Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 565/2024
Cais:
Cwestiwn i geisio eglurhad:
Ateb i egluro:
Rydym mewn gwirionedd am wybod faint o ddioddefwyr cam-drin domestig sydd gennych ar eich system ar hyn o bryd, a sut mae’r niferoedd hynny’n cael eu dadansoddi a’u dosbarthu’n achosion risg uchel, canolig a safonol, lle bo ‘uchel’ yn cyfeirio at fygythiad uniongyrchol i fywyd unigolyn.
Byddwn yn gwerthfawrogi ffigurau ar gyfer y flwyddyn ariannol o 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024. Os nad yw ffigurau eleni ar gael byddem yn hapus i gymryd y ffigurau ar gyfer y flwyddyn ariannol o 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023.
Rydym eisoes wedi gallu cael ffigurau digwyddiadau a throseddau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer y flwyddyn ariannol o 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023.
Ymateb:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Sylwch, byddai nifer y dioddefwyr yr un fath â nifer y digwyddiadau o gam-drin domestig (troseddau a digwyddiadau), hy un dioddefwr fesul digwyddiad neu drosedd.
Mae’r ffigurau isod yn cyfeirio at nifer y digwyddiadau ac maen nhw wedi’u dadansoddi yn ôl risg, sy’n seiliedig ar Hysbysiad er Diogelu’r Cyhoedd (PPN) cychwynnol o ran cam-drin domestig sydd ynghlwm wrth drosedd / digwyddiad.
|
|
Risg safonol |
Risg canolig |
Risg uchel |
Dim Hysbysiad er Diogelu’r Cyhoedd (PPN) |
Cyfanswm y digwyddiadau o gam-drin domestig |
|
Ebrill 2023 |
787 |
80 |
7 |
Amherthnasol |
874 |
|
Mai 2023 |
379 |
52 |
10 |
153 |
594 |
|
Mehefin 2023 |
767 |
131 |
16 |
141 |
1055 |
|
Gorffennaf 2023 |
760 |
128 |
30 |
106 |
1,024 |
|
Awst 2023 |
694 |
168 |
36 |
104 |
1,002 |
|
Medi 2023 |
630 |
160 |
33 |
91 |
914 |
|
Hydref 2023 |
556 |
208 |
56 |
83 |
903 |
|
Tachwedd 2023 |
495 |
200 |
44 |
79 |
818 |
|
Rhagfyr 2023 |
576 |
222 |
63 |
62 |
923 |
|
Ionawr 2024 |
531 |
212 |
57 |
82 |
882 |
|
Chwefror 2024 |
458 |
252 |
62 |
76 |
848 |
|
Mawrth 2024 |
552 |
229 |
77 |
96 |
954 |
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol i heddluoedd y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd a phennir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw'r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi'r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith yw’r gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu data troseddau. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylai ymateb yr heddlu hwn i'ch cwestiynau gael ei ddefnyddio at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall y gallech ei gael.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 10 Mehefin 2024)