Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 464/2024
Cais:
1) Mynediad i’r darn ffilm camera corff o arést y ferch a gafodd ei harestio yn y digwyddiad yn Nyffryn Aman (24/04/2024). Gellir cuddio ei hwyneb.
2) Yr amser a gymerodd Heddlu Dyfed-Powys i ymateb i’r digwyddiad.
3) Sawl swyddog aeth i leoliad y digwyddiad.
4) Mynediad i’r darn ffilm camera corff o arést/gwarant o arést ei brawd a ddigwyddodd yn ardal Cross Hands (25/04/2024).
Ymatebion 1, 2 a 3:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fodd bynnag, gweithredwyd yr eithriadau canlynol i ryddhau’r wybodaeth y gofynnwyd amdani.
Adran 30(1)(a) - Ymchwiliadau a thrafodion a gynhelir gan awdurdodau cyhoeddus
Adran 40(2) - Gwybodaeth bersonol
Mae esemptiad adran 30(1)(a) yn esemptiad amodol ar sail dosbarth. Mae hyn yn golygu bod y deddfwyr, wrth ysgrifennu’r ddeddfwriaeth, o’r farn y byddai rhyddhau gwybodaeth o’r fath o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn achosi niwed i’r awdurdod cyhoeddus neu’r unigolyn dan sylw. Nid oes felly unrhyw ofyniad i gynnal Prawf NIWED mewn perthynas â gwybodaeth o’r fath. Fodd bynnag, mae gofyniad i gynnal prawf budd y cyhoedd er mwyn penderfynu a allai budd y cyhoedd yn ehangach wrth ddatgelu fod yn drech na budd y cyhoedd o gynnal yr esemptiad.
Mae adran 40(2) yn esemptiad absoliwt ar sail dosbarth ac nid oes unrhyw ofyniad i ystyried budd y cyhoedd wrth ddatgelu. Wedi dweud hynny, pan ddefnyddir adran 40(2) er mwyn gwneud yr esemptiad yn absoliwt, mae angen tystiolaeth y byddai datgeliad yn mynd yn groes i egwyddor diogelu data. Yn yr achos hwn, ni fyddai’n deg prosesu gwybodaeth a allai arwain at adnabod unigolyn. Felly, byddai egwyddor gyntaf y Ddeddf Diogelu Data yn cael ei thorri.
Adran 30(1)(a) Ymchwiliadau a thrafodion a gynhelir gan awdurdodau cyhoeddus:
(1) Mae gwybodaeth a ddelir gan awdurdod cyhoeddus yn wybodaeth esempt os ydyw wedi cael ei chadw ar unrhyw adeg gan yr awdurdod at ddibenion—
(a) Unrhyw ymchwiliad y mae gan yr awdurdod cyhoeddus ddyletswydd i’w gynnal er mwyn canfod (i) a ddylai unigolyn gael ei gyhuddo o drosedd, neu (ii) a ydyw unigolyn sydd wedi’i gyhuddo o drosedd yn euog ohoni.
Prawf budd y cyhoedd
Ystyriaethau o blaid datgelu:
Byddai datgelu’r wybodaeth yn gwella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth y cyhoedd ac yn rhoi boddhad i’r cyhoedd bod yr achosion hyn yn cael eu hymchwilio’n drylwyr a bod troseddwyr yn cael eu trin yn unol â hynny.
Ystyriaethau o blaid peidio â datgelu:
Mae’r esemptiad hwn yn cynnwys gwybodaeth a ddelir ar unrhyw adeg at ddiben ymchwiliad, p’un a ydyw’r achos yn mynd rhagddo, wedi’i gau neu wedi’i adael. Gallai rhyddhau manylion penodol am ymchwiliad parhaus, fel yn yr achos hwn, danseilio a bod yn niweidiol i’r ymchwiliadau hynny. Byddai hyn yn effeithio ar alluoedd yr heddluoedd o ran gorfodi’r gyfraith yn y dyfodol drwy rwystro atal neu ganfod trosedd.
Prawf cydbwysedd
Ar ôl ystyried manteision ac anfanteision datgelu, cyfrifoldeb Heddlu Dyfed-Powys yw cynnal prawf cydbwysedd ar y materion hyn. Mae angen pwyso a mesur y ddadl gryfaf dros ddatgelu, sef ymwybyddiaeth y cyhoedd, yn erbyn y dadleuon cryfaf dros beidio â datgelu. Yn yr achos hwn byddai rhyddhau yn tanseilio ac yn niweidio ymchwiliadau parhaus, a fyddai’n effeithio ar alluoedd yr heddluoedd o ran gorfodi’r gyfraith yn y dyfodol drwy rwystro atal neu ganfod trosedd.
