Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 363/2024
Cais:
Ar 1 Ionawr cynhaliwyd digwyddiad yn ardal Neuadd y Dref a Heol Awst, ynghanol tref Caerfyrddin. Cynhaliwyd y digwyddiad gan Helfa Sir Gaerfyrddin. Roedd yr heddlu yn bresennol yn ystod y digwyddiad.
A fyddech cystal â darparu’r wybodaeth ganlynol?
Ymatebion 1 a 2
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, ond mae esemptiad o dan adran 31(1)(a)(b) ‘Gorfodi’r gyfraith’, wedi’i gymhwyso i’r wybodaeth y gofynnwyd amdani gan felly ei hesemptio rhag cael ei rhyddhau.
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau yn gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Lle dibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i ni roi hysbysiad i’r ceisydd, sydd:
(a) yn datgan y ffaith honno,
(b) yn pennu’r esemptiad o dan sylw, ac
(c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam bod yr esemptiad yn gymwys.
Adran 31(1)(a) a (b) – Gorfodi’r gyfraith
(1) Mae gwybodaeth nad yw’n wybodaeth esempt yn rhinwedd adran 30 yn wybodaeth esempt os byddai ei datgelu o dan y Ddeddf hon yn niweidio, neu’n debygol o niweidio—
(a) y weithred o atal neu ganfod trosedd
(b) y weithred o ddal neu erlyn troseddwyr
Mae adran 31 yn esemptiad amodol ar sail niwed ac felly mae gofyniad i ddarparu manylion y niwed yn ogystal â phrawf budd y cyhoedd.
Niwed wrth ddatgelu
Ni fyddai gwybodaeth yn ymwneud â phresenoldeb swyddogion Heddlu Dyfed-Powys mewn digwyddiad yn cael ei datgelu pe bai gwneud hynny yn rhagfarnu plismona ar draws y siroedd, a gallai gael effaith negyddol ar adnoddau.
Ystyrir bod datgelu gwybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn golygu rhyddhau gwybodaeth i’r byd, oherwydd unwaith y caiff gwybodaeth ei rhyddhau, er nad yw’n cwestiynu cymhellion y ceisydd dros ofyn am y wybodaeth hon, gallai fod o ddiddordeb i bobl sy’n ymwneud â gweithgaredd troseddol.
Ystyrir y bydd darparu niferoedd swyddogion yn galluogi pobl i ddod i gasgliadau ynghylch y lefel ganfyddedig o swyddogion heddlu y mae eu hangen ar unrhyw adeg benodol. Gallai hyn yn ei dro ddangos i’r frawdoliaeth droseddol yr achlysuron pan fydd yr heddlu ar ei fwyaf bregus, yn seiliedig ar ffigurau lleoli swyddogion mewn lifrai yn unig, gan ganiatáu i droseddwyr gyfrifo pryd mae’n bosibl mai dyma’r amser gorau i gyflawni trosedd er mwyn osgoi eu canfod.
Byddai hyn yn tanseilio galluoedd Heddlu Dyfed-Powys i orfodi’r gyfraith, ac felly cadarnheir bod adran 31 yn berthnasol.
Prawf budd y cyhoedd
Ystyriaethau o blaid datgelu:
Mae niferoedd swyddogion yr heddlu yn amrywio yn dibynnu ar shifft, amser a galw gweithredol ar y pryd.
Mae gwybodaeth sy’n ymwneud yn uniongyrchol ag effeithiolrwydd gweithredol ac effeithlonrwydd yr heddlu yn ffactor cadarnhaol o blaid datgelu.
Mae gan y cyhoedd hawl i wybod eu bod yn cael eu hamddiffyn mewn modd priodol a diwyd.
Bydd gwybodaeth y cyhoedd am Heddlu Dyfed-Powys yn sicrhau trafodaeth gyhoeddus wybodus, gan gadw agwedd agored a gonest yr heddlu.
Ystyriaethau o blaid peidio â datgelu:
Bydd datgelu gwybodaeth a all effeithio ar allu Heddlu Dyfed-Powys i orfodi’r gyfraith yn awr ac yn y dyfodol bob amser o blaid peidio â datgelu. Ar yr achlysur hwn, bydd darparu nifer y swyddogion heddlu sydd ar ddyletswydd ar unrhyw un adeg mewn lleoliad penodol yn caniatáu i gymariaethau gael eu gwneud pe gofynnir am ddata ychwanegol. Bydd hyn yn ei dro yn caniatáu ar gyfer penderfyniad ynghylch cryfder swyddogion rheng flaen yr heddlu, gan roi gwybodaeth uwch i droseddwyr o’n galluoedd.
Er y gellir dadlau bod y data y gofynnwyd amdanynt yn ffigur hanesyddol, bydd digwyddiadau a hysbysebir yn union yr un fath yn y dyfodol lle bydd angen presenoldeb yr heddlu yn galluogi unigolion i bennu niferoedd tybiedig swyddogion yn seiliedig ar ddadansoddiad o setiau data a ddatgelwyd gan wasanaeth yr heddlu.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn heddlu cymharol fach a gallai darparu data sy’n nodi cryfder swyddogion heddlu rheng flaen mewn lifrai a ddefnyddir mewn digwyddiad penodol arwain at unigolion yn nodi pryd mae’r heddlu ar ei fwyaf agored i niwed. Felly, ni fyddai data hanesyddol yn cael eu datgelu pe bai gwneud hynny’n caniatáu ar gyfer dod i gasgliadau o’r fath.
Prawf cydbwysedd
Mae gwybodaeth y cyhoedd am sut mae arian yr heddlu yn cael ei wario, a sicrwydd bod gwasanaeth yr heddlu yn gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod diogelwch y cyhoedd yn cael ei gynnal, bob amser yn ffactor cadarnhaol wrth ddatgelu.
Ar ôl pwyso a mesur, mae datgelu o’r math hwn yn fwy tebygol o gael effaith negyddol gan achosi i’r frawdoliaeth droseddol feddu ar wybodaeth flaenorol o alluoedd gweithredol yr heddlu, gan beryglu’r gwaith o atal a chanfod trosedd a gweinyddu cyfiawnder.
Mae gan wasanaeth yr heddlu ddyletswydd i sicrhau nad yw diogelwch y cyhoedd byth yn cael ei beryglu, a dylai datgeliadau o dan y Ddeddf bob amser sicrhau bod hyn yn cael ei gynnal.
Felly, yn holl amgylchiadau’r achos, mae budd y cyhoedd o gadw’r esemptiad yn drech na budd y cyhoedd o ddatgelu’r wybodaeth.
Ymatebion 3 a 4
Gallaf gadarnhau nad oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw gan y byddai hyn yn rhan o ddyletswyddau arferol swyddogion yr heddlu.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 10 Mai 2024)