Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 1034/2023
Cais:
1. Faint o sesiynau hyfforddi yn ymwneud ag ‘amrywiaeth, ecwiti a chynhwysiant’ y mae gweithwyr eich sefydliad wedi cael gwahoddiad i’w cwblhau? Dadansoddwch y data fesul blwyddyn, o 2019 hyd heddiw. Os yn bosibl, nodwch faint o’r sesiynau hyfforddi hyn a oedd yn orfodol i weithwyr eu mynychu, a faint a oedd yn wirfoddol. Os yn bosibl, nodwch hefyd faint o’r sesiynau hyfforddi hyn a arweiniwyd gan staff mewnol, a sawl un a arweiniwyd gan ddarparwyr allanol.
Rhannwch gyda mi deitlau’r pum sesiwn hyfforddi ‘amrywiaeth, ecwiti a chynhwysiant’ diweddaraf a ddarparwyd i weithwyr eich sefydliad.
2. Faint o aelodau staff y mae eu rôl yn canolbwyntio’n bennaf ar ‘amrywiaeth, ecwiti a chynhwysiant’ y mae eich sefydliad yn eu cyflogi? Er enghraifft, cyflogeion â theitlau megis ‘rheolwr amrywiaeth’, ‘pennaeth cynhwysiant’, neu ‘bennaeth diwylliant’. Rhowch wybod i mi hefyd faint o rolau o’r fath a oedd gan eich sefydliad ar ddiwedd y flwyddyn (neu bryd bynnag y gwnaethoch eu mesur) yn 2022, 2021, 2020 a 2019.
3. Rhowch wybod i mi faint o gwynion mewnol sydd wedi’u codi gan weithwyr eich sefydliad o 2019 hyd heddiw, wedi’u dadansoddi fesul blwyddyn.
4. Rhowch wybod i mi faint o gwynion a godwyd yn fewnol sydd wedi arwain at roi gweithdrefnau disgyblu ar waith o 2019 hyd heddiw, wedi’u dadansoddi fesul blwyddyn.
5. Rhowch wybod i mi faint o’ch cyflogeion sydd wedi cael sancsiynau yn dilyn gweithdrefnau disgyblu a gododd o ganlyniad i gwynion a godwyd yn fewnol o 2019 hyd heddiw, wedi’u dadansoddi fesul blwyddyn. Os yn bosibl, nodwch sawl achos o bob canlyniad a weithredwyd (ee nifer y rhybuddion ysgrifenedig, nifer y diswyddiadau, ac ati). Rhannwch yr wybodaeth hon yn ôl blwyddyn galendr hefyd.
6. Os yn bosibl, rhowch wybod i mi beth yw cyfanswm gwariant eich sefydliad (neu gyllideb, os yw’r gwariant yn cymryd gormod o amser/yn anodd ei gyfrifo) ar gyfer sesiynau hyfforddi allanol ‘amrywiaeth, ecwiti a chynhwysiant’ o 2019 hyd heddiw, wedi’u dadansoddi fesul blwyddyn.
7. Os yn bosibl, rhowch wybod i mi beth yw cyllideb gyflog neu wariant presennol eich sefydliad (pa bynnag un sydd fwyaf cyfleus) ar gyfer aelodau staff y mae eu rolau’n canolbwyntio’n bennaf ar ‘amrywiaeth, ecwiti a chynhwysiant’. Darparwch hefyd yr wybodaeth hon ar gyfer 2019, 2020, 2021 a 2022, wedi’i wedi'i dadansoddi fesul blwyddyn galendr neu flwyddyn ariannol – pa bynnag un sydd fwyaf cyfleus.
8. Os yn bosibl, dywedwch wrthyf faint o staff y mae eich sefydliad yn eu cyflogi ar hyn o bryd. Dywedwch wrthyf hefyd faint o staff a gyflogwyd gan eich sefydliad (ar ba bwynt bynnag yn y blynyddoedd y mae gennych fesuriadau wrth law ar eu cyfer – ee diwedd y flwyddyn) yn 2022, 2021, 2020 a 2019.
