Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 406/2024
Cais:
1. Faint o laddiadau a gofnodwyd gan eich heddlu yn 2013?
2. O’r lladdiadau a gofnodwyd gan eich heddlu yn 2013, faint o’r dioddefwyr a gafodd eu categoreiddio fel y canlynol?
3. O’r lladdiadau a gofnodwyd gan eich heddlu yn 2013, faint o’r dioddefwyr a gafodd eu categoreiddio fel y canlynol?
4. O’r lladdiadau a gofnodwyd gan eich heddlu yn 2013, faint a gofnododd y dull lladd fel y canlynol?
5. O’r lladdiadau a gofnodwyd gan eich heddlu yn 2013, faint a gafodd eu hethnigrwydd wedi’i gofnodi gan y swyddog fel a ganlyn?
6. O’r lladdiadau a gofnodwyd gan eich heddlu yn 2013, faint cafodd eu disgrifio fel y canlynol?
7. O’r lladdiadau a gofnodwyd gan eich heddlu yn 2013:
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
3
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Gwryw |
Benyw |
1 |
2 |
Ymateb 3:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
35-44 |
65 a throsodd |
2 |
1 |
Ymateb 4:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Cyllell / arf miniog |
Adran 38(1) yn gymwys (gweler isod am eglurhad) |
1 |
2 |
Ymateb 5:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Gwyn |
Adran 38(1) yn gymwys (gweler isod am eglurhad) |
2 |
1 |
Ymateb 6:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Adran 38(1) yn gymwys (gweler isod am eglurhad) |
3 |
Ymateb 7:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Cyhuddiad o lofruddiaeth – euogfarn |
Dim cyhuddiadau |
Adran 38(1) yn gymwys (gweler isod am eglurhad) |
1 |
1 |
1 |
Eglurhad o’r esemptiad a gymhwyswyd:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw. Lle dibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i ni roi hysbysiad i’r ceisydd, sydd:
(a) yn datgan y ffaith honno,
(b) yn pennu’r esemptiad(au) dan sylw, ac
(c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys.
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani. Fodd bynnag, rydym yn atal rhywfaint o’r wybodaeth gan ein bod yn ystyried bod yr esemptiadau canlynol yn gymwys iddi:
Adran 38(1)(a) Iechyd a diogelwch
Mae esemptiad adran 38 yn esemptiad amodol ar sail niwed. Mae gofyniad felly i gynnal prawf niwed mewn perthynas â gwybodaeth o’r fath, ac mae gofyniad i gynnal prawf budd y cyhoedd er mwyn canfod a allai budd y cyhoedd yn ehangach wrth ddatgelu fod yn drech na budd y cyhoedd o gynnal yr esemptiad.
(1) Mae gwybodaeth yn wybodaeth esempt os byddai ei datgelu o dan y Ddeddf hon yn, neu’n debygol o wneud y canlynol—
(a) Peryglu iechyd corfforol neu feddyliol unrhyw unigolyn,
Niwed
Gallai rhyddhau’r wybodaeth hon i’r parth cyhoeddus ar yr adeg hon, lle nad yw manylion i’r lefel honno wedi’u datgelu o’r blaen gan yr heddlu, achosi niwed corfforol neu feddyliol i iechyd unrhyw berthynas i’r ymadawedig, sydd wedi goroesi, ac i’r troseddwr/troseddwyr, gan y byddai cyhoeddi’r wybodaeth hon yn creu atgofion anodd a phoenus i aelodau’r teulu ar adeg pan mae’n bosibl iawn bod yr aelodau hynny o’r teulu yn y broses iachau, dros amser, o ran dod i delerau â’r hyn a ddigwyddodd i’w perthynas beth amser yn ôl.
Prawf budd y cyhoedd
Ystyriaethau o blaid datgelu – Byddai datgelu’r wybodaeth yn arwain at ymwybyddiaeth well gan y cyhoedd o sut mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliadau ac yn defnyddio arian cyhoeddus gan sicrhau tryloywder yng ngweithgareddau’r awdurdod cyhoeddus, yn enwedig mewn achosion proffil uchel megis lladdiadau lle mae rhywfaint o wybodaeth eisoes yn y parth cyhoeddus.
Ystyriaethau o blaid peidio â datgelu – Byddai datgelu’r wybodaeth yn achosi gofid sylweddol i’r teulu. Gallai rhyddhau’r wybodaeth hefyd beryglu llesiant corfforol a meddyliol aelodau o’r teulu sydd ddim ond nawr yn dod i delerau â digwyddiadau’r gorffennol mewn perthynas â materion o’r fath. Byddai datgelu’r wybodaeth felly yn arwain at golli hyder yn yr awdurdod cyhoeddus i ddiogelu llesiant y teulu a’r gymuned leol.
Prawf cydbwysedd:
Mae datgeliad o dan y Ddeddf yn ddatgeliad i’r byd, nid dim ond i’r unigolyn sy’n gwneud y cais. Mae canfod, ymchwilio ac erlyn troseddau yn gywir yn gonglfeini cymdeithas ddemocrataidd fodern. Ni fydd gwasanaeth yr heddlu byth yn datgelu gwybodaeth os bydd yn llesteirio’r cyfrifoldeb craidd hwnnw neu’n effeithio ar iechyd a diogelwch neu lesiant unigolion neu grwpiau o bobl. Er y dylai’r ffordd y mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliadau, yn enwedig ymchwiliadau llofruddiaeth proffil uchel, fod yn dryloyw ac yn cael ei rhannu â’r cyhoedd, mae ganddynt fwy o ddyletswydd i amddiffyn y cyhoedd rhag niwed neu ofid. Felly, yn yr achos hwn, mae’r cydbwysedd o blaid peidio â datgelu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 4 Ebrill 2024)