Felly, yn holl amgylchiadau’r achos, mae budd y cyhoedd o gadw’r esemptiad yn drech na budd y cyhoedd o ddatgelu’r wybodaeth.
Adran 40(2) Gwybodaeth bersonol:
Mae adran 40(2) yn berthnasol i ddata personol trydydd parti ac y mae’n esempt rhag cael ei datgelu o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 pe bai datgelu, mewn perthynas â data sy’n destun prosesu gorfodi’r gyfraith, yn torri unrhyw un o’r egwyddorion diogelu data a gynhwysir yn rhan 3, pennod 2 o Ddeddf Diogelu Data 2018. O dan adran 34 ym mhennod 2, “Mae’r rheolydd mewn perthynas â data personol yn gyfrifol am, a rhaid iddo allu dangos, cydymffurfiad â” pennod 2. Ni fyddai gwybodaeth o’r fath yn cael ei rhyddhau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 oni bai bod elfen gref o ran budd y cyhoedd. Un o’r prif wahaniaethau rhwng Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 2018 yw bod unrhyw wybodaeth sy’n cael ei rhyddhau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cael ei rhyddhau i’r parth cyhoeddus, nid dim ond i’r unigolyn sy’n gwneud cais am yr wybodaeth, ac mae’n rhaid ei datgelu o dan y Ddeddf gan ddwyn hynny mewn cof. O’r herwydd, mae unrhyw wybodaeth a ryddheir sy’n dynodi unigolyn trwy ryddhau ei ddata personol, hyd yn oed data personol trydydd parti, yn esempt.
Diffinnir data personol o dan adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018 fel a ganlyn:
“(2) Ystyr ‘data personol’ yw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn byw adnabyddedig neu adnabyddadwy (yn ddarostyngedig i is-adran (14)(c)).
(3) Ystyr ‘unigolyn byw adnabyddadwy’ yw unigolyn byw y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn benodol wrth gyfeirio at—
(a) Dynodwr fel enw, rhif adnabod, data lleoliad neu ddynodwr ar-lein, neu
(b) Un neu ragor o ffactorau sy’n benodol i hunaniaeth gorfforol, ffisiolegol, genetig, meddyliol, economaidd, diwylliannol neu gymdeithasol yr unigolyn.”
Mae gan bob aelod o’r cyhoedd, gan gynnwys y rhai a gyflogir gan yr heddlu, hawl gynhenid i breifatrwydd, ac mae’r hawliau hyn wedi’u diogelu yn rhinwedd y Ddeddf Hawliau Dynol, Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) ac ni ddylai awdurdod cyhoeddus ymyrryd â’r hawl honno. Mae rhyddhau unrhyw wybodaeth sy’n destun yr esemptiad yn debygol o beryglu’r hawliau hynny.
Deddf Diogelu Data 2018
Rhan 3 – Gorfodi’r Gyfraith – Pennod 2 Egwyddorion Adran 35
Yr egwyddor diogelu data gyntaf:
“(1) Yr egwyddor diogelu data gyntaf yw bod yn rhaid i brosesu data personol at unrhyw un o’r dibenion gorfodi’r gyfraith fod yn gyfreithlon ac yn deg.”
Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data
Mae erthygl 5 o’r GDPR – ‘Egwyddorion sy’n ymwneud â phrosesu data personol’ yn darparu fel ganlyn:
“1. Caiff data personol:
(a) eu prosesu’n gyfreithlon, yn deg ac mewn modd tryloyw mewn perthynas â gwrthrych y data (‘cyfreithlondeb, tegwch a thryloywder’);
(b) eu casglu at ddibenion penodol, eglur a chyfreithlon a heb eu prosesu ymhellach mewn modd sy’n anghydnaws â’r dibenion hynny; prosesu pellach at ddibenion archifo er budd y cyhoedd…
2. Bydd y rheolydd yn gyfrifol am baragraff 1 (‘atebolrwydd’) ac yn gallu dangos ei fod yn cydymffurfio ag ef.”
Ni fyddai Heddlu Dyfed-Powys eisiau datgelu unrhyw wybodaeth sy’n debygol o enwi unigolyn. Yn yr achos penodol hwn, gallai rhyddhau’r wybodaeth sy’n ymwneud ag ymchwiliad sy’n mynd rhagddo arwain at enwi unigolyn/unigolion. Byddai rhyddhau gwybodaeth o’r fath yn torri deddfwriaeth Diogelu Data, felly o ganlyniad, rwy’n fodlon bod eithriad Adran 40(2) Gwybodaeth Bersonol yn berthnasol ar gyfer rhyddhau’r wybodaeth.
