Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 482/2024
Cais:
[Faint o bobl a arestiwyd/cyhuddwyd am anfon 'negeseuon maleisus' rhwng Ebrill 2022 ac Ebrill 2024]
A ellir rhannu’r rhain fesul blwyddyn
Cwestiynau eglurhaol:
Atebion eglurhaol:
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Ebrill 2022 – Mawrth 2023
Cyhuddwyd |
15 |
Rhybuddiwyd |
4 |
Ebrill 2023 – Ebrill 2024
Cyhuddwyd |
41 |
Rhybuddiwyd |
14 |
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed–Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Ebrill 2022 - Mawrth 2023
Cyhuddwyd |
0 |
Rhybuddiwyd |
2 |
Ebrill 2023 – Ebrill 2024
Cyhuddwyd |
31 |
Rhybuddiwyd |
12 |
Ymateb 3:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed–Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Geiriad y cyhuddiad |
Cyfanswm |
Gwneud defnydd cyson o rwydwaith cyfathrebu cyhoeddus i achosi anfodlonrwydd / anghyfleustra / pryder |
15 |
Anfon neges â chynnwys sarhaus / anweddus / anllad / bygythiol trwy rwydwaith cyfathrebu cyhoeddus |
52 |
Anfon cyfathrebiad / erthygl o natur anweddus / sarhaus |
22 |
Anfon neges ffug trwy rwydwaith cyfathrebu electronig cyhoeddus i achosi anfodlonrwydd, anghyfleustra neu bryder |
7 |
Anfon llythyr / cyfathrebiad / erthygl yn cyfleu neges fygythiol |
16 |
Anfon llythyr / cyfathrebiad / erthygl yn cyfleu neges anweddus / sarhaus |
7 |
Dylid nodi, o ganlyniad i'r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed–Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o'r fath, y gallai'r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol i heddluoedd y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd ac y gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw'r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi'r ffigurau hyn yn rhai generig, ac na chwaith yw’r gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu data troseddau. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylai ymateb yr heddlu hwn i'ch cwestiynau gael ei ddefnyddio at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall y gallech ei gael.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 4 Mehefin 2024)