Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 550/2024
Cais:
(a) Sawl un a arweiniodd at weithredu llwyddiannus gan yr heddlu
(b) Sawl un yr ymchwiliwyd iddo lle bu’r heddlu yn aflwyddiannus yn eu hymdrechion i ddatrys yr achos
(c) Sawl un nad ymchwiliwyd iddo o gwbl (ac os yw’n bosibl, a allwch eu didoli i ddigwyddiadau a gaewyd oherwydd diffyg tystiolaeth i gychwyn ymchwiliad iddynt, a digwyddiadau yr ymchwiliwyd iddynt ond a newidiwyd i ‘fater sifil’?)
(d) A fyddech cystal ag esbonio sut mae Heddlu Dyfed-Powys yn cofnodi, ac yna’n archwilio, achosion sy’n cael eu newid i achosion nad ydynt yn drosedd (er enghraifft, pan fydd y swyddog yn dweud ei fod yn ‘fater sifil’) pan nad oes cod ar gyfer mater sifil neu debyg o fewn rheolau cyfrif y Swyddfa Gartref?
Ymateb i gwestiwn 1
187
Ymateb i gwestiwn 2
105
Ymateb i gwestiwn 3a
27
(*Mae 30 o ymchwiliadau yn parhau i fynd rhagddynt felly mae’r ffigur uchod yn debygol o newid)
Ymateb i gwestiwn 3b
71
(*Mae 30 o ymchwiliadau yn parhau i fynd rhagddynt felly mae’r ffigur uchod yn debygol o newid)
Ymateb i gwestiwn 3c
Byddent i gyd yn cael eu hymchwilio i ryw raddau ond gallai hynny fod yn ddibynnol ar nifer o ffactorau. Caewyd 25 o ymchwiliadau oherwydd anawsterau tystiolaethol; ond gellid dod â’r rhain i’w terfyn ar unrhyw adeg o’r ymchwiliad. Nid ydym yn cofnodi deilliant mewn perthynas â materion sifil.
Ymateb i gwestiwn 3d
Mewn perthynas â chwestiwn 3d ar gyfer y cais rhyddid gwybodaeth sydd wedi’i rifo uchod, dyma fy niweddariad:
“Yn unol â rheolau cyfrif y Swyddfa Gartref, mae troseddau hysbysadwy yn cael eu cofnodi cyn gynted ag y mae’n ymarferol ar sail yr wybodaeth a ddarparwyd ar adeg yr adroddiad. Os daw i’r amlwg yn ystod ymchwiliad ‘nad ydyw’n drosedd’, e.e. mater sifil (nad yw’n drosedd hysbysadwy yn unol â rheolau cyfrif y Swyddfa Gartref) a bod digon o wybodaeth wiriadwy ychwanegol i gadarnhau hyn, gall y swyddog sy’n cynnal yr ymchwiliad gyflwyno cais i’w ganslo. Mae hon yn broses a gwblheir trwy Niche gan swyddog yr achos, sy’n darparu’r wybodaeth wiriadwy ychwanegol lawn sy’n dangos nad trosedd mohoni, ac sy’n ei chyflwyno i’r lle cywir i’w hadolygu a’i chanslo. Dim ond penderfynwyr dynodedig o fewn y Tîm Archwilio Troseddau a all ganslo.”
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 17 Mehefin 2024)