Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 352/2024
Cais:
Rhyddhewch ddata sy'n ymwneud â gwarantau byw ar gyfer lladdiad, ymosodiad difrifol, ymosodiad cyffredin a threisio. Rhannwch yr wybodaeth yn ôl categori trosedd a'r mis a'r flwyddyn y cyhoeddwyd y warant. Os nad yw’r categorïau troseddau canlynol wedi’u cynnwys yn y categorïau ehangach uchod, rhowch ddyddiad ar eu cyfer hefyd:
Arall - trais/unigolyn
Adran 18 clwyfo
Adran 20 clwyfo
Adran 47 ymosodiad
Trosedd rhywiol
Eglurhad:
Rwy'n gofyn am warantau sy’n bodoli ar ddyddiad y cais. Dyddiad yr wybodaeth yw'r mis/blwyddyn y cyhoeddwyd gwarant byw.
Ymateb:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw gwybodaeth fel a amlinellir yn y tabl isod.
Categori/Trosedd |
Mis y cyhoeddwyd |
Blwyddyn y cyhoeddwyd |
Clwyfo gyda bwriad |
Rhagfyr |
2008 |
Ymosodiad cyffredin |
Mawrth Mawrth Mawrth Ebrill Ebrill Ionawr |
2024 2023 2023 2024 2024 2023 |
Gwir niwed corfforol / Ymosodiad ar swyddog heddlu |
Ebrill Chwefror Ebrill Mawrth Gorffennaf |
2024 2024 2019 2024 2011 |
Tynnu a gwneud delweddau anweddus |
Gorffennaf Gorffennaf |
2020 2016 |
Treisio |
Mehefin |
2000 |
Niwed corfforol difrifol |
Hydref Ionawr |
2021 2023 |
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed–Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol i heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd, a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu’r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a ddatgelwyd ar 4 Mehefin 2024)