Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 519/2024
Cais:
Lle mae nifer y dioddefwyr yn fwy na sero ond yn llai na phump, defnyddiwch * os oes angen, yn hytrach na gwrthod fy nghais ar sail diogelu gwybodaeth bersonol.
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
67
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Oedran |
Benyw |
Gwryw |
Heb ei gofnodi |
Anhysbys |
Cyfanswm |
11 ac iau |
5 |
1 |
0 |
1 |
7 |
12 i 15 |
18 |
3 |
0 |
1 |
22 |
16 oed a throsodd |
5 |
0 |
0 |
0 |
5 |
Heb ei gofnodi |
0 |
0 |
7 |
0 |
7 |
Cyfanswm |
28 |
4 |
7 |
2 |
41 |
Esemptiad adran 30 x26 |
|
|
|
Ymateb 3:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Benyw
10 oed
Nid yw’r uchod yn ystyried y 26 trosedd sy’n destun ymchwiliad ar hyn o bryd gan fod esemptiad adran 30 yn berthnasol i’r 26 trosedd hynny, felly maent wedi’u heithrio.
Ymateb 4:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
|
1 |
|
2 |
Ap LIKEE |
1 |
Snapchat |
5 |
|
1 |
WhatsApp a Kik |
1 |
Heb ei gofnodi |
30 |
Eithriad adran 30 |
26 |
Eglurhad o’r esemptiadau a gymhwyswyd:
Adran 30(1)(a) Ymchwiliadau a thrafodion a gynhelir gan awdurdodau cyhoeddus:
(1) Mae gwybodaeth a gedwir gan awdurdod cyhoeddus yn wybodaeth esempt os ydyw wedi cael ei chadw gan yr awdurdod ar unrhyw adeg at ddibenion—
(a) unrhyw ymchwiliad y mae gan yr awdurdod cyhoeddus ddyletswydd i’w gynnal er mwyn canfod (i) a ddylai unigolyn gael ei gyhuddo o drosedd, neu (ii) a ydyw unigolyn sydd wedi’i gyhuddo o drosedd yn euog ohoni.
Mae adran 30(1)(a) yn esemptiad amodol ar sail dosbarth. Mae hyn yn golygu bod y deddfwyr, wrth ysgrifennu’r ddeddfwriaeth, o’r farn y byddai rhyddhau gwybodaeth o’r fath o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn achosi niwed i’r awdurdod cyhoeddus neu’r unigolyn dan sylw. Nid oes felly unrhyw ofyniad i gynnal prawf niwed mewn perthynas â gwybodaeth o’r fath. Fodd bynnag, mae gofyniad i gynnal prawf budd y cyhoedd er mwyn canfod a allai budd y cyhoedd yn ehangach wrth ddatgelu fod yn drech na budd y cyhoedd o gynnal yr esemptiad.
Prawf budd y cyhoedd
Ystyriaethau o blaid datgelu:
Byddai datgelu’r wybodaeth yn gwella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth y cyhoedd ynglŷn ag amlder troseddau o’r fath.
Ystyriaethau o blaid peidio â datgelu:
Mae’r esemptiad hwn yn cynnwys gwybodaeth a gedwir ar unrhyw adeg at ddiben ymchwiliad, p’un a ydyw’r achos yn mynd rhagddo, wedi’i gau neu wedi’i adael. Gallai rhyddhau manylion ymchwiliad parhaus, fel yn yr achos hwn, danseilio a rhagfarnu’r ymchwiliadau hynny. Byddai hyn yn effeithio ar alluoedd heddluoedd i orfodi’r gyfraith yn y dyfodol drwy rwystro atal neu ganfod trosedd.
Prawf cydbwysedd
Ar ôl ystyried manteision ac anfanteision datgelu, cyfrifoldeb Heddlu Dyfed-Powys yw cynnal prawf cydbwysedd ar y materion. Mae angen pwyso a mesur y ddadl gryfaf dros ddatgelu, sef ymwybyddiaeth y cyhoedd, yn erbyn y dadleuon cryfaf dros beidio â datgelu, sef yn yr achos hwn y byddai rhyddhau’r wybodaeth yn tanseilio ac yn rhagfarnu ymchwiliad parhaus a fyddai’n effeithio ar alluoedd a phrosesau’r heddlu i orfodi’r gyfraith yn y dyfodol, trwy eu llesteirio rhag atal neu ganfod troseddau.
Felly, yn holl amgylchiadau’r achos, mae budd y cyhoedd o gadw’r esemptiad yn drech na budd y cyhoedd o ddatgelu’r wybodaeth.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol i heddluoedd y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd a phennir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw'r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi'r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith yw’r gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu data troseddau. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylai ymateb yr heddlu hwn i'ch cwestiynau gael ei ddefnyddio at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall y gallech ei gael.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 14 Mehefin 2024)