Mae Adran 40(2) yn eithriad absoliwt sy’n seiliedig ar ddosbarth. Golyga hyn fod y deddfwyr, wrth ysgrifennu’r ddeddfwriaeth, wedi ystyried y byddai rhyddhau gwybodaeth o’r fath o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn achosi niwed i’r awdurdod cyhoeddus neu’r unigolyn dan sylw. Yn yr achos presennol, byddai’n absoliwt gan y byddai rhyddhau’r wybodaeth yn torri deddfwriaeth Diogelu Data. Gan hynny, does dim rhaid cynnal prawf budd cyhoeddus.
Ymateb 4:
Ni all Heddlu Dyfed-Powys gadarnhau na gwadu bod gwybodaeth yn cael ei chadw sy’n berthnasol i’ch cais gan nad yw’r ddyletswydd yn adran 1(1)(a) o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gymwys yn rhinwedd yr esemptiadau canlynol:
Adran 30(3) – Ymchwiliadau a Gweithdrefnau a Gynhelir gan Awdurdodau Cyhoeddus
Adran 40(5) – Gwybodaeth Bersonol
Mae Adran 30 yn eithriad cymwys sy’n seiliedig ar ddosbarth a rhaid rhoi ystyriaeth i’r budd cyhoeddus o ran pa un ai â’r ymateb priodol yw peidio â chadarnhau na gwadu bod y wybodaeth yn bodoli.
Mae Adran 40 yn eithriad absoliwt sy’n seiliedig ar ddosbarth. Gan hynny, does dim rhaid cynnal praw niwed na phrawf budd cyhoeddus.
Adran 30(3) – Ymchwiliadau a Gweithdrefnau a Gynhelir gan Awdurdodau Cyhoeddus:
Prawf Budd Cyhoeddus
Ffactorau sy’n ffafrio cadarnhau neu wadu ar gyfer Adran 30:
Gallai cadarnhau neu wadu bod unrhyw wybodaeth yn bodoli fodloni’r cyhoedd cyffredinol bod ymchwiliadau o’r fath yn cael eu cynnal yn briodol.
Ffactorau yn erbyn cadarnhau neu wadu ar gyfer Adran 30:
Tra bod budd cyhoeddus mewn tryloywder gweithrediadau plismona a rhoi sicrwydd bod Heddlu Dyfed-Powys yn ymdrin yn briodol ac effeithiol gyda digwyddiadau/ymchwiliadau o’r fath, mae budd cyhoeddus cryf mewn diogelu unplygrwydd gweithrediadau ac ymchwiliadau’r heddlu a chynnal hyder yn y Gwasanaeth Heddlu. Byddai cadarnhau neu wadu bod unrhyw wybodaeth yn cael ei dal sy’n berthnasol i’r cais yn tanseilio ac yn cyfaddawdu unplygrwydd unrhyw broses ymchwiliol.
Mae unrhyw ddatgeliad o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhyddhau gwybodaeth i’r byd yn gyffredinol ac nid ymgeisydd unigol. Gan hynny, byddai gweithredu eithriadau neu ddweud nad oes gwybodaeth yn cael ei dal yn cadarnhau pa un ai a yw heddlu’n dal gwybodaeth mewn perthynas â’r cais ai peidio.
Prawf Cydbwyso
Mae’r pwyntiau uchod yn amlygu rhinweddau cadarnhau neu wadu bod gwybodaeth yn ymwneud â’r cais hwn yn bodoli. Mae’r Gwasanaeth Heddlu’n dibynnu’n fawr ar y cyhoedd, asiantaethau awdurdod lleol ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith eraill yn darparu a rhannu gwybodaeth i gynorthwyo ag ymchwiliadau. Er y dylai’r ffordd y mae’r Heddlu’n cynnal ymchwiliadau fod yn dryloyw a chael ei rhannu gyda’r cyhoedd, mae ganddynt fwy o ddyletswydd i warchod y cyhoedd rhag niwed neu ofid er mwyn diogelu unplygrwydd ymchwiliadau’r heddlu. Gan hynny, mae Heddlu Dyfed-Powys o’r farn na ddylid cynnal y prawf cydbwyso ar gyfer cadarnhau pa un ai a yw’r wybodaeth honno’n cael ei dal ai peidio ar gyfer y materion hyn. Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae hyn yn cynrychioli Hysbysiad Gwrthod ar gyfer y cais penodol hwn.
Ni ellir dod i unrhyw gasgliad o’r gwrthodiad hwn fod y wybodaeth rydych wedi ei cheisio’n bodoli neu ddim yn bodoli.
