Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 472/2024
Cais:
Ar gyfer pob rôl, atodwch y swydd-ddisgrifiad a nodwch y raddfa gyflog/amrediad cyflog sylfaenol (o 1 Ebrill 2024), a oes unrhyw lwfansau/gwelliannau am weithio ar benwythnosau/shifftiau/oriau anghymdeithasol yn ymwneud â’r swydd ac unrhyw wybodaeth bellach a fyddai’n cael eu cynnwys fel arfer mewn swydd-ddisgrifiad ar gyfer y rôl.
Ymateb 1a:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Swyddog Cefnogi'r Heddlu Lleihau Anafiadau. Swydd-ddisgrifiad wedi’i atodi. Graddfa gyflog D.
Ymateb 1b-d:
Gallaf gadarnhau nad yw Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, a hynny oherwydd mai Heddlu De Cymru sy’n cadw’r wybodaeth hon.
Ymateb 1e:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Goruchwyliwr y Cynllun Ailhyfforddi Gyrwyr. Swydd-ddisgrifiad wedi’i atodi. Graddfa gyflog D. Nid oes unrhyw lwfansau/gwelliannau ar gyfer gweithio ar benwythnosau/shifftiau/oriau anghymdeithasol.
Cefnogaeth glerigol. Swydd-ddisgrifiad wedi’i atodi. Graddfa gyflog C. Nid oes unrhyw lwfansau/gwelliannau ar gyfer gweithio ar benwythnosau/shifftiau/oriau anghymdeithasol.
Ymateb 1f:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Rhingyll yr heddlu. Swydd-ddisgrifiad wedi’i atodi.
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
8.75 o swyddi cyfwerth ag amser llawn
(Mae 2.25 o’r swyddi cyfwerth ag amser llawn hyn yn wag ar hyn o bryd)
Ymateb 3:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Ydyw.
Ymateb 4:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Nifer - 8.
Ymateb 5:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
LTI Concept
Ymateb 6:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau’n berthnasol, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau, neu wadu, a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn Adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Lle dibynnir ar esemptiadau mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth wedi’i hesemptio) roi hysbysiad i chi y sawl sy’n gwneud cais:
(a) yn datgan y ffaith honno,
(b) yn pennu'r esemptiad o dan sylw, ac
(c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam bod yr esemptiad yn gymwys.
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, ond mae’r esemptiad a ganlyn mewn grym mewn perthynas â’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 21 – Gwybodaeth sy’n rhesymol hygyrch drwy ddulliau eraill:
“(1) Mae gwybodaeth sy’n rhesymol hygyrch i’r sawl sy’n gwneud cais ac eithrio o dan adran 1 yn wybodaeth esempt.
(2) At ddibenion is-adran (1) —
(a)gall gwybodaeth fod yn rhesymol hygyrch i’r sawl sy’n gwneud cais er mai dim ond am dâl y mae’n hygyrch, a
(b) bernir bod gwybodaeth yn rhesymol hygyrch i’r sawl sy’n gwneud cais os yw’n wybodaeth y mae’n ofynnol i’r awdurdod cyhoeddus, neu unrhyw berson arall, o dan unrhyw ddeddfiad ei chyfleu (ac eithrio drwy drefnu bod yr wybodaeth ar gael i’w harchwilio) i aelodau’r cyhoedd ar gais, boed yn rhad ac am ddim neu am dâl.
(3) At ddibenion is-adran (1), nid yw gwybodaeth a gedwir gan awdurdod cyhoeddus ac nad yw’n dod o fewn is-adran (2)(b) i’w hystyried yn rhesymol hygyrch i’r sawl sy’n gwneud cais dim ond oherwydd bod yr wybodaeth ar gael oddi wrth yr awdurdod cyhoeddus ei hun ar gais, oni bai bod yr wybodaeth ar gael yn unol â chynllun cyhoeddi’r awdurdod a bod unrhyw daliad sy’n ofynnol yn cael ei bennu yn y cynllun, neu ei benderfynu yn unol ag ef.”
Gellir cyrchu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yng nghwestiwn 6 drwy’r hyperddolen a ganlyn –
Map Camerâu | Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru GanBwyll
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 06/06/2024)