Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 515/2024
Cais:
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau nad yw Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani. Mae hyn oherwydd bod Heddlu Dyfed-Powys yn cynnig cyfres o gyrsiau’r Cynllun Cenedlaethol Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru ac felly ni fyddai’n benodol i’r cwrs ymwybyddiaeth cyflymder.
Ymateb 2:
Mae esemptiad adran 43(2) yn gymwys (gweler diwedd y ddogfen am esboniad o’r esemptiad a gymhwyswyd).
Ymateb 3:
Mae esemptiad adran 21 yn gymwys (gweler diwedd y ddogfen am esboniad o’r esemptiad a gymhwyswyd).
Ymateb 4:
Gallaf gadarnhau nad yw Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani. Mae hyn oherwydd bod y cyrsiau wedi’u cynllunio gan UKROEd, y corff sy’n addysgu troseddwyr ar y ffyrdd yn y Deyrnas Unedig.
Fodd bynnag, mae UKROEd wedi darparu’r isod ers i’ch cais ddod i law:
Mae cynnwys a hyd y cwrs ymwybyddiaeth cyflymder cenedlaethol yn cael eu pennu gan UKROEd, y corff sy’n gweinyddu’r cynllun troseddwyr ar y ffyrdd.Mae UKROEd yn gweithio gyda thîm o seicolegwyr ymddygiad blaenllaw ac arbenigwyr ar ffactorau dynol i ddatblygu’r cyrsiau. Mae’r arbenigwyr hyn yn ymchwilio i ddarganfod pam mae pobl yn goryrru a beth y gellir ei wneud i’w helpu i yrru’n ddiogel o fewn y terfyn cyflymder. Mae’r tîm yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddatblygu cynnwys ac hyd y cyrsiau. Darganfu’r tîm fod angen o leiaf dair awr i fynd i’r afael â’r amrywiaeth o resymau y mae pobl yn goryrru, ac i helpu pobl i ddatblygu cynllun i yrru’n ddiogel, yn gyfreithlon ac yn ystyriol yn y dyfodol.
Eglurhad o’r esemptiad a gymhwyswyd:
Adran 43(2) – Buddiannau masnachol
“(2) Mae gwybodaeth yn wybodaeth esempt os byddai ei datgelu o dan y Ddeddf hon yn niweidio buddiannau masnachol unrhyw unigolyn (gan gynnwys yr awdurdod cyhoeddus sy’n ei chadw), neu’n debygol o wneud hynny.”
Mae hwn yn esemptiad amodol sy’n seiliedig ar ddosbarth. Fel esemptiad sy’n seiliedig ar ddosbarth, mae deddfwyr eisoes wedi derbyn y niwed wrth ryddhau’r dosbarth hwn o wybodaeth. O ganlyniad, nid oes gofyniad i ddangos tystiolaeth o’r niwed wrth ddatgelu gwybodaeth o’r fath. Fodd bynnag, gan fod yr esemptiad yn esemptiad amodol, mae gofyniad i gymhwyso prawf budd y cyhoedd, fel y manylir isod.
Prawf budd y cyhoedd:
Ystyriaethau o blaid datgelu:
Mae gofyniad i roi gwell dealltwriaeth i’r cyhoedd o sut y caiff arian cyhoeddus ei wario. Un o egwyddorion sylfaenol y Ddeddf yw’r angen i fod yn agored ac yn dryloyw. Yn yr achos hwn, mae er budd y cyhoedd i gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys wedi negodi cyfradd gystadleuol ynghylch cost staffio’r cwrs.
