Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 467/2024
Cais:
a) Gwahaniaethu ar sail anabledd
b) Gwahaniaethu ar sail hil neu ethnigrwydd
c) Gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol
a) 2021
b) 2022
c) 2023
(a) Gwrthod gwasanaeth ar ôl rhannu statws HIV
(b) Methu â gwneud addasiadau rhesymol sy’n ystyried statws HIV unigolyn
(c) Aflonyddu ar sail statws HIV unigolyn
(d) Defnydd o bolisi sefydliadol a oedd yn gwahaniaethu yn erbyn unigolyn ar sail ei statws HIV
(e) Math arall o ddigwyddiad lle gwahaniaethwyd ar sail HIV
(a) Aelodau o’r cyhoedd
(b) Gweithwyr eich sefydliad
Cwestiwn i geisio eglurhad:
Pan fyddwch yn cyfeirio at ‘gwynion’ ac ‘wedi’u hadrodd’, a ydych yn cyfeirio at gwynion mewnol neu a ydych yn cyfeirio at adroddiadau am ddigwyddiadau (galwadau 999/101) neu droseddau (lle mae trosedd wedi digwydd)?
Ateb esboniadol:
A fyddech cystal â darparu’r ddau ffigur?
Ymatebion 1 i 5:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Lle dibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth wedi’i hesemptio), roi i chi, y ceisydd, hysbysiad sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad o dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam bod yr esemptiad yn gymwys.
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod. Fodd bynnag, rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod adran 12(1) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol, yn gymwys iddi.
Adran 12(1) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(1) yn datgan: “Nid yw adran 1(1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â chais am wybodaeth os ydyw’r awdurdod yn amcangyfrif y byddai’r gost o gydymffurfio â’r cais yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o ddarparu’r wybodaeth y gofynnir amdani mewn perthynas â’ch cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, hy mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn uwch na’r “lefel briodol” fel y nodir yn Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfyn a Ffioedd Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd yn hwy na 18 awr (hy lleiafswm o 323 awr) i gydymffurfio â’r rhan hon o’ch cais. Gellir dod o hyd i’r rheoliadau yma: https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244.
Mae’r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw’r wybodaeth mewn perthynas â chwestiynau 1–5 eich cais yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw. Yng ngoleuni hyn, ac er mwyn cael yr wybodaeth sy’n berthnasol i’ch cais ar gyfer y cyfnodau a nodwyd gennych yn gywir, byddai angen i Heddlu Dyfed-Powys gyrchu ac adolygu’r holl droseddau sydd wedi’u dosbarthu fel digwyddiadau ‘trosedd gasineb’, byddai’n rhaid adolygu pob cofnod â llaw i ganfod y math o wahaniaethu, pwy adroddodd am y digwyddiad a sut y cafodd ei gefnogi
Canfuwyd bod cyfanswm o 1,936 o ddigwyddiadau yn cwmpasu cyfnod eich cais. Canfuwyd hefyd y byddai’n cymryd o leiaf 10 munud i gael ac adolygu’r wybodaeth ar gyfer un digwyddiad mewn perthynas â’ch cais (fel yr amlinellwyd uchod). Mae’r broses a amlinellir yn arwain at yr amcangyfrif amser isod.
2021 = 681 digwyddiad = 114 awr
2022 = 589 digwyddiad = 98 awr
2023 = 666 digwyddiad = 111 awr
Amcangyfrif amser i gwblhau’r dasg = 323 awr
Yn unol felly â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn o dan adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn gymwys, o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1), roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno.
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais er mwyn lleihau’r amser a ddangosir uchod fel ei bod yn cymryd llai na 18 awr i gwblhau’r gwaith. Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth. Sylwch hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nid yw’n dileu hawl yr awdurdod cyhoeddus i ddyfynnu esemptiadau os ydynt yn gymwys.
Sylwch fod yr ymateb uchod yn seiliedig ar gwynion a allai fod wedi cael eu hadrodd a’u cofnodi o fewn system gorchymyn a rheoli’r heddlu. Yn eich neges e-bost dyddiedig 14 Mai 2024, gwnaethoch gadarnhau eich bod am gael manylion cwynion mewnol ac adroddiadau am ddigwyddiadau (galwadau 999/101) neu droseddau (lle mae trosedd wedi digwydd). Os oes angen gwybodaeth arnoch o hyd ynghylch ‘cwynion mewnol’, a allwch egluro a fyddech â diddordeb mewn cwynion yr ymdrinnir â hwy drwy weithdrefnau ‘tegwch yn y gwaith’ neu gwynion mewnol sy’n cyrraedd y trothwy ar gyfer camymddwyn.
Ymateb 6:
Gallaf gadarnhau nad yw Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, gan nad oes polisi sy’n benodol i’r cais hwn.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddhawyd fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol i heddluoedd y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd a pennir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw'r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi'r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith yw’r gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu data troseddau. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylai ymateb yr heddlu hwn i'ch cwestiynau gael ei ddefnyddio at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall y gallech ei gael.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 12 Mehefin 2024)