Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 487/2024
Cais:
1 (a) Am 12 mis hyd at ddiwedd Ebrill 2024, a wnewch chi amlinellu amser ymateb cyfartalog uned arfau saethu / uned cefnogaeth arfog eich heddlu, lle mae galwad brys yn gofyn am ymateb gan heddlu arfog?
– Dadansoddwch y data / amseriadau hyn yn ôl pob ardal cod post y mae eich heddlu yn ei gwasanaethu, e.e. SW1, L27, EH11 ...
(b) Yn ogystal â hyn, a wnewch chi ddarparu’r wybodaeth hon ar gyfer 2019-2020, 2020-2021, 2021-2022 a 2022-2023?
(c) Beth yw amseroedd targed eich heddlu ar gyfer ymateb gan heddlu arfog i leoliadau’r codau post hyn?
2 (a) Yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2024, sawl digwyddiad a gafwyd lle’r oedd angen ymateb gan heddlu arfog o’ch heddlu chi?
(b) Yn ogystal â hyn, a wnewch chi ddarparu’r wybodaeth hon ar gyfer 2019-2020, 2020-2021, 2021-2022 a 2022-2023?
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau yn gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Lle dibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi, y ceisydd, sydd:
(a) yn datgan y ffaith honno,
(b) yn pennu’r esemptiad dan sylw, ac
(c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys.
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani. Fodd bynnag, rydym yn atal rhywfaint o’r wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod adran 12(1) ‘Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol’, yn gymwys iddi.
Adran 12(1) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(1) yn datgan: “Nid yw adran 1(1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â chais am wybodaeth os ydyw’r awdurdod yn amcangyfrif y byddai’r gost o gydymffurfio â’r cais yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o benderfynu pa wybodaeth a gedwir, os o gwbl, sy’n berthnasol i’ch cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo; h.y. mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn fwy na’r ‘lefel briodol’ fel y nodir yn Rheoliadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth (Ffioedd a Therfyn Priodol) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd yn hwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 27,409 awr) i gydymffurfio â’ch cais.
Gellir dod o hyd i’r rheoliadau yn https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae’r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw’r wybodaeth sy’n ymwneud â’ch cais yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw.
Cwestiynau 1a, 1b, 2a a 2b:
Er mwyn canfod yr wybodaeth y gofynnwyd amdani, byddai angen archwilio’n unigol pob cofnod o ddigwyddiad lle gallai’r uned arfau saethu fod wedi cael ei defnyddio. Byddai hyn yn cynnwys categorïau galwadau amrywiol, gan y gallai’r uned arfau saethu gael ei defnyddio ar gyfer nifer o fathau o alwadau. Canfuwyd bod cyfanswm o 164,456 o ddigwyddiadau y byddai angen eu harchwilio’n unigol, ac amcangyfrifwyd y byddai’n cymryd o leiaf 10 munud i adolygu pob cofnod unigol. Ceir dadansoddiad o’r amcangyfrif amser isod:
a) –
Mai 2023 – Ebrill 2024: 35,029 o ddigwyddiadau x 10 munud fesul digwyddiad = 5,839 awr
b) –
Mai 2022 – Ebrill 2023: 34,495 o ddigwyddiadau x 10 munud fesul digwyddiad = 5,749 awr
Mai 2021 – Ebrill 2022: 34,418 o ddigwyddiadau x 10 munud fesul digwyddiad = 5,736 awr
Mai 2020 – Ebrill 2021: 30,729 o ddigwyddiadau x 10 munud fesul digwyddiad = 5,121 awr
Mai 2019 – Ebrill 2020: 29,785 o ddigwyddiadau x 10 munud fesul digwyddiad = 4,964 awr
Cyfanswm yr amser i gwblhau’r dasg = 27,409 awr
Cwestiwn 1c:
Mae’r adran berthnasol wedi cynghori y gellir darparu ymateb o fewn y terfyn amser priodol, h.y. 18 awr.
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn o dan Adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad y mae adran 12 neu adran 14 yn gymwys iddo, roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1).
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr. Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth.
Sylwer hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nad yw’n dileu hawl yr heddlu i ddyfynnu esemptiadau os ydynt yn berthnasol.
___________________________________
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 24 Mehefin 2024)