Ystyriaethau o blaid peidio â datgelu:
Yn yr achos hwn, byddai rhyddhau manylion yn ymwneud â’r gost o dalu cyflwynwyr y cwrs yn debygol o niweidio buddiannau masnachol y cyflenwr presennol drwy effeithio’n andwyol ar ei sefyllfa fargeinio yn ystod trafodaethau contractiol a fyddai’n arwain at ddefnydd llai effeithiol o arian cyhoeddus. Byddai hyn nid yn unig yn niweidio buddiannau masnachol y cwmni/cyflenwr ond hefyd buddiannau masnachol Heddlu Dyfed-Powys, gan y gallai rhyddhau’r wybodaeth hon hefyd effeithio ar gystadleurwydd y contract a fyddai yn ei dro yn effeithio ar y berthynas sydd gan yr heddlu â’r cwmni/cyflenwr, a allai arwain at achos sifil gan drydydd parti. At hynny, nid yw’r wybodaeth hon ar gael i’r cyhoedd ac mae ar gael i’r rheiny sy’n gwneud cais llwyddiannus am y rôl drwy broses gaffael ffurfiol yn unig. Gallai hyn achosi niwed i enw da’r cynllun cenedlaethol ac i Heddlu Dyfed-Powys fel darparwr oherwydd gallai datgelu’r gost atal y gallu i negodi contract sydd o’r budd mwyaf.
Prawf cydbwysedd:
Wrth gydbwyso prawf budd y cyhoedd, mae’n rhaid i ni ystyried a ddylai’r wybodaeth gael ei rhyddhau i’r parth cyhoeddus. Mae angen pwyso a mesur manteision ac anfanteision datgelu yn erbyn ei gilydd. Yn yr achos hwn, defnyddir arian cyhoeddus, sydd felly o blaid datgelu, ac y mae angen ei bwyso a’i fesur yn erbyn y difrod a fyddai’n digwydd i unrhyw broses dendro bresennol, neu un yn y dyfodol, a buddiannau masnachol trydydd partïon.
Drwy ryddhau’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, mae’n bosibl y bydd buddiannau masnachol busnes ac unigolion yn cael eu peryglu, gan gynnwys rhai Heddlu Dyfed-Powys, ynghyd â’r berthynas sydd gan Heddlu Dyfed-Powys â’r cwmni/cyflenwr neu’r unigolion hynny. Felly, mae’r ffactor sydd o blaid peidio â datgelu, sef difrod sy’n digwydd i unrhyw broses dendro yn y dyfodol, a buddiannau masnachol trydydd partïon, yn drech na’r ffactor o blaid datgelu, sef gwell dealltwriaeth o sut y caiff arian cyhoeddus ei wario.
Fel y cyfryw, mae budd y cyhoedd o blaid peidio â datgelu’r wybodaeth ar hyn o bryd. Felly, yn holl amgylchiadau’r achos, mae budd y cyhoedd o gadw’r esemptiad yn drech na budd y cyhoedd o ddatgelu’r wybodaeth.
Adran 21 – Gwybodaeth sy’n hygyrch i’r ceisydd drwy ddulliau eraill:
(1) Mae gwybodaeth sy’n rhesymol hygyrch i’r ceisydd, ac eithrio o dan adran 1, yn wybodaeth esempt.
(2) At ddibenion is-adran (1)—
(a) gall gwybodaeth fod yn rhesymol hygyrch i’r ceisydd er mai dim ond am dâl y mae’n hygyrch, a
(b) bernir bod gwybodaeth yn rhesymol hygyrch i’r ceisydd os ydyw’n wybodaeth y mae’n ofynnol i’r awdurdod cyhoeddus neu unrhyw unigolyn arall gan, neu o dan, unrhyw ddeddfiad i’w chyfleu (ac eithrio drwy drefnu bod yr wybodaeth ar gael i’w harchwilio) i aelodau o’r cyhoedd ar gais, boed am ddim neu am dâl.
(3) At ddibenion is-adran (1), nid yw gwybodaeth a gedwir gan awdurdod cyhoeddus ac nad yw’n dod o fewn is-adran (2)(b) i’w hystyried yn rhesymol hygyrch i’r ceisydd dim ond oherwydd bod yr wybodaeth ar gael oddi wrth yr awdurdod cyhoeddus ei hun ar gais, oni bai bod yr wybodaeth ar gael yn unol â chynllun cyhoeddi’r awdurdod a bod unrhyw daliad sy’n ofynnol yn cael ei bennu yn y cynllun, neu ei benderfynu yn unol ag ef.”
Gellir cyrchu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yng nghwestiwn 3 drwy’r hyperddolen a ganlyn –
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 12 Mehefin 2024)