Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 539/2024
Cais:
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai fod esemptiadau’n berthnasol, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Lle dibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth wedi’i hesemptio), roi i chi, y ceisydd, hysbysiad sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad o dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam bod yr esemptiad yn gymwys.
Gallaf gadarnhau bod gan Heddlu Dyfed–Powys yr wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani. Fodd bynnag, rydym yn cadw’r holl wybodaeth y gofynnwyd amdani yn ôl gan ein bod yn ystyried bod yr esemptiad adran 12(1), sef bod y gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol, yn berthnasol iddi.
Adran 12(1) – Mae cost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(1) yn datgan: “Nid yw adran 1(1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â chais am wybodaeth os yw’r awdurdod yn amcangyfrif y byddai’r gost o gydymffurfio â’r cais yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o ddarparu’r wybodaeth y gofynnir amdani mewn perthynas â’ch cais yn uwch na’r swm lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb, h.y. mae’r gost o ddod o hyd i’r wybodaeth a’i hadalw yn uwch na’r “lefel briodol” fel y nodir yn Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfyn a Ffioedd Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd mwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 11,405 awr) i gydymffurfio â’r rhan hon o’ch cais. Gellir dod o hyd i’r rheoliadau yn https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae’r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw’r wybodaeth mewn perthynas â chwestiynau 1 a 2 o’ch cais yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adfer. Yng ngoleuni hyn ac er mwyn cael yr wybodaeth gywir sy’n berthnasol i’ch cais o fewn yr amserlen a nodwyd, byddai angen i Heddlu Dyfed–Powys gyrchu ac adolygu holl gofnodion galwadau blaenoriaeth 1 a 2, a byddai’n rhaid adolygu pob cofnod â llaw i ganfod a oedd y galwadau i ganolfannau hapchwarae i oedolion.
Canfuwyd bod cyfanswm o 136,860 o alwadau blaenoriaeth 1 a 2 yn cwmpasu cyfnod eich cais. Mae hefyd wedi'i nodi y byddai'n cymryd o leiaf pum munud i adolygu a chael yr wybodaeth ar gyfer un cofnod mewn perthynas â'ch cais (fel yr amlinellwyd uchod). Mae’r broses a amlinellir yn arwain at yr amcangyfrif amser isod.
136,860 cofnod galwad x 5 munud = 11,405 awr
Amcangyfrif amser i gwblhau’r dasg = 11,405 awr
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn o dan adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn gymwys roi hysbysiad i’r ymgeisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1).
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel y bydd yr amser a ddangosir uchod yn llai na 18 awr. Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth. Nodwch hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nad yw’n dileu hawl yr awdurdodau cyhoeddus i ddyfynnu esemptiadau os yn berthnasol.
Er bod costau ychwanegol yn dileu rhwymedigaethau’r heddlu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach, fel arwydd o ewyllys da rwyf wedi darparu gwybodaeth y mae’n hawdd ei hadalw mewn perthynas â chwestiwn 3 eich cais, ac mae honno wedi’i hamlinellu isod. Gobeithiaf fod hyn yn ddefnyddiol, ond nid yw’n effeithio ar ein hawl gyfreithiol i ddibynnu ar y rheoliadau ffioedd am weddill eich cais.
C3.
Ceredigion x2
Powys 0
Sir Benfro x3
Sir Gaerfyrddin x2
Dylid nodi, o ganlyniad i'r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed–Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddhawyd fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol i heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd, a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw'r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi'r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu data troseddau. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 6 Mehefin 2024)