu 2020 f4 (merseyside.police.uk)
(Dyma ymateb o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a ddatgelwyd ar 26/09/2024)