Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 551/2024
Cais C1
A yw'r polisi noeth-chwiliad yn cael ei adolygu oherwydd y sylweddoliad efallai nad yw'n bodloni gofynion Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1989 ac nad yw'n briodol?
Cais C2
A yw'r polisi swyddogion traws yn cael ei adolygu oherwydd y sylweddoliad y gallai fod yn amhriodol o ran hawliau menywod?
Cais C3
Os teimlir bod polisïau presennol yn amhriodol, pam? Pa grŵp neu grwpiau o bobl roddodd y cyngor amhriodol?
Cais C4
Os yw Heddlu Dyfed-Powys wedi derbyn ac wedi gweithredu ar gyngor amhriodol, sut y mae’n bwriadu rhoi mesurau diogelu ar waith, fel na ellir rhoi polisïau o’r fath ar waith yn y dyfodol, nid yn unig ar y mater hwn ond ar bopeth a elwir yn ‘flaengar’, materion y byddwn yn dadlau bod llawer ohonynt yn symud tuag at yn ôl?
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod:
Ymateb C1
Mae’r Swyddfa Gartref wedi ymgynghori ar ffyrdd o gryfhau’r mesurau diogelu ar gyfer plant a phobl fregus sy’n destun chwiliadau sy’n cynnwys datguddio rhannau preifat o’r corff heb amharu ar allu’r heddlu i gadw’r cyhoedd yn ddiogel. Mae hyn wedi cynnwys diwygiadau posibl i rannau o God A ac C Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984.
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 30 Ebrill 2024 a 10 Mehefin 2024.
Bydd Dyfed-Powys yn aros am ganfyddiadau'r ymgynghoriad ac yn dilyn unrhyw argymhellion y mae'r Swyddfa Gartref yn eu hystyried yn briodol.
Ymateb C2
Mae'r adolygiad o ganlyniad i benderfyniad Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu i dynnu eu canllawiau oddi ar wefan Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu dros dro mewn perthynas â swyddogion traws yn cynnal chwiliadau.
Ymateb C3
Amherthnasol – Os yw'r cwestiwn hwn yn ymwneud â swyddogion traws yn cynnal chwiliadau yna mae angen gofyn y cwestiwn hwn i Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu.
Ymateb C4
Mae’r Swyddfa Gartref wedi ymgynghori ar ffyrdd o gryfhau’r mesurau diogelu ar gyfer plant a phobl fregus sy’n destun chwiliadau sy’n cynnwys datguddio rhannau preifat o’r corff heb amharu ar allu’r heddlu i gadw’r cyhoedd yn ddiogel. Mae hyn wedi cynnwys diwygiadau posibl i rannau o God A ac C Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984.
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 30 Ebrill 2024 a 10 Mehefin 2024.
Bydd Dyfed-Powys yn aros am ganfyddiadau'r ymgynghoriad ac yn dilyn unrhyw argymhellion y mae'r Swyddfa Gartref yn eu hystyried yn briodol.
Dylid nodi, oherwydd y systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi materion o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ddarparwyd fod yn gywir neu beidio. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 21 Mehefin 2024)