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
|
Blwyddyn |
Darparwr mewnol/allanol |
Hyfforddiant |
Dewisol neu orfodol |
|
2019 |
Allanol |
Hyfforddiant ymwybyddiaeth o Sipsiwn/Teithwyr |
Dewisol |
|
2021 |
Allanol |
Iaith Arwyddion Prydain Lefel 3 |
Dewisol |
|
2022 |
Allanol |
Iaith Arwyddion Prydain Lefel 4 |
Dewisol |
|
2022 |
Allanol |
Arholiad Iaith Arwyddion Prydain |
Dewisol |
|
2022 |
Allanol |
Iaith Arwyddion Prydain Lefel 1 (ail gwrs) |
Dewisol |
|
2022 |
Allanol |
Iaith Arwyddion Prydain Lefelau 2 a 6 |
Dewisol |
|
2023 |
Allanol |
Cyflwyniad i gynhwysiant LHDTC+ |
Dewisol |
|
2023 |
Allanol |
Fforwm menopos |
Dewisol |
|
2023 |
Allanol |
Cwrs Cymraeg |
Dewisol |
|
2023 |
Mewnol |
Rhaglen Arweinwyr Llinell Gyntaf – mewnbwn Cynllun Gweithredu Hil yr Heddlu |
Gorfodol |
|
2023 |
Mewnol |
Cyflwyniad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant – a roddir i bob recriwt newydd, staff newydd a throsglwyddeion |
Gorfodol |
|
2023 |
Mewnol |
Cwrs Cyfweld y Fframwaith Cymhwysedd a Gwerthoedd – mewnbwn rhagfarn ddiarwybod |
Dewisol |
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
3:
Rheolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a’r Gymraeg.
Arbenigwr ar y Gymraeg – newidiwyd y teitl ar 6 Ionawr 2020 i Swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a’r Gymraeg.
Swyddog Cymorth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a’r Gymraeg.
Ymateb 3:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
2019 – 15
2020 – 15
2021 – 7
2022 – 6
2023 – 1
Mae’r data a ddarperir yn seiliedig ar flynyddoedd calendr. Os caiff cwyn ei chyfeirio at safonau proffesiynol a’i hymchwilio fel camymddwyn, nid yw’n cael ei chyfrif fel cwyn oherwydd nid yw’n cael ei hymchwilio felly.
Ymatebion 4 a 5:
Gallaf gadarnhau nad yw Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani. Mae hyn oherwydd bod y gweithdrefnau cwyno a chamymddwyn yn gyffredinol yn ddwy broses ar wahân, a bydd mater yn cael ei gyfeirio drwy’r naill broses neu’r llall. Caiff y penderfyniad hwn ei wneud pan fydd y mater yn cael ei adrodd am y tro cyntaf a dyna’r llwybr y mae’n ei gymryd. Nid oes unrhyw groesgyfeirio nac atgyfeirio rhwng y prosesau. Mae’n bosibl y bydd materion ymddygiad yn dod i’r amlwg yn ystod proses gwyno, ond bydd y rhain yn faterion newydd sydd wedi dod i’r amlwg felly ni fyddant yn adlewyrchu’r adroddiad gwreiddiol yn uniongyrchol. Yn y bôn, os yw mater yn cael ei drin fel cwyn ni fydd yn arwain at achos disgyblu.
Ymateb 6:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
2019 – £2,825
2020 – £1,875
2021 – £1,500
2022 – £21,761
2023 tan 22/11/23 – £1,840
Ymateb 7:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
2019 – £94,783
2020 – £86,682
2021 – £99,515
2022 – £104,329
Ymateb 8:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cyflogi 799 o staff ar hyn o bryd (noder nad yw hyn yn cynnwys swyddogion heddlu). Gweler y ffigurau ar gyfer cyfansymiau staff ar gyfer pob blwyddyn ariannol isod (cofnodwyd ym mis Mawrth):
2019 – 716
2020 – 735
2021 – 794
2022 – 810
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 13 Mehefin 2024)