Adran 40(5) – Gwybodaeth bersonol:
Mae’r ddyletswydd i beidio â chadarnhau na gwadu o dan yr adran hon o’r Ddeddf yn codi os byddai cadarnhad ynghylch a ydyw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yn cael ei chadw ai peidio yn torri unrhyw un o’r egwyddorion diogelu data a gynhwysir yn Rhan 3 – Pennod 2 o Ddeddf Diogelu Data 2018. O dan adran 34 ym mhennod 2, “Mae’r Rheolydd mewn perthynas â data personol yn gyfrifol am, a rhaid iddo allu dangos, cydymffurfiad â” pennod 2. Ni fyddai gwybodaeth o’r fath yn cael ei chadarnhau fel gwybodaeth a ddelir o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 oni bai bod elfen gref o ran budd y cyhoedd.Un o’r prif wahaniaethau rhwng Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 2018 yw bod unrhyw wybodaeth sy’n cael ei rhyddhau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cael ei rhyddhau i’r parth cyhoeddus, nid dim ond i’r unigolyn sy’n gwneud cais am yr wybodaeth, ac mae’n rhaid ei datgelu o dan y Ddeddf gan ddwyn hynny mewn cof. O’r herwydd, mae unrhyw wybodaeth a ryddheir sy’n dynodi unigolyn trwy ryddhau ei ddata personol, hyd yn oed data personol trydydd parti, yn esempt.
Diffinnir data personol o dan adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018 fel a ganlyn:
“(2) Ystyr ‘data personol’ yw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn byw adnabyddedig neu adnabyddadwy (yn ddarostyngedig i is-adran (14)(c)).
(3) Mae ‘unigolyn byw adnabyddedig’ yn golygu unigolyn byw y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn benodol drwy gyfeirio at—
(a) Dynodwr fel enw, rhif adnabod, data lleoliad neu ddynodwr ar-lein, neu
(b) Un neu ragor o ffactorau sy’n benodol i hunaniaeth gorfforol, ffisiolegol, genetig, meddyliol, economaidd, diwylliannol neu gymdeithasol yr unigolyn.”
Mae gan bob aelod o’r cyhoedd, gan gynnwys y rhai a gyflogir gan yr heddlu, hawl gynhenid i breifatrwydd, ac mae’r hawliau hyn wedi’u diogelu yn rhinwedd y Ddeddf Hawliau Dynol, Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) ac ni ddylai awdurdod cyhoeddus ymyrryd â’r hawl honno. Mae rhyddhau unrhyw wybodaeth sy’n destun yr esemptiad yn debygol o beryglu’r hawliau hynny.
Deddf Diogelu Data 2018
Rhan 3 – Gorfodi’r Gyfraith – Pennod 2 Egwyddorion Adran 35
Yr egwyddor diogelu data gyntaf:This section has no associated Explanatory Notes
“(1) Yr egwyddor diogelu data gyntaf yw bod yn rhaid i brosesu data personol at unrhyw un o’r dibenion gorfodi’r gyfraith fod yn gyfreithlon ac yn deg.”
Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)
Mae erthygl 5 o’r GDPR – ‘Egwyddorion sy’n ymwneud â phrosesu data personol’ yn darparu fel ganlyn:
“1. Caiff data personol:
(a) Eu prosesu’n gyfreithlon, yn deg ac mewn modd tryloyw mewn perthynas â gwrthrych y data (‘cyfreithlondeb, tegwch a thryloywder’);
(b) Eu casglu at ddibenion penodol, eglur a chyfreithlon a heb eu prosesu ymhellach mewn modd sy’n anghydnaws â’r dibenion hynny; prosesu pellach at ddibenion archifo er budd y cyhoedd…
2. Bydd y rheolydd yn gyfrifol am baragraff 1 (‘atebolrwydd’) ac yn gallu dangos ei fod yn cydymffurfio ag ef.”
Ni fyddai Heddlu Dyfed-Powys eisiau cadarnhau na gwadu pa un ai a oes unrhyw wybodaeth yn cael ei dal, sy’n berthnasol i’r cais, pe bai cadarnhau/gwadu o bosibl yn medru enwi unigolyn. Yn yr achos hwn, gallai unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i’r cais a all fod yn cael ei dal neu beidio gynnwys data personol neu unigolyn/unigolion adnabyddadwy, a byddai unrhyw ddatgeliad, drwy ddyfynnu eithriad neu ddweud nad oes gwybodaeth yn cael ei dal, yn amlwg yn torri’r Ddeddf Diogelu Data. O ganlyniad, rwy’n fodlon bod eithriad Adran 40(5) Gwybodaeth Bersonol yn berthnasol.
Ni ellir dod i unrhyw gasgliad o’r gwrthodiad hwn fod yr wybodaeth y gofynnoch amdani yn bodoli neu ddim yn bodoli.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 21/06/2024