Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 592/2024
Cais:
1) Ym mlwyddyn ariannol 2023/24 (1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024), faint o droseddau a gofnodwyd gan eich heddlu lle cofnodwyd Deliveroo fel elfen yn y drosedd? [Noder: Byddwn yn gobeithio y gellid canfod hyn trwy chwiliad cyfrifiadurol ar “faes crynodeb yr ymchwiliad” a/neu fynegai disgrifiadol troseddau ar gyfer y gair/geiriau “deliveroo, “deliver roo”.]
2) A fyddech cystal â rhoi tabl i mi sy’n cynnwys dadansoddiad o’r troseddau o gwestiwn 1 sy’n ‘gysylltiedig’ â Deliveroo trwy ei grybwyll yn y maes mynegai disgrifiadol/crynodeb o’r ymchwiliad.
3) Gan gymryd 1 Ebrill 2023 fel dyddiad cychwyn, a fyddech cystal â rhoi copïau i mi o’r 10 mynegai disgrifiadol/maes crynodeb cyntaf o’r ymchwiliad sy’n sôn am Deliveroo. [Noder: Er mwyn osgoi esemptiad, rwy’n fodlon i’r enwau, oedrannau, lleoliad daearyddol neu unrhyw fanylion eraill gael eu golygu er mwyn caniatáu datgelu’r digwyddiad a sut mae’n berthnasol i Deliveroo.]
Ymateb:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
0 trosedd.
Sylwch fod gennym un digwyddiad o dwyll lle mae Deliveroo yn cael ei grybwyll.Manylion a gymerwyd o’r mynegai disgrifiadol: Mae’r sawl a ddrwgdybir wedi defnyddio cerdyn banc y dioddefwr heb ganiatâd o fewn y ddau ddiwrnod diwethaf.Mae’r sawl a ddrwgdybir wedi cymryd £140 o gyfrif y dioddefwr i dalu am bethau ar eBay a Deliveroo.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddhawyd fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol i heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau troseddau i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd, a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu’r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 28 Mehefin 2024)