Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 379/2024
Cais:
Gofynnwyd am eglurhad ar 11 Ebrill 2024:
A ydych yn dymuno gwybod nifer yr unigolion a gafodd eu stopio gan swyddog ac y rhoddwyd adroddiad trosedd draffig iddynt, neu nifer yr unigolion a gafodd eu stopio gan swyddog ac y rhoddwyd cynnig amodol iddynt?
A allwch hefyd egluro a ydych yn gofyn am ddata ar gyfer troseddau yn ymwneud â pheipen egsôst?
Cafwyd eglurhad ar 30 Mai 2024:
I gadarnhau, mae gennyf ddiddordeb mewn adroddiadau trosedd draffig, sy’n ymwneud â throseddau yn ymwneud â pheipen egsôst.
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau yn gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Lle dibynnir ar esemptiadau mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth wedi’i hesemptio), roi i chi, y ceisydd, hysbysiad sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad o dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam bod yr esemptiad yn gymwys.
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod. Fodd bynnag, rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani yng nghwestiynau 1 i 3 gan ein bod yn ystyried bod adran 12(1) ‘Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol’, yn gymwys iddi.
Adran 12(1) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(1) yn datgan: “Nid yw adran 1(1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â chais am wybodaeth os ydyw’r awdurdod yn amcangyfrif y byddai’r gost o gydymffurfio â’r cais yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o ddarparu’r wybodaeth y gofynnir amdani mewn perthynas â’ch cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo; h.y. mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn uwch na’r ‘lefel briodol’ fel y nodir yn Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfyn a Ffioedd Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd yn hwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 190 awr) i gydymffurfio â’r rhan hon o’ch cais. Gellir dod o hyd i’r rheoliadau yn https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae’r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw’r wybodaeth mewn perthynas â chwestiynau 1 i 3 eich cais yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw. Yng ngoleuni hyn, ac er mwyn cael yr wybodaeth sy’n berthnasol i’ch cais am yr amserlen a nodwyd yn gywir, byddai’n rhaid i Heddlu Dyfed-Powys edrych ar gofnodion storm a’u hadolygu. Byddai’n rhaid adolygu pob cofnod â llaw i weld a ydyw’n ymwneud â cherbyd.
Canfuwyd bod yna gyfanswm o 2,286 o gofnodion yn cwmpasu cyfnod eich cais. Amcangyfrifwyd y byddai’n cymryd o leiaf pum munud i adolygu a chael yr wybodaeth ar gyfer un cofnod mewn perthynas â’ch cais. Mae’r broses a amlinellir yn arwain at yr amcangyfrif amser isod.
2,286 o gofnodion storm sy’n sôn am ‘sŵn’ yn y crynodeb
2,286 x 5 munud = 11,430 munud / 60 = 190 awr
Amcangyfrif amser i gwblhau’r dasg = 190 awr
Yn unol felly â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn o dan adran 17(5), sef bod rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad y mae adran 12 neu adran 14 yn gymwys iddo, roi hysbysiad i’r ymgeisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1). Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr. Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth. Sylwer hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nad yw’n dileu hawl yr awdurdod cyhoeddus i ddyfynnu esemptiadau os ydynt yn berthnasol.
Er bod costau ychwanegol yn dileu rhwymedigaethau’r heddlu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach, fel arwydd o ewyllys da, rwyf wedi darparu gwybodaeth, mewn perthynas â chwestiynau 4 a 5 eich cais, y bu’n hawdd ei hadalw, a’i hamlinellu isod. Hyderaf fod hyn yn ddefnyddiol, ond nid yw’n effeithio ar ein hawl gyfreithiol i ddibynnu ar y rheoliadau ffioedd ar gyfer gweddill eich cais.
Ymateb i gwestiwn 4
Adroddiadau trosedd draffig a gyhoeddwyd ar gyfer troseddau yn ymwneud â pheipen egsôst:
2019 – 12
2020 – 5
2021 – 4
2022 – 6
2023 – 12
Ymateb i gwestiwn 5
Nid oes unrhyw wybodaeth gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â mentrau peipen egsôst swnllyd.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ddarperir fod yn gywir neu beidio. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 26 Mehefin 2024)