Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 405/2024
Cais:
1. Faint o laddiadau a gofnodwyd gan eich heddlu yn 2023?
2. O’r lladdiadau a gofnodwyd gan eich heddlu yn 2023, faint o’r dioddefwyr a gafodd eu categoreiddio fel y canlynol?
3. O’r lladdiadau a gofnodwyd gan eich heddlu yn 2023, faint o’r dioddefwyr a gafodd eu categoreiddio fel y canlynol?
4. O’r lladdiadau a gofnodwyd gan eich heddlu yn 2023, faint a gofnododd y dull lladd fel y canlynol?
5. O’r lladdiadau a gofnodwyd gan eich heddlu yn 2023, faint a gafodd eu hethnigrwydd wedi’i gofnodi gan y swyddog fel a ganlyn?
6. O’r lladdiadau a gofnodwyd gan eich heddlu yn 2023, faint cafodd eu disgrifio fel y canlynol?
7. O’r lladdiadau a gofnodwyd gan eich heddlu yn 2023:
Ymateb:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani; fodd bynnag, rydym yn esemptio rhan o’r wybodaeth honno gan ein bod o’r farn bod yr esemptiadau canlynol yn gymwys:
Adran 30(1)(a) Ymchwiliadau ac achosion a gynhelir gan awdurdodau cyhoeddus
Mae adran 30(1)(a) yn esemptiad amodol ar sail dosbarth. Mae hyn yn golygu bod y deddfwyr, wrth ysgrifennu’r ddeddfwriaeth, o’r farn y byddai rhyddhau gwybodaeth o’r fath o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn achosi niwed i’r awdurdod cyhoeddus neu’r unigolyn dan sylw. Nid oes felly unrhyw ofyniad i gynnal prawf niwed mewn perthynas â gwybodaeth o’r fath. Fodd bynnag, mae gofyniad i gynnal prawf budd y cyhoedd er mwyn canfod a allai budd y cyhoedd yn ehangach wrth ddatgelu fod yn drech na budd y cyhoedd o gynnal yr esemptiad.
Adran 30(1)(a) Ymchwiliadau ac achosion a gynhelir gan awdurdodau cyhoeddus:
(1) Mae gwybodaeth a ddelir gan awdurdod cyhoeddus yn wybodaeth esempt os ydyw wedi cael ei chadw ar unrhyw adeg gan yr awdurdod at ddibenion—
(a) Unrhyw ymchwiliad y mae gan yr awdurdod cyhoeddus ddyletswydd i’w gynnal er mwyn canfod (i) a ddylai person gael ei gyhuddo o drosedd, neu (ii) a ydyw person sydd wedi’i gyhuddo o drosedd yn euog ohoni.
Prawf budd y cyhoedd
Ystyriaethau o blaid datgelu – Byddai datgelu’r wybodaeth yn gwella gwybodaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o’r broses ymchwilio, a chan fod holl ymchwiliadau’r heddlu’n cael eu hariannu’n gyhoeddus, byddai’n dangos sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario. Mae ymchwiliadau i lofruddiaethau/lladdiadau yn hynod emosiynol ac yn denu llawer o ddiddordeb yn y cyfryngau, felly byddai datgelu’r wybodaeth yn dangos i’r cyhoedd bod yr ymchwiliad wedi’i gynnal yn briodol.
Ystyriaethau o blaid peidio â datgelu – Mae’r esemptiad hwn yn cynnwys gwybodaeth a ddelir ar unrhyw adeg at ddiben ymchwiliad, p’un a ydyw’r achos yn mynd rhagddo, wedi’i gau neu wedi’i adael. Yn ogystal â hyn, mae gweithdrefnau sefydledig eisoes ar waith ar gyfer datgelu pryd y byddai gwneud hynny o gymorth i ymchwiliad, er enghraifft, apêl am dystion drwy sianeli cyfryngau. Byddai datgelu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yn niweidio’r modd y cynhelir ymchwiliadau yn y dyfodol, a fyddai yn ei dro yn tanseilio hawl unigolyn i dreial teg. Byddai hyn yn rhwystro atal a chanfod troseddau a fyddai’n effeithio ar alluoedd heddluoedd i orfodi’r gyfraith yn y dyfodol.
Prawf cydbwysedd
Ar ôl ystyried manteision ac anfanteision datgelu, cyfrifoldeb Heddlu Dyfed-Powys yw cynnal prawf cydbwysedd ar y materion. Mae angen pwyso a mesur y ddadl gryfaf dros ddatgelu, sef ymwybyddiaeth y cyhoedd, yn erbyn y dadleuon cryfaf dros beidio â datgelu sef, yn yr achos hwn, y byddai’r datganiad yn tanseilio ac yn niweidio ymchwiliadau parhaus, a fyddai’n effeithio ar alluoedd yr heddluoedd i orfodi’r gyfraith yn y dyfodol drwy rwystro atal neu ganfod trosedd.
Felly, o fewn holl amgylchiadau’r achos, mae budd y cyhoedd o gadw’r esemptiad yn drech na budd y cyhoedd o ddatgelu’r wybodaeth.
Ymateb 1:
|
Lladdiadau yn 2023 |
|
4 |
Ymateb 2:
|
Gwryw |
Benyw |
Esemptiad adran 30 yn gymwys |
|
2 |
1 |
1 |
Ymateb 3:
|
20-24 |
25-34 |
Esemptiad adran 30 yn gymwys |
|
1 |
2 |
1 |
Ymateb 4:
|
Cyllell neu arf miniog |
Esemptiad adran 30 yn gymwys |
|
1 |
3 |
Ymateb 5:
|
Gwyn |
Heb ei gofnodi/ddim yn hysbys |
Esemptiad adran 30 yn gymwys |
|
2 |
1 |
1 |
Ymateb 6:
Esemptiad adran 30 yn gymwys x 4
Ymateb 7:
|
Cyhuddiad ac euogfarn |
|
1 |
Sylwch fod gan weddill y lladdiadau a gofnodwyd ddeilliannau gwahanol i’r rhai a restrir yn y cwestiwn, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr ymateb hwn.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol i heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd, a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu’r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 4 Mehefin 2024)