Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 486/2024
Cais:
Os yn bosibl hoffwn wybod o hyd faint o droseddau siop-ladrad a gafwyd rhwng 1 Mai 2019 a 1 Mai 2024 a ddigwyddodd mewn archfarchnadoedd yn hytrach na siopau cyffredin.
A hefyd o fewn y cyfnod hwnnw yr wybodaeth am nifer y troseddau siop-ladrad a arweiniodd at arestiad, nifer y troseddau siop-ladrad a arweiniodd at gyhuddiad neu wŷs a nifer y troseddau siop-ladrad a arweiniodd at beidio â chymryd unrhyw gamau pellach
Ymateb:
Gallaf gadarnhau y cedwir gwybodaeth gan Heddlu Dyfed-Powys ac fe’i amlinellir isod
Cwestiwn 1:
|
Nifer y troseddau siop-ladrad mewn archfarchnadoedd |
|
|
Arestiadau |
517 |
|
Cyhuddiadau |
321 |
|
Gwŷs |
42 |
|
Dim Gweithredu Pellach |
89 |
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol i heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd, a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu’r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a ddatgelwyd ar 4 Mehefin 2024)